Cyfarfodydd
P-03-204 Atebolrwydd i'r cyhoedd ac ymgynghoriadau cyhoeddus ym maes Addysg Uwch
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 27/09/2011 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)
3 P-03-204 Atebolrwydd i'r cyhoedd ac ymgynghoriadau cyhoeddus ym maes Addysg Uwch
Dogfennau ategol:
- P-03-204 Atebolrwydd i'r cyhoedd ac ymgynghoriadau cyhoeddus ym maes Addysg Uwch - Tudalen flaen, Eitem 3 PDF 27 KB Gweld fel HTML (3/1) 6 KB
- 2011.07.29 Y Gweinidog Addysg a Sgiliau at y Cadeirydd - Saesneg yn unig, Eitem 3 PDF 369 KB
- 2011.08.18 Deisebydd at y Pwyllgor - Saesneg yn unig, Eitem 3 PDF 113 KB
Cofnodion:
Bu’r Pwyllgor yn trafod y wybodaeth ddiweddaraf am y ddeiseb hon.
Camau i’w cymryd
Cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb ac argymell bod y deisebwyr yn trafod unrhyw bryderon pellach gyda’u Haelodau rhanbarthol ac etholaeth unwaith y bydd y Gweinidog Addysg a Sgiliau wedi cyhoedi’i ymateb i’r Adolygiad o Lywodraethu Addysg Uwch yng Nghymru.
Cyfarfod: 12/07/2011 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)
3 P-03-204 Atebolrwydd i'r cyhoedd ac ymgynghoriadau cyhoeddus ym maes Addysg Uwch
Dogfennau ategol:
- P-03-204 Atebolrwydd i'r cyhoedd ac ymgynghoriadau cyhoeddus ym maes Addysg Uwch, Eitem 3 PDF 22 KB Gweld fel HTML (3/1) 15 KB
- Gohebiaeth gan y deisebydd, Eitem 3 PDF 385 KB
Cofnodion:
Trafododd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am y ddeiseb hon.
Camau i’w cymryd
· Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog Addysg a Sgiliau i ofyn sut mae’r Llywodraeth yn bwriadu ymateb i argymhellion yr Arolwg ar Lywodraethiant Addysg Uwch, i nodi pryderon y deisebwyr ynghylch y diffyg ymgynghori yn y sector addysg uwch, ac i ofyn sut y bydd y Llywodraeth yn ystyried pryderon y deisebwyr wrth symud ymlaen.