Cyfarfodydd

P-04-532 Gwella Gwasanaethau Niwrogyhyrol Arbenigol yng Nghymru

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 27/06/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-04-532 Gwella Gwasanaethau Niwrogyhyrol Arbenigol yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor sylwadau pellach gan y deisebydd ac, o ystyried bod sylw manwl wedi'i roi i'r ddeiseb hon dros nifer o flynyddoedd a'r ymatebion cynhwysfawr diweddar gan y byrddau iechyd, cytunwyd i gau'r ddeiseb ar y sail y byddai'n well i'r materion sy'n weddill gael eu datrys ar lefel weithredol. Wrth wneud hynny, cytunodd Aelodau i roi cynigion pellach y deisebwyr i Lywodraeth Cymru er gwybodaeth gan ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon a fyddai'n barod i gyfarfod â nhw.

 


Cyfarfod: 23/05/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-04-532 Gwella Gwasanaethau Niwrogyhyrol Arbenigol yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a gafwyd ynghylch y ddeiseb a chytunodd i aros am sylwadau'r deisebydd cyn penderfynu ar unrhyw gamau priodol i'w cymryd.

 


Cyfarfod: 07/03/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-04-532 Gwella Gwasanaethau Niwrogyhyrol Arbenigol yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a gafwyd ynghylch y ddeiseb a chytunodd ar y camau a ganlyn:

 

  • ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon i ofyn a oes modd rhoi'r sicrwydd i'r deisebwyr y maent yn ei geisio ynghylch:
    • a yw fforwm gwneud penderfyniadau cenedlaethol gydag adnoddau yn ddigon ymwybodol o'r risgiau gwasanaeth ac yn pennu blaenoriaeth wybodus i'r sefyllfa; a
    • bod gwasanaethau niwrogyhyrol yn cael eu cynnwys o fewn cwmpas yr adolygiad cenedlaethol o niwrowyddorau yng Nghymru sy'n cael ei arwain gan WHSSC
  • ysgrifennu at yr holl Fyrddau Iechyd Lleol i gael eu barn ar y materion a godwyd gan y ddeiseb.

 

 

 


Cyfarfod: 11/01/2017 - Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon - Y Bumed Senedd (Eitem 5)

5 Gohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Llesiant a Chwaraeon ynghylch gwella Gwasanaethau Niwrogyhyrol Arbenigol yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.3a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Llesiant a Chwaraeon ynghylch gwella Gwasanaethau Niwrogyhyrol Arbenigol yng Nghymru

 


Cyfarfod: 15/11/2016 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-04-532 Gwella Gwasanaethau Niwrogyhyrol Arbenigol yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a gafwyd ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ofyn i'r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon rannu copi o ymateb Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon pan fydd wedi dod i law, ac i ofyn am ragor o sylwadau gan y deisebydd bryd hynny.

 


Cyfarfod: 19/10/2016 - Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon - Y Bumed Senedd (Eitem 7)

7 Trafod deiseb P-04-532 Gwella Gwasanaethau Niwrogyhyrol Arbenigol yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Cafodd y Pwyllgor drafodaeth bellach ynghylch Deiseb P-04-532 a nododd fod y Cynllun Cyflawni ar gyfer Cyflyrau Niwrolegol i'w adnewyddu yn 2017. Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon i ofyn am y diweddaraf ynghylch yr amcanion perthnasol a'r camau penodol y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd.

 


Cyfarfod: 29/09/2016 - Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon - Y Bumed Senedd (Eitem 11)

11 Trafod Deiseb P-04-532 Gwella Gwasanaethau Niwrogyhyrol Arbenigol yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

11.1 Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau a gofynnodd am rywfaint o wybodaeth gefndirol ychwanegol gan y Gwasanaeth Ymchwil cyn ystyried y mater ymhellach mewn cyfarfod diweddarach.

 


Cyfarfod: 08/03/2016 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-532 Gwella Gwasanaethau Niwrogyhyrol Arbenigol yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i:

·         ofyn i’r Pwyllgor Iechyd nesaf ystyried y materion a nodwyd yn y ddeiseb ac i rannu gohebiaeth Byrddau Iechyd gyda nhw ac, yn dibynnu ar eu penderfyniad;

·         cynghori’r Pwyllgor Deisebau nesaf gynnal darn byr o waith ar y mater.

 

 


Cyfarfod: 03/12/2015 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6)

6 P-04-532 Gwella Gwasanaethau Niwrogyhyrol Arbenigol yng Nghymru: gohebiaeth gan y Pwyllgor Deisebau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.3a Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth.

 


Cyfarfod: 06/10/2015 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-532 Gwella Gwasanaethau Niwrogyhyrol Arbenigol yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Datganodd Bethan Jenkins y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

Hi yw Cadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol ar Nychdod Cyhyrol a Chyflyrau Niwrogyhyrol.

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i:

  • holi Byrddau Iechyd sut y gall manteision amser ychwanegol gydag ymgynghorwyr niwrogyhyrol (a nodwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg yn arbennig) gael eu gwireddu ar draws Cymru.
  • ysgrifennu at y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn gofyn iddo ystyried y mater fel rhan o’i flaenraglen waith.

 

 


Cyfarfod: 10/03/2015 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 P-04-532 Gwella Gwasanaethau Niwrogyhyrol Arbenigol yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at:

 

  • y Byrddau Iechyd a Phwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru i ofyn iddynt ystyried y camau penodol y mae llythyr y deisebydd yn galw amdanynt;
  • y Gweinidog yn gofyn am y wybodaeth ddiweddaraf ar y mater nawr bod apwyntiad yn ei le; ac
  • y Grŵp trawsbleidiol ar Gyflyrau Dystroffi'r Cyhyrau a Niwrogyhyrol fel eu bod yn ymwybodol o'r sefyllfa ddiweddaraf.

 

 


Cyfarfod: 25/11/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 P-04-532 Gwella Gwasanaethau Niwrogyhyrol Arbenigol yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:

 

  • ofyn i’r Gweinidog am gael gwybod am y cynnydd a wneir o ran penodi olynydd i Dr Andrew Goodall; a
  • gofyn am ymateb gan y byrddau iechyd nad ydynt wedi ymateb i lythyr gwreiddiol y Pwyllgor eto, gan gopïo’r llythyr i’r Gweinidog Iechyd. 

 

 


Cyfarfod: 15/07/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 Gwella Gwasanaethau Niwrogyhyrol Arbenigol yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:

 

·         ysgrifennu at y Gweinidog i ofyn am y cynnydd o ran penodi olynydd i Dr Andrew Goodall fel Cadeirydd Rhwydwaith Niwrogyhyrol Cymru ac am y cynnydd o ran y materion eraill a nodwyd gan y deisebwyr; ac

·         yn gofyn am ymatebion gan y Byrddau Iechyd nad ydynt wedi ymateb i lythyr gwreiddiol y Pwyllgor.

 


Cyfarfod: 04/02/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 P-04-532 Gwella Gwasanaethau Niwrogyhyrol Arbenigol yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at:

 

·         y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol; a’r

·         holl Fyrddau Iechyd Lleol

 

i ofyn eu barn am y ddeiseb.