Cyfarfodydd

P-03-296 Cynigion annheg ar fenthyciadau i fyfyrwyr

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 24/01/2012 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-03-296 Cynigion annheg ar fenthyciadau i fyfyrwyr

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i anfon llythyr y Gweinidog at y deisebwyr er mwyn cael eu sylwadau, gyda golwg ar gau’r ddeiseb os ydynt yn fodlon.

 


Cyfarfod: 12/07/2011 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-03-296 Cynigion annheg ar fenthyciadau i fyfyrwyr

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am y ddeiseb hon. 

 

Camau i’w cymryd

·         Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog Addysg a Sgiliau i ofyn am fwy o fanylion ynghylch y cyfraddau llog amrywiol a godir ar raddedigion ar eu benthyciadau myfyrwyr ac ynghylch ehangu’r cymalau mynediad ar gyfer y sefydliadau hynny sy’n dymuno codi ffi uwch, ac i ofyn sut y bydd cynlluniau ffioedd newydd sefydliadau addysg uwch yn effeithio ar y pryderon a fynegwyd yn y ddeiseb.