Cyfarfodydd

P-03-240 Diogelwch ar ffordd yr A40 yn Llanddewi Felffre

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 22/09/2015 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-03-240 Diogelwch ar ffordd yr A40 yn Llanddewi Felffre

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i gau'r ddeiseb, gan ddiolch i'r deisebwyr am eu dyfalbarhad yn gweithio ar y ddeiseb.

 


Cyfarfod: 02/06/2015 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-03-240 Diogelwch ar ffordd yr A40 yn Llanddewi Felffre

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:

 

  • ysgrifennu at y Gweinidog i ofyn ei farn am bryderon y deisebydd; a
  • gofyn i'r Gweinidog roi diweddariad pellach ar y cynnydd maes o law.

 


Cyfarfod: 24/03/2015 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 P-03-240 Diogelwch ar ffordd yr A40 yn Llanddewi Felffre

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog yn gofyn am linell amser ar welliannau i'r A40. 

 


Cyfarfod: 25/03/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 P-03-240 Diogelwch ar ffordd yr A40 yn Llanddewi Felffre

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog:

 

·         i gael ei barn am awgrym y deisebydd ynghylch yr arwyddion rhybuddio o ran cyfyngiadau cyflymder ac, yn benodol:

o   ei barn ynghylch awgrym y deisebydd y byddai arwyddion sy'n dangos gwir gyflymder cerbydau yn llawer llai costus ac yn fwy effeithiol;

o   gwybodaeth bellach am gostau'r gwahanol arwyddion rhybuddio; a

  • gwybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd o ran penodi Asiant Cyflogwyr

 


Cyfarfod: 10/12/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-03-240 Diogelwch ar ffordd yr A40 yn Llanddewi Felffre

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:

 

·         nodi ymateb y Gweinidog a'r ffaith ei bod wedi addo i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor am unrhyw ddatblygiadau; a

·         gofyn i'r deisebwyr eto a oes ganddynt unrhyw sylwadau i'w gwneud am lythyr y Gweinidog.

 


Cyfarfod: 24/09/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-03-240 Diogelwch ar ffordd yr A40 yn Llanddewi Felffre

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i nodi ymateb y Gweinidog a gofyn iddi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor gydag amserlen ar gyfer ei ystyried ac unrhyw ddatblygiadau eraill ar y materion a godwyd yn sylwadau'r deisebydd.


Cyfarfod: 16/07/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 P-03-240 Diogelwch ar ffordd yr A40 yn Llanddewi Felffre

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth i gael y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch cynllun gwella’r A40 LlanddewiPenblewin.


Cyfarfod: 04/06/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

5 P-03-240 Diogelwch ar ffordd yr A40 yn Llanddewi Felffre

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth gan rannu gohebiaeth y deisebwr a holi am:

 

·         ragor o wybodaeth am wella ffyrdd cyswllt

·         y wybodaeth ddiweddaraf am yr adolygiad o gyfyngderau cyflymder yr A40 rhwng Llanddewi Felffre a chylchfan Scotchwell; ac am

·         y wybodaeth ddiweddaraf am y Cynllun Gwella Llanddewi-Penblewin.

 

 


Cyfarfod: 19/03/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-03-240 Diogelwch ar ffordd yr A40 yn Llanddewi Felffre

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at;

·         Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth i ofyn bod y Pwyllgor yn cael gwybod canlyniad y cais; a

·         Chomisiynydd newydd yr Heddlu ar gyfer Heddlu Dyfed Powys, i’w hysbysu am y ddeiseb.

 

Rhoddodd Joyce Watson y wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor am ei hymweliad diweddar â’r safle, i weld y materion ynghylch diogelwch ffordd ar yr A40 yn Llanddewi Felffre drosti ei hun. Diolchodd y deisebwyr am eu lletygarwch a chytunodd i rannu’r ffotograffau o’r ymweliad gyda’r Pwyllgor.


Cyfarfod: 29/01/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-03-240 Diogelwch ar ffordd yr A40 yn Llanddewi Felffre

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn ystyried gohebiaeth am y ddeiseb, a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau yn gofyn i’r Pwyllgor gael gwybod pan fydd penderfyniad ar gyllid wedi cael ei wneud. Oherwydd bod ffordd osgoi flynyddoedd i ffwrdd, bod y Pwyllgor hefyd yn gofyn a ellir gwneud gwaith yn y cyfamser i helpu i leddfu pryderon ynghylch diogelwch llwybrau troed a chroesfannau.

 

Nododd Joyce Watson y byddai’n fodlon ymweld â Chyngor Cymuned Llanddewi Felffre.


Cyfarfod: 06/11/2012 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-03-240 Diogelwch ar ffordd yr A40 yn Llanddewi Felffre

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog i holi pa mor debygol ydyw y bydd y cais y soniodd amdano yn ei lythyr yn llwyddo.

 

 


Cyfarfod: 11/10/2011 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-03-240 Diogelwch ar ffordd yr A40 yn Llanddewi Felffre

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i:

aros am gasgliadau adolygiad y Gweinidog o derfynau cyflymder ar gefnffyrdd; ac

anfon ymateb y Gweinidog at y deisebwyr a rhoi gwybod iddynt y bydd y Pwyllgor yn dychwelyd at eu deiseb ar ôl clywed casgliadau'r adolygiad.

 


Cyfarfod: 12/07/2011 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-03-240 Diogelwch ar ffordd yr A40 yn Llanddewi Felffre

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am y deisebau hyn.

 

Camau i’w cymryd

Cytunodd y Pwyllgor i:

·         Ysgrifennu at y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau i ofyn a gynhaliwyd yr arolygon ar derfynau cyflymder ac, os y gwnaed hynny, beth oedd y canfyddiadau, ac i bwysleisio’r angen am ateb brys i’r mater o wella diogelwch ar y ffordd.