Cyfarfodydd
P-03-310 Polisiau'n sy'n Helpu i Ddiogelu Anghenion a Hawliau Disgyblion
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 01/11/2011 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6)
6 P-03-310 Polisïau sy’n helpu i Ddiogelu Anghenion a Hawliau Disgyblion
Dogfennau ategol:
- PET(4)-05-11 p12a Tudalen blaen, Eitem 6 PDF 27 KB Gweld fel HTML (6/1) 9 KB
- PET(4)-05-11 p12b Gohebiaeth gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau, Eitem 6 PDF 261 KB
- PET(4)-05-11 p12c Gohebiaeth gan y deisebydd, Eitem 6 PDF 96 KB
Cofnodion:
Cytunodd y Pwyllgor i wneud y canlynol:
anfon y ddeiseb ac unrhyw ohebiaeth gysylltiedig ymlaen i’r ymgynghoriad
ar y Bil Ysgolion a Safonau (Cymru);
cau’r ddeiseb ond hysbysu’r
deisebydd y byddai’r Pwyllgor yn fwy
na pharod i ystyried deiseb wedi’i haralleirio os nad yw’r
ymgynghoriad yn mynd i’r afael
â’i phryderon.
Cyfarfod: 12/07/2011 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)
3 P-03-310 Polisiau'n sy'n Helpu i Ddiogelu Anghenion a Hawliau Disgyblion
Dogfennau ategol:
- P-03-310 Polisiau'n sy'n Helpu i Ddiogelu Angehnion a Hawliau Disgyblion - Blaenddalen, Eitem 3 PDF 21 KB Gweld fel HTML (3/1) 16 KB
- Gohebiaeth gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau, Eitem 3 PDF 109 KB
- Gohebiaeth gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau - Crynodeb, Eitem 3 PDF 106 KB
Cofnodion:
Trafododd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am y ddeiseb hon.
Camau i’w cymryd
Cytunodd y Pwyllgor i:
· Ysgrifennu at y deisebwyr i ofyn am eu barn am y ddogfen sy’n ymateb i’r ymgynghoriad ac i ofyn iddynt egluro’r geiriau ‘i’w gwneud yn fwy cadarn, yn gryfach ac yn haws i’r cyhoedd fod yn rhan ohoni’ yn eu deiseb
· Ysgrifennu at y Gweinidog Addysg a Sgiliau i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am yr ymgynghoriad ar gyfleoedd deddfu i weithredu’r newidiadau i’r broses o drefnu ysgolion ac i nodi’r meysydd y mae’r deisebwyr yn credu sy’n annigonol.