Cyfarfodydd

P-04-525 Ariannu Gwobrau CREST yng Nghymru

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 28/04/2015 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-525 Ariannu Gwobrau CREST yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb ac, yn sgil y newyddion cadarnhaol bod y mater a godwyd yn y ddeiseb wedi cael ei ddatrys ar gyfer y flwyddyn ariannol gyfredol, gyda thrafodaethau yn parhau yn y blynyddoedd i ddod, cytunwyd i gau'r ddeiseb.

 


Cyfarfod: 24/03/2015 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 P-04-525 Ariannu Gwobrau CREST yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf.

 

 


Cyfarfod: 11/03/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 P-04-525 Ariannu Gwobrau CREST yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth a chytunodd i ysgrifennu at:

 

1.   y deisebwyr i ofyn eu barn am lythyr y Gweinidog ac i ofyn am ragor o wybodaeth am eu cynlluniau mewn perthynas â chyflwyno eu hachos busnes i Lywodraeth Cymru am gyllid;

2.   y Gweinidog yn gofyn iddi hysbysu'r Pwyllgor am ganlyniad y cais am gyllid, ar ôl i'r Llywodraeth gael yr achos busnes.

 


Cyfarfod: 21/01/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 P-04-525 Ariannu Gwobrau CREST yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i:

 

·         ysgrifennu at Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth i ofyn am ei barn am y ddeiseb; ac

·         anfon copi at y Gweinidog Addysg.