Cyfarfodydd

P-04-526 Gwnewch Senedd TV yn hygyrch i bobl fyddar

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 15/05/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-04-526 Gwnewch Senedd TV yn hygyrch i bobl fyddar

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i wneud y canlynol:

 

·         cau'r ddeiseb oherwydd nad yw'n bosibl nodi sut i symud y ddeiseb ymlaen heb gyswllt â'r deisebydd; a thrwy wneud hynny

·         Cyflwyno cwestiwn i Gomisiwn y Cynulliad yn enw Cadeirydd y Pwyllgor Deisebau ar y materion a godwyd yn y ddeiseb. 

 

 

 


Cyfarfod: 21/11/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-04-526 Gwnewch Senedd TV yn hygyrch i bobl fyddar

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd yr Aelodau ohebiaeth gan y Llywydd yn rhinwedd ei rôl fel Cadeirydd Comisiwn y Cynulliad a chytunodd i aros am ymateb gan y deisebydd i'r wybodaeth ddiweddaraf a ddarparwyd cyn penderfynu a ddylid cymryd unrhyw gamau pellach.

 

 


Cyfarfod: 11/07/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-04-526 Gwnewch Senedd TV yn hygyrch i bobl fyddar

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a gafwyd ynghylch y ddeiseb a chytunodd ar y camau a ganlyn:

 

·         ysgrifennu'n ôl at y Llywydd fel Cadeirydd Comisiwn y Cynulliad:

 

o   yn nodi pryder y Pwyllgor ynghylch yr arafwch o ran cynyddu'r trafodion yn y Cynulliad sydd ar gael gyda chyfieithiad ar y pryd yn Iaith Arwyddion Prydain (BSL) neu gydag is-deitlau, yn enwedig yn yr amser ers cyflwyno'r ddeiseb yn 2014;

o   yn gofyn i'r Comisiwn edrych ar yr opsiynau o ran datblygu rhaglen ar gyfer darparu gwasanaeth BSL a/neu is-deitlo ar gyfer cwestiynau yn y Cynulliad a thrafodion eraill o fewn amser priodol.

·         Hysbysu'r deisebydd am benderfyniad y Pwyllgor.

 

 


Cyfarfod: 09/05/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-04-526 Gwnewch Senedd TV yn hygyrch i bobl fyddar

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a gafwyd ynghylch y ddeiseb a chytunodd ar y camau a ganlyn:

 

·         ysgrifennu at y Llywydd i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw gamau a gymerwyd i wneud y sylw a roddir i drafodion y Cynulliad yn fwy hygyrch i bobl fyddar ers yr ohebiaeth flaenorol a dderbyniwyd gan ei rhagflaenydd ym mis Mai 2014; ac

·         rhoi gwybod i'r deisebydd na ally Pwyllgor fynd i'r afael â materion sy'n ymwneud â hygyrchedd y Grŵp Trawsbleidiol ar Faterion Pobl Fyddar ac y dylid codi'r mater gyda'r grŵp ei hun.

 

 


Cyfarfod: 04/04/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-04-526 Gwnewch Senedd TV yn hygyrch i bobl fyddar

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i gymryd camau pellach i geisio ail-sefydlu cyswllt gyda'r deisebwr drwy'r Grŵp Trawsbleidiol ar Faterion yn ymwneud â Phobl Fyddar.

 

 


Cyfarfod: 21/10/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 P-04-526 Gwnewch Senedd TV yn hygyrch i bobl fyddar

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at staff Comisiwn y Cynulliad i gysylltu â Mr James yn uniongyrchol i ddilyn unrhyw faterion heb eu datrys mewn cysylltiad â natur a rôl y Grwpiau Trawsbleidiol.

 


Cyfarfod: 03/06/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-526 Gwnewch Senedd TV yn hygyrch i bobl fyddar

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y Deisebwr:

 

·         yn gofyn am eglurhad o'r union gyfleusterau yr hoffent eu gweld ar gyfer Senedd TV; ac 

·         yn ailadrodd cynnig cynharach y Llywydd i gynnal cyfarfod i drafod y materion a godwyd yn y ddeiseb. 

 


Cyfarfod: 25/03/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 P-04-526 Gwnewch Senedd TV yn hygyrch i bobl fyddar

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:

 

·         ofyn i'r deisebydd am ei ymateb i lythyr y Llywydd a, thrwy hynny, dynnu sylw at gynnig y Llywydd i drefnu cyfarfod i drafod y materion gyda'r staff perthnasol yn y Cynulliad; ac

·         ysgrifennu at y Llywydd yn gofyn am eglurhad o'r gwaith a gafodd ei wneud mewn cysylltiad â'r cynllun peilot ac am wybodaeth bellach am y rhesymau dros y penderfyniad i'w ddal yn ôl.

 


Cyfarfod: 21/01/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 P-04-526 Gwnewch Senedd TV yn hygyrch i bobl fyddar

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i:

 

·         ysgrifennu at y Llywydd, fel Cadeirydd Comisiwn y Cynulliad, i ofyn am ei barn am y ddeiseb; a

·         gwirio cofnod y trafodion ar gyfer Cyfarfod Llawn diweddar er mwyn cyfeirio at drafodaeth a gynhaliwyd gan yr Aelodau ar faterion tebyg sy'n ymwneud â'r ddeiseb.