Cyfarfodydd

P-04-529 Ombwdsmon Asiantaethau Gosod Tai ar gyfer Cymru

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 25/11/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 P-04-529 Ombwdsmon Asiantaethau Gosod Tai ar gyfer Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd:

i gau’r ddeiseb gan fod y Llywodraeth wedi gwneud ei safbwynt ar y ddeiseb yn glir, ac mae wedi cyflwyno deddfwriaeth yn y maes hwn. 

 

 


Cyfarfod: 07/10/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-529 Ombwdsmon Asiantaethau Gosod Tai ar gyfer Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:

 

  • ofyn i’r Gweinidog i ymateb i’r pwyntiau penodol a godwyd gan y prif ddeisebydd; ac unwaith y bydd wedi dod i law
  • trefnu sesiwn dystiolaeth lafar gyda’r deisebwyr, ynghyd â deisebwyr P-04-480 (Safonau Tai Myfyrwyr yn y Sector Preifat), i gael gwell dealltwriaeth o’u pryderon. 

 

 


Cyfarfod: 15/07/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-529 Ombwdsmon Asiantaethau Gosod Tai ar gyfer Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i geisio barn y Gweinidog am ohebiaeth y deisebwyr. Yn dilyn ymateb y Gweinidog, cytunodd y Pwyllgor y byddai'n ystyried trefnu sesiwn dystiolaeth lafar gyda deisebwyr P-04-480 Mynd i’r afael â Safon Tai Myfyrwyr yn y Sector Preifat.

 


Cyfarfod: 11/03/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 P-04-529 Ombwdsmon Asiantaethau Gosod Tai ar gyfer Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog Tai ac Adfywio ynghyd â'r sylwadau pellach gan y deisebydd a chytunodd i:

 

1.   grwpio'r ddeiseb gyda P-04-480 Mynd i'r afael â Safon Tai Myfyrwyr yn y Sector Preifat yn ôl cais y deisebydd; a

2.   gohirio trafod y ddeiseb, am fod y Gweinidog wedi ymrwymo i gyflwyno cynllun cofrestru a thrwyddedu gorfodol ar gyfer landlordiaid yn y sector rhentu preifat ac asiantau gosod a rheoli fel rhan o'r Bil Tai.

 


Cyfarfod: 21/01/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 P-04-529 Ombwdsmon Asiantaethau Gosod Tai ar gyfer Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Tai ac Adfywio i ofyn am ei farn ar y ddeiseb.