Cyfarfodydd

P-03-187 Diddymu'r Tollau ar ddwy Bont Hafren

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 19/03/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-03-187 Diddymu'r Tollau ar ddwy Bont Hafren

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb, ac oherwydd na fydd y tollau’n cael eu diddymu yn y tymor byr, cytunodd i gau’r ddeiseb.


Cyfarfod: 29/01/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-03-187 Diddymu’r Tollau ar ddwy Bont Hafren

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn ystyried yr adroddiad ar effaith economaidd y Tollau ar ddwy Bont Hafren a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau i ofyn pa gamau y mae’r Llywodraeth yn bwriadu eu cymryd yn dilyn cyhoeddi’r astudiaeth, gyda’r bwriad o gau’r ddeiseb unwaith i’r wybodaeth hon ddod i law.

 


Cyfarfod: 12/07/2011 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-03-187 Diddymu'r Tollau ar ddwy Bont Hafren

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am y ddeiseb hon.  

 

Camau i’w cymryd

Cytunodd y Pwyllgor i:

·         Ysgrifennu at y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau i ofyn a ellir hysbysu’r Pwyllgor pan fydd y gwaith effaith economaidd wedi’i gwblhau, pryd y bydd hynny’n debygol o ddigwydd a pha ddulliau a thechnegau mesur a ddefnyddiwyd yn yr astudiaeth effaith;

·         Ailystyried y ddeiseb pan fydd yr astudiaeth effaith economaidd wedi’i gwblhau.