Cyfarfodydd

P-03-150 Safonau Canser Cenedlaethol

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 11/11/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-03-150 Safonau Canser Cenedlaethol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:

 

·         drefnu i'r deisebydd gael gwybod pan fydd dyddiad y ddadl yn y Cyfarfod Llawn wedi'i gyhoeddi; 

·         aros tan y ddadl yn y Cyfarfod Llawn cyn penderfynu a ddylid cymryd camau pellach neu cau'r ddeiseb; a

·         gofyn i'r Gweinidog am y pwyntiau a gododd Iechyd Cyhoeddus Cymru ynghylch achosion pan fydd amheuaeth o ganser ond nid yw'n achos brys.

 


Cyfarfod: 11/03/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 P-03-150 Safonau Canser Cenedlaethol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ynghyd â sylwadau pellach gan y deisebydd a chytunodd i:

 

1.   ysgrifennu at Iechyd Cyhoeddus Cymru, gan anfon copi at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, yn gofyn am ragor o fanylion o ran yr amserlen ar gyfer darparu gwybodaeth wedi'i theilwra; a

2.   gan ystyried bod cryn dipyn o amser ers cyflwyno'r ddeiseb, gofyn am bapur briffio byr gan y gwasanaeth ymchwil, yn dod â'r holl wybodaeth at ei gilydd.

 


Cyfarfod: 18/06/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 7)

7 P-03-150 Safonau Canser Cenedlaethol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at Iechyd Cyhoeddus Cymru yn egluro ei rôl o ran gwybodaeth i gleifion am wasanaethau canser.

 


Cyfarfod: 30/04/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-03-150 Safonau Canser Cenedlaethol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb a chytuno i rannu gwybodaeth y deisebwr â’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol gan amlygu’r meysydd i’w gwella a nodwyd, a gofyn sut y mae’n bwriadu gweithredu ar y rhain.


Cyfarfod: 04/12/2012 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

P-03-150 Safonau Canser Cenedlaethol - Trafodaeth o'r dystiolaeth weinidogol

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i anfon copi o’r trawsgrifiad at y deisebwyr er mwyn iddynt roi sylwadau arno.

 


Cyfarfod: 20/11/2012 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 P-03-150 Safonau Canser Cenedlaethol - Sesiwn dystiolaeth lafar

 

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Lesley Griffiths AC

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Atebodd y Gweinidog gwestiynau aelodau’r Pwyllgor ar y Safonau Canser Cenedlaethol, y Cynllun Cyflawni Cenedlaethol ar gyfer Canser a phrofiad cleifion.

 


Cyfarfod: 27/09/2011 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-03-150 Safonau Canser Cenedlaethol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn trafod y wybodaeth ddiweddaraf am y ddeiseb hon.

 

Camau i’w cymryd

 

Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn gofyn am amserlen ar gyfer cyhoeddi’r cynllun cyflenwi cenedlaethol ar ganser.

 

Cytunodd y Pwyllgor i wahodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i roi tystiolaeth lafar ar gydymffurfio ar ôl i’r cynllun cyflenwi cenedlaethol gael ei gwblhau.


Cyfarfod: 12/07/2011 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-03-150 Safonau Canser Cenedlaethol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am y ddeiseb hon.

 

Camau i’w cymryd

Cytunodd y Pwyllgor i:

·         Ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am faint o bobl sy’n cydymffurfio â’r Safonau Canser Cenedlaethol ar hyn o bryd ac i ofyn pa gamau y mae Llywodraeth Cymru’n eu cymryd i sicrhau y ceir cydymffurfio llawn ledled Cymru;

·         Ystyried ymateb mwy cyhoeddus i ddiffyg cydymffurfio â’r Safonau Canser Cenedlaethol, yn ddibynnol ar ateb y Gweinidog, ac o gofio dyfalbarhad y Pwyllgor gyda’r ddeiseb hon;

·         Ystyried gwahodd y deisebwyr i roi tystiolaeth lafar mewn cyfarfod yn y dyfodol.