Cyfarfodydd

Bil Safleoedd Carafannau Gwyliau (Cymru)

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 20/10/2014 - Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

Adroddiad Terfynol ar y Bil Safleoedd Carafannau Gwyliau (Cymru)

CLA(4)-25-14 – Papur 4– Adroddiad Terfynol

 

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 06/10/2014 - Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

Adroddiad Drafft ar y Bil Safleoedd Carafannau Gwyliau (Cymru)

CLA(4)-24-14 – Papur 6 – Adroddiad Drafft

 

 

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 25/09/2014 - Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 7)

7 Y Bil Safleoedd Carafannau Gwyliau (Cymru): Trafod adroddiad drafft Cyfnod 1

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft Cyfnod 1.

 


Cyfarfod: 17/09/2014 - Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 7)

Y Bil Safleoedd Carafannau Gwyliau (Cymru): Trafod adroddiad drafft Cyfnod 1

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor adroddiad Cyfnod 1.

 


Cyfarfod: 17/07/2014 - Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6)

Y Bil Safleoedd Carafannau Gwyliau (Cymru): Y Prif Faterion

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Bu’r Pwyllgor yn trafod y Bil Safleoedd Carafannau (Cymru): Y Prif Faterion

 


Cyfarfod: 25/06/2014 - Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Y Bil Safleoedd Carafannau Gwyliau (Cymru) - Sesiwn Dystiolaeth 6: Darren Millar AC

Darren Millar AC

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Darren Millar AC, a'i swyddogion. 

 

 


Cyfarfod: 25/06/2014 - Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

Y Bil Safleoedd Carafannau Gwyliau (Cymru): Cyfnod 1 - trafod sesiwn dystiolaeth 6

Cofnodion:

4.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law gan Darren Millar AC.

 


Cyfarfod: 19/06/2014 - Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6)

Ystyriaeth o ohebiaeth gan Darren Millar AC mewn perthynas â'r Bil Safleoedd Carafanau Gwyliau (Cymru)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1. Bu’r Pwyllgor yn trafod yr ohebiaeth gan Darren Millar AC mewn perthynas â’r Bil Safleoedd Carafannau Gwyliau (Cymru).

 

 


Cyfarfod: 11/06/2014 - Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 7)

Y Bil Safleoedd Carafannau Gwyliau (Cymru): Cyfnod 1 - trafod sesiwn dystiolaeth 3, 4 a 5

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd yn ystod eitemau 2, 3 a 4.

 


Cyfarfod: 11/06/2014 - Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 Y Bil Safleoedd Carafannau Gwyliau (Cymru): Cyfnod 1 – Sesiwn dystiolaeth 4

Cymdeithas Genedlaethol y Perchnogion Carafannau (NACO)

Steve Munro, Cyfarwyddwr

Dan Ellacott, Tîm Cynghori

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Gymdeithas Genedlaethol Perchnogion Carafannau.

 

3.2 Yn ystod y sesiwn, cytunodd y Gymdeithas Genedlaethol Perchnogion Carafannau i ddarparu'r wybodaeth ganlynol i'r Pwyllgor:

  • dadansoddiad o enghreifftiau ysgrifenedig o'r 1,200 o gwynion a ddaeth i law mewn blwyddyn gan berchnogion carafannau;
  • nodyn am farn y gymdeithas am y cynnig i gyflwyno gorchmynion ad-dalu, a fyddai'n galluogi deiliad carafannau gwyliau i wneud cais i lys ynadon i adennill taliadau penodol a wnaed gan feddiannydd i berchennog safle sydd heb drwydded;
  • nodyn ynghylch a oes angen cyflwyno prawf person addas a phriodol ar gyfer rheolwyr safle carafannau gwyliau.

 


Cyfarfod: 11/06/2014 - Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Y Bil Safleoedd Carafannau Gwyliau (Cymru): Cyfnod 1 – Sesiwn dystiolaeth 3

Carl Sargeant, y Gweinidog Tai ac Adfywio

Alyn Williams, Tim Tai Sector Preifat

Helen Kellaway, Gwasanaethau Cyfreithiol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Cafodd y pwyllgor dystiolaeth gan Carl Sargeant, y Gweinidog Tai ac Adfywio, a'i swyddogion. 

 


Cyfarfod: 11/06/2014 - Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 Y Bil Safleoedd Carafannau Gwyliau (Cymru): Cyfnod 1 – Sesiwn dystiolaeth 5

Cymdeithas Parciau Gwyliau a Pharciau Cartrefi Prydain

Ros Pritchard OBE, Cyfarwyddwr Cyffredinol

Mr Huw Pendleton, Cadeirydd a Rheolwr Gyfarwyddwr Cenedlaethol o Barc Gwyliau Celtic

 

Y Cyngor Carafannau Cenedlaethol

Alicia Dunne, Dirprwy Gyfarwyddwr Cyffredinol

Judith Archibold, Cyfarwyddwraig Gwasanaethau Cyfreithiol a Chorfforaethol, Parkdean Holidays Limited (cwmni sy’n aelod o’r Cyngor Carafannau Cenedlaethol)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Gymdeithas Parciau Gwyliau a Chartrefi Prydain a'r Cyngor Carafannau Cenedlaethol.

 

4.2 Yn ystod y sesiwn, cytunodd Cymdeithas Parciau Gwyliau a Pharciau Cartrefi Prydain i ddarparu nodyn ar y cyfraddau busnes a delir gan barciau carafannau i awdurdodau lleol yng Nghymru, a gafodd ei gynnwys yn ei hastudiaeth gyda Croeso Cymru yn 2011.

 


Cyfarfod: 09/06/2014 - Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 Tystiolaeth mewn perthynas â’r Bil Safleoedd Carafannau Gwyliau (Cymru)

(Amser a ddynodwyd: 13.30 – 14.15)

Carl Sargeant AC, y Gweinidog Tai ac Adfywio

 

 

 

(Amser a ddynodwyd: 14.15 – 15.00)

Darren Millar AC, yr Aelod sy'n gyfrifol am y Bil Safleoedd Carafannau Gwyliau (Cymru)

 

CLA(4)-16-14 – Papur 3 - Llythyr gan Carl Sargeant AC, y Gweinidog Tai ac Adfywio, tystiolaeth ysgrifenedig i'r Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol, 28 Mai 2014

CLA(4)-16-14 – Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

CLA(4)-16-14 – Nodyn Cyngor Cyfreithiol

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Carl Sargeant AC, y Gweinidog Tai ac Adfywio.  

 

Cafodd y Pwyllgor hefyd dystiolaeth gan Darren Millar AC, yr Aelod sy'n gyfrifol am y Bil Safleoedd Carafannau Gwyliau (Cymru).

 


Cyfarfod: 05/06/2014 - Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

Y Bil Safleoedd Carafannau Gwyliau (Cymru): Cyfnod 1 - trafod sesiwn dystiolaeth 2

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd yn sesiwn 2 ar y Bil Safleoedd Carafannau Gwyliau (Cymru). 

 


Cyfarfod: 05/06/2014 - Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Y Bil Safleoedd Carafannau Gwyliau (Cymru): Cyfnod 1 – Sesiwn dystiolaeth 2

Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

Simon Wilkinson, Swyddog Polisi Gwasanaethau Rheoleiddio

 

Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

Y Cynghorydd Philip Evans

Nick Jones, Rheolwr Gorfodi Tai a'r Amgylchedd

 

Cyngor Gwynedd

Gareth Jones, Uwch-reolwr y Gwasanaeth Cynllunio a’r Amgylchedd

 

Cyngor Sir Penfro

Samantha Hancock, Uwch-swyddog Iechyd yr Amgylchedd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Cyngor Gwynedd a Chyngor Sir Penfro.

 

Yn ystod y sesiwn, cytunodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i ddarparu tystiolaeth ar gwynion a wnaed i unrhyw un o'r 22 awdurdod lleol yng Nghymru ynghylch pobl yn camddefnyddio carafannau gwyliau drwy breswylio ynddynt. 

 

Yn ogystal, gofynnodd y Pwyllgor i weld y dystiolaeth o gamddefnyddio carafannau gwyliau a gasglwyd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn 2007 ar gyfer ei arolwg o'r boblogaeth symudol, y cyfeiriwyd ato yn ystod y sesiwn, ac unrhyw dystiolaeth o gamddefnyddio dilynol i'r astudiaeth hon.

 


Cyfarfod: 07/05/2014 - Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Y Bil Safleoedd Carafannau Gwyliau (Cymru): Cyfnod 1 - Sesiwn Dystiolaeth 1 - Darren Millar AC

Darren Millar AC, Aelod sy’n Gyfrifol

Gareth Howells, Cynghorydd Cyfreithiol, Comisiwn y Cynulliad

Jonathan Baxter, Ymchwilydd, Comisiwn y Cynulliad

 

Bil Safleoedd Safleoedd Carafannau Gwyliau (Cymru)

 

Memorandwm Esboniadol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1. Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Darren Millar AC, yr Aelod sy’n gyfrifol, a’i swyddogion.

 

2.2. Cytunodd Darren Millar AC i ddarparu nodyn mewn perthynas â chyfleoedd ar gyfer diogelu defnyddwyr a allai godi o’r Bil.

 


Cyfarfod: 07/05/2014 - Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

Y Bil Safleoedd Carafannau Gwyliau (Cymru): Cyfnod 1 – trafod sesiwn dystiolaeth 1

Cofnodion:

5.1. Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd yn y sesiwn dystiolaeth gyntaf ar y Bil Safleoedd Carafannau Gwyliau (Cymru).

 

5.2. Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Darren Millar AC am y canlynol:

  • cwestiynau a oedd yn weddill na chafwyd cyfle i droi atynt yn ystod yr amser a oedd ar gael;
  • pwyntiau a godwyd yn ystod y cyfarfod yr hoffai gael eglurhad pellach arnynt.

 


Cyfarfod: 30/04/2014 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 1)

Y Bil Safleoedd Carafannau Gwyliau (Cymru): Goblygiadau Ariannol y Bil

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd yr Aelodau y papur briffio ar y Bil Safleoedd Carafannau Gwyliau (Cymru) a chytunwyd na fyddent yn gwahodd yr Aelod sy’n gyfrifol (Darren Millar AC) i ateb cwestiynau am oblygiadau ariannol y Bil oni bai bod y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol yn nodi pryderon yn ystod ei gyfnod o graffu ar y Bil.

 


Cyfarfod: 27/03/2014 - Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6)

6 Y Bil Safleoedd Carafannau Gwyliau (Cymru): Trafod dull y Pwyllgor o graffu ar y Bil yng Nghyfnod 1

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor gwmpas y broses o graffu ar y Bil yng Nghyfnod 1 a dull y Pwyllgor o wneud hynny.

 


Cyfarfod: 19/03/2014 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4.)

Datganiad gan Darren Millar: Cyflwyno Bil arfaethedig Aelod - Bil Safleoedd Carafannau Gwyliau (Cymru)

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 15.14


Cyfarfod: 05/03/2014 - Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 Y Bil Meysydd Carafannau Gwyliau (Cymru): Trafod yr amserlen arfaethedig

Dogfennau ategol:

  • CELG(4)-07-14 Papur 2 (Saesneg yn unig)

Cofnodion:

4.1 The  Committee considered the proposed timetable.