Cyfarfodydd

Metro Prifddinas-Ranbarth Caerdydd

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 15/07/2015 - Y Pwyllgor Menter a Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Dinas-ranbarthau, Ardaloedd Menter a'r Metro

Richard Cope, Rheolwr Busnes (Trafnidiaeth i Deithwyr a Strategaeth Drafnidiaeth), Cymdeithas Swyddogion Cydgysylltu Trafnidiaeth

Huw Morgan, Cymdeithas Swyddogion Cydgysylltu Trafnidiaeth

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Atebodd Richard Cope a Huw Morgan gwestiynau gan Aelodau o’r Pwyllgor.


Cyfarfod: 15/07/2015 - Y Pwyllgor Menter a Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

Dinas-ranbarthau, Ardaloedd Menter a'r Metro

Jonathan Bray, Cyfarwyddwr, Grŵp Gweithredol Trafnidiaeth i Deithwyr

Cofnodion:

3.1 Atebodd Jonathan Bray gwestiynau gan Aelodau o’r Pwyllgor.


Cyfarfod: 11/06/2015 - Y Pwyllgor Menter a Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 Dinas-ranbarthau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.2 Nodwyd y papur gan y Pwyllgor.


Cyfarfod: 13/05/2015 - Y Pwyllgor Menter a Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 Dinas-ranbarthau

Yr Athro Gillian Bristow, Ysgol Gynllunio a Daearyddiaeth Prifysgol Caerdydd

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Atebodd yr Athro Gillian Bristow gwestiynau gan Aelodau o’r Pwyllgor.


Cyfarfod: 04/12/2014 - Y Pwyllgor Menter a Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

Ardaloedd Menter, Dinas-Ranbarthau a Metro

Jon Lamonte, Prif Weithredwr, TfGM, Manceinion Fwyaf

Cofnodion:

Cafwyd tystiolaeth gan Jon Lamonte.

 


Cyfarfod: 05/12/2013 - Y Pwyllgor Menter a Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 Metro ar gyfer Dinas-ranbarth Prifddinas Cymru (11.00-12.00)

Tystion:

·         Edwina Hart AC, Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth,  Llywodraeth Cymru

·         Mark Barry, Cynghorydd Arbennig ar Wasanaethau Metro, Llywodraeth Cymru

·         James Price, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth, Llywodraeth Cymru

 

Dogfennau ategol:

EBC(4)-42-13(p3) – Papur Llywodraeth Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Craffodd y Pwyllgor ar waith Edwina Hart AC, Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth. Cefnogwyd y Gweinidog gan Mark Barry, Cynghorwr Arbennig ar y Metro, Llywodraeth Cymru, a James Price, Cyfarwyddwr Cyffredinol Adran yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth, Llywodraeth Cymru.

 

3.2 Cytunodd y Gweinidog i ddarparu adroddiad ar drefn y digwyddiadau a arweiniodd at y sefyllfa bresennol o ran y Rhwydwaith Drafnidiaeth Traws-Ewropeaidd a rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd a wnaed wrth ymdrin â'r ffaith bod Cymru wedi'i heithrio o'r coridorau rhwydwaith craidd arfaethedig ac ymgysylltiad Llywodraeth Cymru â'r Comisiwn i gael mynediad at gyllid.

 

3.3 Cytunodd y Gweinidog hefyd i ddarparu'r wybodaeth i'r Pwyllgor o fewn chwe mis am y cynnydd a wnaed gan y Grŵp Annibynnol, sydd wedi cael y dasg o ddatblygu'r argymhellion a wnaed yn yr Adroddiad a gyhoeddwyd gan Gonsortiwm y Metro, sef "Metro Prifddinas-Ranbarth Caerdydd: astudiaeth effaith".  

 

 


Cyfarfod: 05/12/2013 - Y Pwyllgor Menter a Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Metro ar gyfer Dinas-ranbarth Prifddinas Cymru (09.50-10.50)

Tystion:

·         James Brown, Cyfarwyddwr, Powell Dobson Urbanists

·         Alan Davies, Cyfarwyddwr Eiddo a Seilwaith, Capita

 

Dogfennau ategol:

EBC(4)-42-13(p1) – Crynodeb Gweithredol ynghylch y METRO

EBC(4)-42-13(p2) - Astudiaeth o effaith y METRO (adroddiad llawn)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan James Brown, a oedd yn cynrychioli Powell Dobson Urbanists, ac Alan Davies, a oedd yn cynrychioli Capita.

 


Cyfarfod: 25/09/2013 - Y Pwyllgor Menter a Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Craffu ar waith Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth

Tystion:

 

- Edwina Hart AC, Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth

- Dr Elizabeth Haywood, cyn gadeirydd y Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar y Dinas-ranbarthau

- Professor Kevin Morgan, Athro Llywodraethu a Datblygu yn yr Adran Cynllunio Dinesig a Rhanbarthol Prifysgol Caerdydd.

- Dave Gilbert, Cyfarwyddwr a Dirprwy Prif Weithredwr Cyngor Sir Gar

 

Dogfennau atodol:

EBC(4)-35-13(p1) - Tystiolaeth Ysgrifenedig gan Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth ar y Dinas-ranbarthau ar gyfer cyfarfod 25 Medi 2013

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth, Edwina Hart AC, Dr Elizabeth Haywood, cyn-gadeirydd y grŵp Gorchwyl a Gorffen Rhanbarthau Dinas, yr Athro Kevin Morgan, Athro Llywodraethu a Datblygu yn yr Ysgol Cynllunio Dinesig a Rhanbarthol ym Mhrifysgol Caerdydd, a Dave Gilbert, Cyfarwyddwr a Dirprwy Brif Weithredwr Cyngor Sir Caerfyrddin.

 

Camau  i'w Cymryd:

Cytunodd y Gweinidog i ofyn am eglurhad gan y Gweinidog Cyllid ynghylch a yw Llywodraeth Cymru wedi cael symiau canlyniadol Barnett o ganlyniad i Bolisi 'City Deals' Llywodraeth y DU.