Cyfarfodydd

P-03-156 Dal Anadl wrth Gysgu

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 29/11/2011 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

5 P-03-156 Dal Anadl wrth Gysgu

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 11/10/2011 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-03-156 Dal anadl wrth gysgu

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i:

ysgrifennu at y Gweinidog yn gofyn iddi roi sicrwydd y bydd arian digonol yn cael ei glustnodi ar gyfer safonau gofynnol grŵp cynghori'r gwasanaethau cenedlaethol ar anadlu yn y cylch cyllideb sydd i ddod, a rhoi gwybod i’r deisebwr am y cam hwnnw; a

chau’r ddeiseb, o ystyried y lefelau o gydymffurfio a nodwyd gan y Gweinidog.

 

 


Cyfarfod: 12/07/2011 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-03-156 Dal anadl wrth gysgu

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am y ddeiseb hon. 

 

Camau i’w cymryd

·         Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ofyn a oedd pawb wedi cydymffurfio â’r Cyfarwyddebau Salwch Anadlol Cronig erbyn y dyddiad olaf ar gyfer gwneud hynny, ac i ofyn am fwy o fanylion ynghylch sut y bydd cydymffurfio llawn yn arwain at welliannau mewn gwasanaethau i ymdrin â dal anadl wrth gysgu.