Cyfarfodydd

Gweithdrefn y Balot Cwestiynau Llafar y Cynulliad

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 25/05/2011 - Y Pwyllgor Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6)

Cwestiynau llafar y Cynulliad: y weithdrefn ar gyfer cynnal balot

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes ar drefn newydd ar gyfer cyflwyno cwestiynau llafar i adlewyrchu newidiadau i’r Rheolau Sefydlog, lle bydd y Llywydd yn gyntaf yn cynnal balot i ddewis enwau’r Aelodau a fydd wedyn yn cael cyflwyno cwestiynau llafar. Cytunodd y Pwyllgor i adolygu’r broses ar ddiwedd tymor yr haf.