Cyfarfodydd

P-04-527 Ymgyrch i gael Cronfa Cyffuriau Canser Arbennig yng Nghymru

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 10/03/2015 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 P-04-527 Ymgyrch i gael Cronfa Cyffuriau Canser Arbennig yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:

 

·         ysgrifennu at y deisebydd i ofyn iddo fynegi cydymdeimlad y Pwyllgor â theulu Beth Margetson; ac

·         aros am ymateb gan y deisebydd ar yr ohebiaeth Weinidogol. 

 


Cyfarfod: 21/10/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 P-04-527 Ymgyrch i gael Cronfa Cyffuriau Canser Arbennig yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:

·         Ofyn am sylwadau pellach gan y deisebydd; ac

·         Ysgrifennu eto at Fwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg yn gofyn am yr ymateb sydd heb ddod ac yn mynegi pryder am eu diffyg ymateb i lythyrau gan y Pwyllgor.

 

 


Cyfarfod: 13/05/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 P-04-527 Ymgyrch i gael Cronfa Cyffuriau Canser Arbennig yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:

 

·         ysgrifennu at Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru Gyfan ynglŷn â’i brosesau ar gyfer gwerthuso cyffuriau canser o’r math y mae’r ddeiseb yn pryderu ynglŷn â hwy;

·         gofyn am ragor o sylwadau gan y deisebydd a holi a yw datganiad ysgrifenedig y Gweinidog yn bodloni unrhyw rai o’i bryderon; a 

·         gofyn am ymateb gan Fwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg gan nad yw wedi ymateb i lythyr gwreiddiol y Pwyllgor eto.

 


Cyfarfod: 29/04/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-527 Ymgyrch i gael Cronfa Cyffuriau Canser Arbennig yng Nghymru

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 21/01/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 P-04-527 Ymgyrch i gael Cronfa Cyffuriau Canser Arbennig yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at:

 

·         y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol; 

·         Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg

·         Cymdeithas Diwydiant Fferyllol Prydain (ABPI)

 

i ofyn am eu barn am y ddeiseb.