Cyfarfodydd

Gwasanaeth Awyr oddi mewn i Gymru – Caerdydd i Ynys Môn - Y Pedwerydd Cynulliad

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 11/02/2016 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Gwasanaeth Awyr oddi mewn i Gymru – Caerdydd i Ynys Môn: Llythyr oddi wrth Simon Jones, Llywodraeth Cymru - 27 Ionawr 2016

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 03/11/2015 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 Gwasanaeth Awyr oddi mewn i Gymru - Caerdydd i Ynys Môn: Llythyr oddi wrth Gyfarwyddwr Dros Dro Trafnidiaeth ac Isadeiledd TGCh Llywodraeth Cymru (28 Hydref 2015)

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 29/09/2015 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6)

6 Gwasanaeth Awyr oddi mewn i Gymru - Caerdydd i Ynys Môn: Trafod ymateb Llywodraeth Cymru

PAC(4)-24-15 Papur 4

PAC(4)-24-15 Papur 5

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Nododd yr Aelodau ymateb Llywodraeth Cymru i Adroddiad y Pwyllgor a sylwadau'r Archwilydd Cyffredinol yn ei gylch.

6.2 Cytunodd yr Aelodau y dylai'r Cadeirydd ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i ofyn am ragor o eglurhad ynglŷn ag ymateb y llywodraeth i argymhellion yr Adroddiad.

 


Cyfarfod: 30/06/2015 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 8)

8 Gwasanaeth Awyr oddi mewn i Gymru - Caerdydd i Ynys Môn: Trafod yr adroddiad drafft

PAC(4)-19-15 Papur 3

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

8.1 Trafododd yr Aelodau yr adroddiad drafft. Oherwydd bod amser yn brin, nid oedd yn bosibl iddynt ystyried yr adroddiad yn ei gyfanrwydd, a chytunwyd i ystyried yr eitem yn y cyfarfod nesaf.

 


Cyfarfod: 05/05/2015 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 Gwasanaeth Awyr oddi mewn i Gymru - Caerdydd i Ynys Môn

PAC(4)-12-15 Papur 2

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Nododd yr Aelodau yr Adroddiad Arup a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ar ddiwedd mis Mawrth, a thrafodwyd ef.

4.2 Gofynnodd yr Aelodau i’r Clercod baratoi adroddiad drafft i’w ystyried.

 


Cyfarfod: 10/02/2015 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Gwasanaeth Awyr oddi mewn i Gymru: Llythyr gan James Price, Llywodraeth (2 Chwefror 2015)

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 20/01/2015 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 Gwasanaethau awyr oddi mewn i Gymru - Caerdydd i Ynys Môn: Sesiwn dystiolaeth 3

PAC(4)-02-15 Papur 1 – Llythyr gan James Price, Llywodraeth Cymru

Crynodeb Gweithredol o Adolygiad ARUP

Papur Briffio Swyddfa Archwilio Cymru

 

James Price - Cyfarwyddwr Cyffredinol - Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth, Llywodraeth Cymru

Gareth Morgan – Dirprwy Gyfarwyddwr, Cyflenwi, Llywodraeth Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth bellach gan James Price, Cyfarwyddwr Cyffredinol Busnes, Menter a Thechnoleg, a Gareth Morgan, Dirprwy Gyfarwyddwr Cyflenwi, ill dau o Lywodraeth Cymru.

 

3.2 Cytunodd James Price y byddai’n gwneud y canlynol:

 

·         cadarnhau’r dyddiad y penderfynwyd ail-dendro’r Gwasanaeth Awyr rhwng Caerdydd ac Ynys Môn; a phryd cafodd Arup ei gomisiynu i gefnogi'r broses ail-dendro;

·         rhoi gwybodaeth ynghylch profiad Arup o ran darparu cyngor yn y maes ym Mhrydain a pham mai Arup yn benodol a ddewiswyd;

·         rhoi nodyn yn cadarnhau i ba raddau yr oedd y cynnydd o 15% yn archebion gwasanaethau'r llynedd oherwydd y strategaeth farchnata newydd yn uniongyrchol a sut mae Llywodraeth Cymru’n bwriadu gwerthuso'r strategaeth hon; a

·         rhannu adroddiad adolygedig Arup pan fydd ar gael.

 

 


Cyfarfod: 20/01/2015 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

Gwasanaethau awyr oddi mewn i Gymru - Caerdydd i Ynys Môn: Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd gan Lywodraeth Cymru.

 


Cyfarfod: 09/12/2014 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 Gwasanaeth Awyr oddi mewn i Gymru – Caerdydd i Ynys Môn

PAC(4)-32-14 papur 1

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Trafododd y Pwyllgor lythyr gan James Price, Cyfarwyddwr Cyffredinol Adran yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth, Llywodraeth Cymru.

 


Cyfarfod: 04/11/2014 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Gwasanaeth Awyr oddi mewn i Gymru - Caerdydd i Ynys Môn: Llythyr gan James Price (6 Hydref 2014)

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 16/09/2014 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

5 Gwasanaeth Awyr oddi mewn i Gymru - Caerdydd i Ynys Môn: Trafod yr ymateb gan Lywodraeth Cymru

PAC(4)-22-14 (papur 4)

PAC(4)-22-14 (papur 5)

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Ystyriodd y Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru a chytunwyd y dylid ceisio cael diweddariad yng ngwanwyn 2015. Erbyn hynny, dylai'r cytundeb newydd fod wedi cael ei ddyfarnu. Cytunodd y Pwyllgor hefyd y dylai'r Cadeirydd, yn y cyfamser, ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn gofyn iddi rannu'r wybodaeth y mae'n gallu gyda'r Pwyllgor ynglŷn â chwmpas, cynnwys, methodoleg ac amserlen adolygiad ARUP yn ogystal â'r ddogfen dendro ar gyfer y gwasanaeth awyr.

 


Cyfarfod: 15/07/2014 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 9)

Gwasanaeth Awyr oddi mewn i Gymru - Caerdydd i Ynys Môn: Cytuno ar yr adroddiad terfynol

PAC(4)-21-14 (papur 4)

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

9.1 Gwnaeth yr Aelodau ystyried a derbyn yr adroddiad.

 


Cyfarfod: 24/06/2014 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6)

Gwasanaeth Awyr oddi mewn i Gymru - Caerdydd i Ynys Môn: Trafod yr adroddiad drafft

PAC(4)-18-14(Papur 4)

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Trafododd yr Aelodau'r adroddiad drafft a nodwyd y byddai drafft diwygiedig ar gael i'w drafod yng nghyfarfod y Pwyllgor ar 15 Gorffennaf.

 

 


Cyfarfod: 12/06/2014 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 8)

8 Gwasanaeth Awyr oddi mewn i Gymru - Caerdydd i Ynys Môn

PAC(4)-16-14(papur 12)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

8.1 Nododd yr Aelodau'r papur a chytunwyd y byddai'r clercod yn dechrau paratoi adroddiad interim, gan ddychwelyd at y mater hwn yn yr hydref.

 


Cyfarfod: 29/04/2014 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 7)

7 Gwasanaethau awyr o fewn Cymru, rhwng Caerdydd ac Ynys Môn: Trafod y wybodaeth bellach a'r camau nesaf

Dogfennau ategol:

  • PAC(4)-11-14(paper 4) (Saesneg yn unig)

Cyfarfod: 25/03/2014 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

5 Gwasanaethau awyr o fewn Cymru, rhwng Caerdydd ac Ynys Môn: Sesiwn dystiolaeth 2

PAC(4)-09-14 (papur 2)

 

Martin Evans -  Cymrawd Gwadd – Cyfadran Busnes a’r Gymdeithas, Prifysgol De Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Holodd y Pwyllgor Martin Evans, Cymrawd Gwadd - Cyfadran Busnes a Chymdeithas, Prifysgol De Cymru, ynghylch gwasanaethau awyr o fewn Cymru, rhwng Caerdydd ac Ynys Môn.

 

 


Cyfarfod: 25/03/2014 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 Gwasanaethau awyr o fewn Cymru, rhwng Caerdydd ac Ynys Môn: Sesiwn dystiolaeth 1

PAC(4)-09-14 (papur 1)

 

James Price - Cyfarwyddwr Cyffredinol - Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth, Llywodraeth Cymru

Mal Drury – Pennaeth Ymrwymiadau Gweithgareddau Rheilffyrdd /Awyr, Llywodraeth Cymru

Gareth Morgan – Dirprwy Gyfarwyddwr, Cyflawni, Llywodraeth Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Holodd y Pwyllgor James Price, Cyfarwyddwr Cyffredinol Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth, Llywodraeth Cymru, Mal Drury – Pennaeth Gweithrediadau Ymrwymiadau Rheilffyrdd/Awyr, Llywodraeth Cymru a Gareth Morgan – Dirprwy Gyfarwyddwr Cyflawni, Llywodraeth Cymru ynghylch gwasanaethau awyr o fewn Cymru, rhwng Caerdydd ac Ynys Môn.

 

4.2 Cytunodd y Cadeirydd i ysgrifennu at y Cyfarwyddwr Cyffredinol ynghylch nifer o faterion a godwyd yn ystod y sesiwn hon ac yn Eitem 7.

 


Cyfarfod: 25/03/2014 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 Gwasanaethau awyr o fewn Cymru, rhwng Caerdydd ac Ynys Môn: Papurau Briffio

Swyddfa Archwilio Cymru Memorandwm

Briffio ymchwil

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Nodwyd y papurau.

 


Cyfarfod: 25/03/2014 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 7)

Gwasanaethau awyr o fewn Cymru, rhwng Caerdydd ac Ynys Môn: Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd ynghylch gwasanaethau awyr o fewn Cymru, rhwng Caerdydd ac Ynys Môn, a chytunodd y bydd y Cadeirydd yn ysgrifennu at y Cyfarwyddwr Cyffredinol yn gofyn am nifer o esboniadau a rhagor o wybodaeth.

 


Cyfarfod: 21/01/2014 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

5 Gwasanaethau awyr o fewn Cymru, rhwng Caerdydd ac Ynys Môn: Sesiwn friffio gan Swyddfa Archwilio Cymru

PAC(4)-02-14 (papur 4)

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Cafodd y Pwyllgor sesiwn friffio lafar gan Swyddfa Archwilio Cymru ar y gwasanaethau awyr o fewn Cymru - rhwng Caerdydd ac Ynys Môn - a chytunodd i gynnal ymchwiliad byr i'r mater hwn yn nes ymlaen yn y tymor.

 


Cyfarfod: 07/05/2013 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 1)

Ystyried gohebiaeth gan Swyddfa Archwilio Cymru ar gymhorthdal Llywodraeth Cymru i'r cyswllt awyr rhwng Ynys Môn a Chaerdydd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

1.1        Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth gan Archwilydd Cyffredinol Cymru ar gymhorthdal Llywodraeth Cymru i’r cyswllt awyr rhwng Ynys Môn a Chaerdydd.

 

1.2        Nododd y Pwyllgor fod Archwilydd Cyffredinol Cymru yn cynnal astudiaeth gwerth am arian ar gaffael Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd gan Lywodraeth Cymru.

 

1.3        Cytunodd Archwilydd Cyffredinol Cymru i baratoi nodyn briffio ar gymhorthdal Llywodraeth Cymru i’r cyswllt awyr rhwng Ynys Môn a Chaerdydd.

 

1.4        Cytunodd Archwilydd Cyffredinol Cymru i ddarparu nodyn yn amlinellu cwmpas ei ymchwiliadau i gaffael Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd gan Lywodraeth Cymru ac i’r cymhorthdal y mae’n ei roi i’r cyswllt awyr rhwng Ynys Môn a Chaerdydd.