Cyfarfodydd
P-03-238 Llygredd ym Mornant Porth Tywyn
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 10/10/2012 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3.)
Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Deisebau ar Lygredd ym Mornant Porth Tywyn
NDM5057 William
Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Deisebau ar Ddeiseb P-03-238: Llygredd ym Mornant Porth Tywyn, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 16 Gorffennaf 2012.
Noder: Gosodwyd ymateb Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy ar 3 Hydref 2012.
Dogfennau
ategol:
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 14:55
NDM5057
William Powell (Canolbarth a Gorllewin
Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Deisebau ar Ddeiseb P-03-238: Llygredd ym Mornant Porth Tywyn, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 16 Gorffennaf 2012.
Noder: Gosodwyd ymateb Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy ar 3 Hydref 2012.
Derbyniwyd y cynnig
yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Cyfarfod: 19/06/2012 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 7)
P-03-238 Llygredd ym Mornant Porth Tywyn - adroddiad drafft
Cofnodion:
Cytunodd y Pwyllgor ar yr adroddiad, y mae rhai newidiadau i’w gwneud iddo, a gofynnodd a fyddai modd i Aelodau Cymru o Senedd Ewrop gael copi pan fydd yn cael ei gyhoeddi.
Cyfarfod: 15/05/2012 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)
3 P-03-238 Llygredd ym Mornant Porth Tywyn - Trafod y dystiolaeth
Dogfennau ategol:
Cofnodion:
Datganodd Joyce
Watson fuddiant gan fod y deisebydd yn aelod o’i staff cymorth.
Cytunodd y
Pwyllgor i lunio adroddiad byr ar y pwnc ac i wneud cais am ddadl yn y Cyfarfod
Llawn.
Cyfarfod: 01/05/2012 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)
5 P-03-238 Llygredd ym Mornant Porth Tywyn – sesiwn dystiolaeth lafar
Steve Brown, Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru
Kathryn Monk, Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru
Tony Harrington, Dŵr Cymru
Fergus O’Brien, Dŵr
Cymru
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 5 PDF 47 KB Gweld fel HTML (5/1) 3 KB
- Burry Port Site Visit - Note, Eitem 5 PDF 268 KB Gweld fel HTML (5/2) 12 KB
- Environment Agency Wales paper, Eitem 5 PDF 160 KB Gweld fel HTML (5/3) 23 KB
- Supplementary - Environment Agency Wales paper, Eitem 5 PDF 35 KB
- Dwr Cymru paper, Eitem 5 PDF 905 KB
Cofnodion:
Bu’r tystion yn ateb cwestiynau gan y Pwyllgor.
Cytunodd Dŵr Cymru i rannu manylion â’r Pwyllgor ynghylch dŵr wyneb a’i waith ar ddraenio cynaliadwy dinesig yn yr ardal.
Cytunodd y tystion i ymateb yn ysgrifenedig i unrhyw gwestiynau na chafwyd amser i’w gofyn yn y cyfarfod.
Cyfarfod: 13/03/2012 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)
3 P-03-238 Llygredd ym Mornant Porth Tywyn - trafod ymweliad y Pwyllgor â'r safle
Dogfennau ategol:
- PET(4)-05-12 p3a Tudalen flaen, Eitem 3 PDF 51 KB Gweld fel HTML (3/1) 4 KB
- PET(4)-05-12 p3b Ymweliad â Porth Tywyn - Nodyn - Saesneg yn unig, Eitem 3 PDF 274 KB Gweld fel HTML (3/2) 13 KB
Cofnodion:
Gan nad oedd llawer o’r Aelodau a aeth ar ymweliad safle â Phorth Tywyn gyda’r Pwyllgor, yn bresennol yn y cyfarfod, cytunodd y Pwyllgor i ohirio trafodaeth sylweddol am yr ymweliad nes y byddai’r Aelodau hynny’n bresennol.
Cytunodd y Pwyllgor hefyd i wahodd Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru a Dŵr Cymru Welsh Water i gyflwyno tystiolaeth lafar mewn cyfarfod o’r Pwyllgor yn y dyfodol.