Cyfarfodydd

P-03-136 Parcio yn y Mynydd Bychan a Birchgrove

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 27/03/2012 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 9)

9 P-03-136 Parcio yn y Mynydd Bychan a Birchgrove

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 10/01/2012 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 P-03-136 Parcio yn y Mynydd Bychan a Birchgrove

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i:

Ysgrifennu at Fwrdd Iechyd y Brifysgol yn gofyn am eglurhad ynghylch cyfarfodydd yn y dyfodol;

Ysgrifennu at Gyngor Caerdydd yn crynhoi trafodaethau’r Pwyllgor ac argymell fod y Cyngor yn parhau i weithio gyda’r deisebwyr i ddatrys y problemau parcio;

Cau’r ddeiseb (ac eithrio’r ohebiaeth arferol at y deisebydd yn nodi’r rhesymau dros ei chau), yn amodol ar y llythyron hyn, unwaith y bydd wedi cael eglurhad.


Cyfarfod: 29/11/2011 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 P-03-136 Parcio yn y Mynydd Bychan a Birchgrove

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Datgannodd Joyce Watson fuddiant gan fod ei merch yn gweithio yn Ysbyty Athrofaol Cymru.

 

Atebodd y Gweinidog gwestiynau gan y Pwyllgor ar y mater hwn.

Oherwydd cyfyngiadau amser, penderfynodd y Pwyllgor ystyried tystiolaeth y Gweinidog yn ei gyfarfod nesaf er mwyn gallu ystyried y dair deiseb yn llawn.

 


Cyfarfod: 27/09/2011 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-03-136 Parcio yn y Mynydd Bychan a Birchgrove

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn trafod y wybodaeth ddiweddaraf am y ddeiseb hon.

 

Datganodd Joyce Watson ddiddordeb oherwydd bod ei merch yn gweithio yn Ysbyty Athrofaol Cymru.

 

Camau i’w cymryd

 

Cytunodd y Pwyllgor i wahodd y Gweinidog i roi tystiolaeth lafar at sut y bydd y cynlluniau teithio cynaliadwy yn cael eu cyflawni a’u monitro.

 


Cyfarfod: 21/06/2011 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 P-03-136 Parcio yn y Mynydd Bychan a Birchgrove

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am y ddeiseb hon.

Dywedodd y Cadeirydd fod y deisebwr wedi gofyn i’r Pwyllgor ohirio trafodaeth bellach ar y ddesieb oherwydd ei fod wedi gwneud cais i gyfarfod y Prif Weinidog a’i Aelod Cynulliad lleol i drafod y pwnc.

 

Camau i’w cymryd

Cytunodd y Pwyllgor i:

·               Ohirio trafod y ddeiseb tan iddo gael diweddariad pellach.