Cyfarfodydd

P-03-309 Caerdydd yn erbyn y llosgydd

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 16/10/2012 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-03-309 Caerdydd yn erbyn y llosgydd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb hon a chytunodd i gau’r ddeiseb, oherwydd:

 

Bod y Gweinidog, mewn gohebiaeth i’r Pwyllgor, wedi mynd i’r afael â’r mater ynghylch a ddilynwyd y broses gynllunio’n gywir; ac

Y byddai’r Pwyllgor Deisebau yn cyhoeddi adroddiad yn fuan ar ddeiseb P-04-341 ynghylch gwastraff a llosgi.

 

Cytunodd y Pwyllgor y dylid hysbysu’r deisebwyr ar ôl i’r adroddiad hwnnw gael ei gyhoeddi.

 

 


Cyfarfod: 15/05/2012 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 7)

7 P-03-309 Caerdydd yn erbyn y llosgydd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth mewn cysylltiad â’r mater hwn a chytunodd i ysgrifennu at Weinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy i weld a ddilynwyd y broses gynllunio ar gyfer y llosgydd yn gywir.