Cyfarfodydd

Ymchwiliad i agwedd Llywodraeth Cymru tuag at hybu masnach a mewnfuddsoddi

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 04/02/2015 - Y Pwyllgor Menter a Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

5 Llythyr gan Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth i William Graham ynghylch Masnach a Mewnfuddsoddi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.2.1 Nodwyd y papur gan y Pwyllgor.


Cyfarfod: 03/12/2014 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6.)

Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Menter a Busnes ar agwedd Llywodraeth Cymru tuag at hybu masnach a mewnfuddsoddi

NDM5644 William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Menter a Busnes ar ei Ymchwiliad i Agwedd Llywodraeth Cymru tuag at Hybu Masnach a Mewnfuddsoddi, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 10 Hydref 2014.

 

Dogfennau Ategol

 

Adroddiad y Pwyllgor Menter a Busnes

Ymateb Llywodraeth Cymru

 


Cyfarfod: 24/09/2014 - Y Pwyllgor Menter a Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3.)

Ystyriaeth o'r Adroddiad Drafft ar Fasnach a Mewnfuddsoddi

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 02/07/2014 - Y Pwyllgor Menter a Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 7)

7 Ystyried Adroddiad Drafft

Adroddiad drafft ar gyfer yr ymchwiliad i agwedd Llywodraeth Cymru tuag at hybu masnach a mewnfuddsoddi.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft.


Cyfarfod: 03/04/2014 - Y Pwyllgor Menter a Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

5 Ymchwiliad i ddull Llywodraeth Cymru o hyrwyddo masnach a mewnfuddsoddi (14.00-15.00)

 

Tystion:

Y Gwir Anrhydeddus Carwyn Jones AC, Prif Weinidog Cymru

Edwina Hart AC, Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth, Llywodraeth Cymru

James Price, Cyfarwyddwr Cyffredinol, yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth

Gary Davies, Pennaeth yr Is-adran Materion Ewropeaidd ac Allanol

 

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Gwir Anrhydeddus Carwyn Jones AC, Prif Weinidog Cymru, a Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth, Llywodraeth Cymru. Cawsant eu cefnogi gan James Price, Cyfarwyddwr Cyffredinol, yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth, Llywodraeth Cymru a Gary Davies, Pennaeth yr Is-adran Materion Allanol, Llywodraeth Cymru Ewrop a.

 

5.2 Cytunodd y Gweinidog i ddarparu:

 

-     Nodyn ar gyfanswm nifer staff UKTI sydd wedi'u lleoli'n barhaol yng Nghymru a sut mae'r niferoedd hyn yn cymharu â'r sefyllfa yn yr Alban;

 

-     Nodyn ar y gyfran o gwmnïau o dramor sy'n gweithredu yng Nghymru ac sy'n derbyn cymorth ôl-ofal uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru, o gymharu â'r rhai sy'n cael cefnogaeth gan UKTI. Hefyd, syniad o'r cwmnïau hynny y mae'r Llywodraeth mewn cysylltiad â hwy yn rheolaidd, h.y. o leiaf unwaith bob chwe mis, a'r rhai y mae'n cysylltu â hwy yn llai rheolaidd;

 

-     Nodyn ar ddull gweithredu arfaethedig Llywodraeth Cymru o ran cofnodi a chyhoeddi ffigurau mewnfuddsoddi yng ngoleuni newidiadau yn y diffiniad a ddefnyddir gan UKTI (h.y. 10 y cant perchnogaeth dramor, yn hytrach na 50 y cant) a sut mae'r trothwy ar gyfer canran perchnogaeth dramor a ddefnyddir gan UKTI yn cymharu â gwledydd Ewropeaidd eraill.

 

 


Cyfarfod: 06/03/2014 - Y Pwyllgor Menter a Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

Trafodaeth am y ffilm o'r cyfweliadau ag entrepreneuriaid busnesau bach a chanolig (10.55 -11.20)

Cofnodion:

 

5.1 Trafododd y Pwyllgor yr eitem hon mewn sesiwn breifat.

 


Cyfarfod: 06/03/2014 - Y Pwyllgor Menter a Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

Ymchwiliad i ddull Llywodraeth Cymru o hyrwyddo masnach a mewnfuddsoddi - cyfweld â busnesau bach a chanolig eu maint (fideo) (10.30-10.55)

Cofnodion:

 

2.1 Fel rhan o'r Ymchwiliad i ddull Llywodraeth Cymru o hyrwyddo masnach a mewnfuddsoddi, gwyliodd y Pwyllgor ffilm o gyfweliadau ag entrepreneuriaid busnesau bach a chanolig.

 


Cyfarfod: 19/02/2014 - Y Pwyllgor Menter a Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 7)

7 EBC(4)-05-14(p.14) – Recent UKTI - WG Relationship History

Dogfennau ategol:

  • EBC(4)-05-14(p.14) – Recent UKTI - WG Relationship History

Cyfarfod: 19/02/2014 - Y Pwyllgor Menter a Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

5 Ymchwiliad i ddull Llywodraeth Cymru o hyrwyddo masnach a mewnfuddsoddi - sesiwn dystiolaeth 10 (09.45-10.45)

 

Witnesses:

·         Yr Athro Gareth Morgan, Cadeirydd y Panel Sector Gwyddorau Bywyd

·         David Williams, Cadeirydd y Panel Sector Ynni a’r Amgylchedd

 

Dogfennau ategol:

Papur preifat (Papur Briffio'r Aelodau ar gyfer Eitem 5)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

 

5.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan yr Athro Gareth Morgan, Cadeirydd Panel Sector y Gwyddorau Bywyd a David Williams, Cadeirydd Panel y Sector Ynni ac Amgylchedd.

 


Cyfarfod: 05/02/2014 - Y Pwyllgor Menter a Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 Ymchwiliad i ddull Llywodraeth Cymru o hyrwyddo masnach a mewnfuddsoddi - sesiwn dystiolaeth 8 (11.10-12.00)

 

Tystion:

·         Guy Warrington, Cyfarwyddwr, Rhanbarthau Lloegr, Masnach a Buddsoddi y DU

·         Gareth John, Uwch Gynghorwr Buddsoddi, Masnach a Buddsoddi y DU

 

Dogfennau ategol:

EBC(4)-04-14 (papur 2) – Tystiolaeth gan Masnach a Buddsoddi y DU

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Guy Warrington, Cyfarwyddwr, Rhanbarthau Lloegr, a Gareth John, Uwch-ymgynghorydd Buddsoddi, ill dau o Fasnach a Buddsoddi y DU.

 

3.2 Cytunodd Gareth John i ddarparu'r dadansoddiad o'r wybodaeth (am ysgolion, prisiau tai ac ati) a roddir gan bartneriaid i ffurfio'r gronfa ddata a ddefnyddir yn sail i'r broses "brysbennu" ar gyfer dewis y meysydd a gymeradwyir i fusnesau fel rhai lle y bydd cyfleoedd i fuddsoddi ac esboniad o'r algorithm a ddefnyddir ar gyfer y broses hon.

 


Cyfarfod: 05/02/2014 - Y Pwyllgor Menter a Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Ymchwiliad i ddull Llywodraeth Cymru o hyrwyddo masnach a mewnfuddsoddi - sesiwn dystiolaeth 7 (10.15-11.05)

 

Tyst:

·         Ed Payne, Pennaeth Strategaeth, Scottish Development International

 

Dogfennau ategol:

Papur preifat (Papur Briffio'r Aelodau ar gyfer Eitemau 2 a 3)

EBC(4)-04-14 (papur 1) – Tystiolaeth gan Scottish Development International

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Ed Payne, Pennaeth Strategaeth, Scottish Development International.

 


Cyfarfod: 30/01/2014 - Y Pwyllgor Menter a Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

Ymchwiliad i ddull Llywodraeth Cymru o hyrwyddo masnach a mewnfuddsoddi - sesiwn dystiolaeth 5 (10.20-11.10)

 

Tyst:

·         Roger Pride, Rheolwr Gyfarwyddwr, Swyddfa Caerdydd, Heavenly

 

 

Cofnodion:

3.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Roger Pride, Rheolwr Gyfarwyddwr, Swyddfa Caerdydd, Heavenly.

 


Cyfarfod: 30/01/2014 - Y Pwyllgor Menter a Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Ymchwiliad i ddull Llywodraeth Cymru o hyrwyddo masnach a mewnfuddsoddi - sesiwn dystiolaeth 4 (09.15-10.10)

 

Tystion:

·         Iestyn Davies, Pennaeth Materion Allanol, Ffederasiwn Busnesau Bach

·         Joshua Miles, Cynghorydd Polisi, Ffederasiwn Busnesau Bach

 

Dogfennau ategol:

Papur preifat (Papur Briffio'r Aelodau ar gyfer Eitemau 2 a 3)

EBC(4)-03-14(p.1) – Tystiolaeth gan y Ffederasiwn Busnesau Bach

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Iestyn Davies, Pennaeth Materion Allanol, a Joshua Miles, Ymgynghorydd Polisi. Roedd y ddau'n cynrychioli Ffederasiwn y Busnesau Bach.

 


Cyfarfod: 22/01/2014 - Y Pwyllgor Menter a Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 Ymchwiliad i ddull Llywodraeth Cymru o hyrwyddo masnach a mewnfuddsoddi - sesiwn dystiolaeth (11.10-12.00)

Tystion:

·         Geoff Harding, Arbenigwr mewn Cymorth ar Fasnach Rhyngwladol

·         David Long, Arbenigwr mewn Cymorth ar Fasnach Rhyngwladol

 

Dogfennau ategol:

EBC(4)-02-14(p.3) - Tystiolaeth gan David Long a Geoff Harding

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan David Long a Geoff Harding, Ymgynghorwyr Cymorth Masnach Ryngwladol.

 


Cyfarfod: 22/01/2014 - Y Pwyllgor Menter a Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 Ymchwiliad i ddull Llywodraeth Cymru o hyrwyddo masnach a mewnfuddsoddi - sesiwn dystiolaeth 2 (10.20-11.10)

Tyst:

·         Graham Morgan, Cyfarwyddwr, Siambr Fasnach De Cymru

 

Dogfennau ategol:

·         EBC(4)-02-14(p.2) – Tystiolaeth gan Graham Morgan, Cyfarwyddwr, Siambr Fasnach De Cymru

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Graham Morgan, Cyfarwyddwr Siambr Fasnach De Cymru.

 


Cyfarfod: 22/01/2014 - Y Pwyllgor Menter a Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Ymchwiliad i ddull Llywodraeth Cymru o hyrwyddo masnach a mewnfuddsoddi - sesiwn dystiolaeth 1 (09.15-10.10)

 

Tystion:

·         Yr Athro Max Munday, Cyfarwyddwr yr Uned Ymchwil i Economi Cymru, Prifysgol Caerdydd

 

Dogfennau ategol:

Papur preifat (Papur Briffio'r Aelodau ar gyfer Eitemau 2, 3 a 4)

EBC(4)-02-14(p.1) - Tystiolaeth gan Dr Andrew Crawley a'r Athro Max Munday

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan yr Athro Max Munday, Cyfarwyddwr Uned Ymchwil i Economi Cymru, Prifysgol Caerdydd.