Cyfarfodydd
P-04-522 Asbestos mewn Ysgolion
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 26/01/2021 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)
- Gweddarllediad ar gyfer 26/01/2021 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 26/01/2021 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd
3 P-04-522 Asbestos mewn Ysgolion
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 3 PDF 40 KB Gweld fel HTML (3/1) 11 KB
- 07.01.21 Gohebiaeth – y Gweinidog Addysg at y Cadeirydd, Eitem 3 PDF 254 KB
Cofnodion:
Trafododd y
Pwyllgor yr ohebiaeth bellach a ddaeth i law, ynghyd â’r wybodaeth lefel uchel
a ddarparwyd ynghylch presenoldeb asbestos mewn adeiladau ysgolion yng Nghymru.
Gwnaeth y Pwyllgor gydnabod nad yw hyn yn diwallu holl ofynion y deisebydd,
fodd bynnag, yn sgil yr ystyriaeth fanwl a roddwyd i'r ddeiseb hon ers ei
chyflwyno yn y lle cyntaf, cytunodd y Pwyllgor nad oedd llawer o gamau pellach
o ddefnydd y byddai’n gallu eu cymryd ar yr adeg hon. Cytunodd yr Aelodau i
gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebydd.
Cyfarfod: 04/02/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)
- Gweddarllediad ar gyfer 04/02/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 04/02/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd
3 P-04-522 Asbestos mewn Ysgolion
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 3 PDF 38 KB Gweld fel HTML (3/1) 11 KB
- 23.12.19 Gohebiaeth – Gweinidog dros Addysg at y Cadeirydd, Eitem 3 PDF 260 KB
Cofnodion:
Trafododd y
Pwyllgor ohebiaeth ychwanegol a chytunodd i:
·
aros am gyhoeddi’r wybodaeth lefel
uchel am reoli asbestos mewn ysgolion, gyda’r bwriad o ddod â’i ystyriaeth o’r
ddeiseb i ben ar ôl i hyn gael ei wneud; ac
·
aros am farn y deisebwyr ar yr
ymateb a roddwyd gan y Gweinidog.
Cyfarfod: 03/12/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)
- Gweddarllediad ar gyfer 03/12/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 03/12/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd
3 P-04-522 Asbestos mewn Ysgolion
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 3 PDF 19 KB Gweld fel HTML (3/1) 11 KB
- 27.11.19 Gohebiaeth – Deisebydd at y Pwyllgor (Saesneg yn unig), Eitem 3 PDF 103 KB Gweld fel HTML (3/2) 24 KB
Cofnodion:
Ystyriodd y
Pwyllgor ragor o wybodaeth am y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog
Addysg i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf o ran cyhoeddi gwybodaeth lefel uchel
am reoli asbestos mewn ysgolion, fel y cyfeiriwyd ati yn ei gohebiaeth
flaenorol.
Cyfarfod: 11/06/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)
- Gweddarllediad ar gyfer 11/06/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 11/06/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd
3 P-04-522 Asbestos mewn Ysgolion
Dogfennau ategol:
- Tudealen flaen, Eitem 3 PDF 38 KB Gweld fel HTML (3/1) 11 KB
- 21.05.19 Gohebiaeth – Gweinidog dros Addysg at y Cadeirydd, Eitem 3 PDF 263 KB
Cofnodion:
Ystyriodd y
Pwyllgor ragor o wybodaeth gan Lywodraeth Cymru a sylwadau byr gan y deisebydd,
a chytunodd i aros am gyhoeddiad gwybodaeth yn deillio o'r arolwg ar gyflwr
ysgolion a’r canllawiau newydd ar reoli asbestos mewn ysgolion, a chynnig cyfle
i'r deisebydd ymateb yn fanylach, cyn ystyried a yw'n dymuno cymryd unrhyw
gamau pellach ynghylch y ddeiseb.
Cyfarfod: 05/06/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)
- Gweddarllediad ar gyfer 05/06/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 05/06/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd
3 P-04-522 Asbestos mewn Ysgolion
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 3 PDF 114 KB Gweld fel HTML (3/1) 11 KB
- 15.05.18 Gohebiaeth – Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg at y Cadeirydd, Eitem 3 PDF 138 KB
- 31.05.18 Gohebiaeth – y Deisebydd at y Pwyllgor, Eitem 3 PDF 101 KB Gweld fel HTML (3/3) 5 KB
Cofnodion:
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg,
ynghyd â sylwadau pellach gan y deisebydd, a chytunodd i aros am ragor o
wybodaeth am benderfyniad Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ynghylch cyhoeddi
gwybodaeth yn deillio o'r arolwg o gyflwr ysgolion, a chyhoeddi canllawiau
wedi'u diweddaru ar reoli asbestos mewn ysgolion.
Cyfarfod: 17/04/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)
- Gweddarllediad ar gyfer 17/04/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 17/04/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd
3 P-04-522 Asbestos mewn Ysgolion
Dogfennau ategol:
- Tudalen Flaen, Eitem 3 PDF 114 KB Gweld fel HTML (3/1) 10 KB
- 26.02.18 Gohebiaeth - Deisebydd at y Pwyllgor, Eitem 3 PDF 39 KB Gweld fel HTML (3/2) 12 KB
- 02.03.18 Gohebiaeth - Deisebydd at y Pwyllgor, Eitem 3 PDF 46 KB Gweld fel HTML (3/3) 9 KB
- 21.03.18 Gohebiaeth - Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg at y Cadeirydd, Eitem 3 PDF 135 KB
- 10.04.18 Gohebiaeth - Deisebydd at y Pwyllgor, Eitem 3 PDF 111 KB Gweld fel HTML (3/5) 14 KB
Cofnodion:
Trafododd y Pwyllgor ddiweddariad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg
ynghyd â sylwadau pellach gan y deisebydd a chytunodd i ofyn am ddiweddariad
gan Ysgrifennydd y Cabinet unwaith y bydd wedi ystyried yr ymatebion i'r arolwg
ar gyflwr ysgolion a'r ymgynghoriad gyda rhanddeiliaid allweddol ar y
Canllawiau i Reoli Asbestos mewn Ysgolion.
Cyfarfod: 27/02/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)
- Gweddarllediad ar gyfer 27/02/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 27/02/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd
3 P-04-522 Asbestos mewn Ysgolion
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 3 PDF 24 KB Gweld fel HTML (3/1) 9 KB
- 06.02.18 Gohebiaeth - Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg at y Cadeirydd (Saesneg yn unig) , Eitem 3 PDF 162 KB
Cofnodion:
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg a
chytunodd i:
·
ystyried sylwadau, a dderbyniwyd gan y deisebydd ar ôl i'r papurau gael eu
cyhoeddi, mewn cyfarfod yn y dyfodol; ac
·
ysgrifennu yn ôl at Ysgrifennydd y Cabinet i fynegi eu barn y dylid
cyhoeddi canlyniadau arolwg cyflwr yr ysgol.
Cyfarfod: 09/01/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)
- Gweddarllediad ar gyfer 09/01/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 09/01/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd
3 P-04-522 Asbestos mewn ysgolion
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 3 PDF 24 KB Gweld fel HTML (3/1) 9 KB
- 03.11.17 Gohebiaeth – gan y Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg at y Cadeirydd (Saesneg yn unig), Eitem 3 PDF 137 KB
- 29.11.17 Gohebiaeth – gan y deisebydd at y Pwyllgor (Saesneg yn unig), Eitem 3 PDF 56 KB Gweld fel HTML (3/3) 31 KB
- 14.11.17 Gohebiaeth gan Dawn Bowden AC at Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg (Saesneg yn unig), Eitem 3 PDF 281 KB Gweld fel HTML (3/4) 12 KB
- 24.11.17 Gohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg at Dawn Bowden AC (Saesneg yn unig), Eitem 3 PDF 139 KB
- 23.11.17 Gohebiaeth – Sefydliad Prydeinig yr Ysgyfaint at y deisebydd (Saesneg yn unig), Eitem 3 PDF 121 KB Gweld fel HTML (3/6) 14 KB
Cofnodion:
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg,
ynghyd â sylwadau pellach gan y deisebydd, a chytunodd i ysgrifennu at
Ysgrifennydd y Cabinet i ofyn:
·
y cwestiynau a gyflwynwyd gan y deisebydd, gan gynnwys ynghylch yr
ymgynghoriad ar ganllawiau diwygiedig ar gyfer rheoli asbestos mewn ysgolion
sydd ar y gweill yn gynnar yn 2018; ac
·
ei bod yn sicrhau bod pob awdurdod lleol yn ymateb yn llawn i'r adroddiad
arolwg cyflwr ysgolion.
Cyfarfod: 17/10/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)
3 P-04-522 Asbestos mewn ysgolion
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 3 PDF 24 KB Gweld fel HTML (3/1) 9 KB
- 02.10.17 Gohebiaeth – gan y deisebydd at y tîm clercio (Saesneg yn unig), Eitem 3 PDF 35 KB Gweld fel HTML (3/2) 11 KB
Cofnodion:
Trafododd y Pwyllgor
ohebiaeth gan y deisebydd a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet
dros yr Economi a'r Seilwaith i ofyn:
·
a yw Llywodraeth Cymru yn bwriadu rhannu'r data y mae wedi'u casglu
ynghylch ysgolion â chynlluniau asbestos, a sut y bydd yn gwneud hynny; ac
·
am ddiweddariad ynghylch pryd y bydd y Gweithgor Rheoli Asbestos mewn
Ysgolion yn cynnal trafodaethau i drafod datblygiadau diweddar yn Lloegr a'u
perthnasedd i ysgolion yng Nghymru.
Cyfarfod: 11/07/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)
3 P-04-522 Asbestos mewn Ysgolion
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 3 PDF 24 KB Gweld fel HTML (3/1) 9 KB
- 16.06.17 Gohebiaeth - Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg at y Cadeirydd, Eitem 3 PDF 170 KB
Cofnodion:
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg a
chytunodd i aros am sylwadau pellach gan y deisebydd ar y wybodaeth a
ddarparwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet, a nododd eu bod yn am ystyried y mater ymhellach
ar ôl i ymateb y deisebwr ddod i law.
Cyfarfod: 23/05/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)
3 P-04-522 Asbestos mewn Ysgolion
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 3 PDF 24 KB Gweld fel HTML (3/1) 9 KB
- 2017.04.05 Gohebiaeth - Y Gweinidog Addysg a Sgiliau at y Cadeirydd (Saesneg yn unig), Eitem 3 PDF 164 KB
- Crynodeb o’r Dystiolaeth a Gafwyd , Gweld rhesymau dros gyfyngu (3/3)
- 17.05.17 Gohebiaeth – gan y deisebydd at y Pwyllgor (Saesneg yn unig), Eitem 3 PDF 117 KB Gweld fel HTML (3/4) 41 KB
- Atodiad (Saesneg yn unig) , Gweld rhesymau dros gyfyngu (3/5)
Cofnodion:
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb. Oherwydd yr amser sydd
wedi mynd heibio ers i'r Pwyllgor Deisebau blaenorol glywed tystiolaeth ar y
mater hwn, cytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i ofyn
barn bresennol y Llywodraeth ar y materion a godwyd gan y deisebydd.
Cyfarfod: 08/03/2016 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)
3 P-04-522 Asbestos mewn Ysgolion
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 3 PDF 14 KB Gweld fel HTML (3/1) 9 KB
- 22.12.2015 Gohebiaeth – gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau at y Cadeirydd (Saesneg yn unig), Eitem 3 PDF 113 KB
- Cylch Gorchwyl y Gweithgor Rheoli Asbestos mewn Ysgolion (Saesneg yn unig), Eitem 3 PDF 137 KB Gweld fel HTML (3/3) 27 KB
- 01.03.2016 Gohebiaeth – gan y deisebydd at y Pwyllgor (Saesneg yn unig), Eitem 3 PDF 122 KB Gweld fel HTML (3/4) 49 KB
- Deisebydd at y Pwyllgor - Gwybodaeth ategol 1 (Saesneg yn unig), Eitem 3 PDF 1 MB
- Deisebydd at y Pwyllgor - Gwybodaeth ategol 2 (Saesneg yn unig), Eitem 3 PDF 1 MB
Cofnodion:
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i:
·
ofyn am farn y Gweinidog ar sylwadau pellach y deisebydd; a
·
gofyn am grynodeb o’r gwaith a wnaed eisoes i lywio ystyriaeth y Pwyllgor
nesaf.
Cyfarfod: 23/02/2016 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)
3 P-04-522 Asbestos mewn Ysgolion
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 3 PDF 14 KB Gweld fel HTML (3/1) 23 KB
- 06.08.2015 Gohebiaeth – y Gweinidog Addysg a Sgiliau at y Cadeirydd, Eitem 3 PDF 114 KB
- Cylch Gorchwyl y Gweithgor Rheoli Asbestos mewn Ysgolion, Eitem 3 PDF 137 KB Gweld fel HTML (3/3) 27 KB
Cofnodion:
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau a
chytunwyd i aros am ymateb mwy sylweddol gan y deisebydd.
Cyfarfod: 08/12/2015 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 8)
8 Trafod Sesiwn Dystiolaeth Lafar - P-04-522 Asbestos mewn Ysgolion
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 84 , Gweld rhesymau dros gyfyngu (8/1)
- Cyfyngedig 85 , Gweld rhesymau dros gyfyngu (8/2)
Cofnodion:
Cytunodd y Pwyllgor i ohirio ystyried y ddeiseb nes iddo dderbyn rhagor o
wybodaeth gan y Gweinidog yn dilyn ei sesiwn dystiolaeth ar 24 Tachwedd.
Cyfarfod: 24/11/2015 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 7)
7 Sesiwn Dystiolaeth - P-04-522 Asbestos mewn Ysgolion
Huw Lewis AC – Gweinidog
Addysg a Sgiliau.
Joanne Larner – Llywodraeth Cymru
Kathryn Massey – Llywodraeth Cymru
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 7 PDF 14 KB Gweld fel HTML (7/1) 9 KB
- Briff Ymchwil , Gweld rhesymau dros gyfyngu (7/2)
Cofnodion:
Atebodd y Gweinidog gwestiynau gan y Pwyllgor.
Cytunodd y Gweinidog i ysgrifennu at y Pwyllgor i:
·
Gadarnhau a yw rheoli asbestos yn cael ei gynnwys mewn rhaglenni hyfforddi
llywodraethwyr; a
·
Darparu gwybodaeth bellach ar aelodaeth y gweithgor asbestos a’i gylch
gorchwyl.
Cyfarfod: 20/10/2015 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)
4 Sesiwn Dystiolaeth - P-04-522 Asbestos mewn Ysgolion
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 4 PDF 14 KB Gweld fel HTML (4/1) 9 KB
- Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil (Saesneg yn unig) , Gweld rhesymau dros gyfyngu (4/2)
- Cenric Evans – Ymateb i’r Holiadur (Saesneg yn unig) , Gweld rhesymau dros gyfyngu (4/3)
Cofnodion:
Atebodd Cenric Clement-Evans gwestiynau gan y Pwyllgor.
Cyfarfod: 22/09/2015 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)
3 P-04-522 Asbestos mewn Ysgolion
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 3 PDF 14 KB Gweld fel HTML (3/1) 9 KB
- 16.07.2015 Gohebiaeth – gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau i'r Cadeirydd (Saesneg yn unig), Eitem 3 PDF 123 KB
Cofnodion:
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i wahodd y
Gweinidog Addysg a Sgiliau i roi tystiolaeth lafar ar y ddeiseb.
Cyfarfod: 16/06/2015 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)
3 P-04-522 Asbestos mewn Ysgolion
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 3 PDF 14 KB Gweld fel HTML (3/1) 9 KB
- 04.06.2015 Gohebiaeth – gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau i'r Cadeirydd (Saesneg yn unig), Eitem 3 PDF 120 KB
- 11.06.2015 Gohebiaeth – gan y deisebydd i'r Cadeirydd, Eitem 3 PDF 23 KB Gweld fel HTML (3/3) 10 KB
Cofnodion:
Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i:
- ofyn i'r Gweinidog ymateb i'r
cwestiwn o sefydlu Grŵp Llywio ynghylch Asbestos mewn Ysgolion i
gynorthwyo'r Adran Addysg a Sgiliau wrth i'w swyddogion lunio ac adolygu
polisi ar y mater hwn; ac
- ystyried a ddylid gwahodd y
Gweinidog i un o gyfarfodydd y Pwyllgor yn y dyfodol i ateb cwestiynau ar
y mater.
Cyfarfod: 12/05/2015 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)
3 P-04-522 Asbestos mewn Ysgolion
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 3 PDF 14 KB Gweld fel HTML (3/1) 9 KB
- 20.04.2015 Gohebiaeth – y Gweinidog Addysg a Sgiliau at y Cadeirydd, Eitem 3 PDF 140 KB
- 06.05.15 Gohebiaeth – Deisebydd at y Pwyllgor, Eitem 3 PDF 27 KB Gweld fel HTML (3/3) 6 KB
- 06.05.15 Gohebiaeth - Rheoli asbestos mewn ysgolion Adroddiad - Adran yr Amgylchedd, Eitem 3 PDF 331 KB
- 06.05.15 Gohebiaeth - Sylwadau Adolygiad Adran yr Amgylchedd AiS JUAC 5 Mai 15 (pdf), Eitem 3 PDF 640 KB
- 06.05.15 Gohebiaeth - TORs 2011-02-22 asbestos mewn ysgolion SG ToR (2) pdf, Eitem 3 PDF 64 KB
Cofnodion:
Trafododd y
Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog
Addysg a Sgiliau:
·
Yn gofyn am
ei farn ar sylwadau pellach y deisebydd ac yn benodol, yn gofyn am ei farn ar
gynnig y deisebydd i sefydlu grŵp llywio i gynnwys arbenigwyr o bob
sector; ac
·
Yn diolch
iddo am addo i ddarparu diweddariad ysgrifenedig i’r Pwyllgor erbyn 5 Mehefin.
Cyfarfod: 03/02/2015 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)
4 P-04-522 Asbestos mewn Ysgolion
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 4 PDF 24 KB Gweld fel HTML (4/1) 9 KB
- 21.01.2015 Gohebiaeth – gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau i'r Cadeirydd (Saesneg yn unig), Eitem 4 PDF 123 KB
- 28.01.2015 Gohebiaeth – gan y deisebydd i'r Cadeirydd (Saesneg yn unig), Eitem 4 PDF 125 KB Gweld fel HTML (4/3) 28 KB
Cofnodion:
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:
·
ofyn i'r Gweinidog ymateb i sylwadau pellach y deisebydd, yn enwedig y tri chais
ar dudalen olaf ei ymateb; ac
·
ystyried yng ngoleuni'r ymateb hwnnw i gymryd tystiolaeth lafar gan y
Deisebydd a'r Gweinidog.
Cyfarfod: 21/10/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)
2 P-04-522 Asbestos mewn Ysgolion
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 2 PDF 24 KB Gweld fel HTML (2/1) 9 KB
- 06.08.2014 Gohebiaeth – gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau i'r Cadeirydd (Saesneg yn unig), Eitem 2 PDF 142 KB
- 04.09.2014 Gohebiaeth - Llywodraethwyr Cymru I’r Cadeirydd (Saesneg yn unig), Eitem 2 PDF 256 KB Gweld fel HTML (2/3) 24 KB
- 16.10.2014 Gohebiaeth - TUC Cymru I’r Cadeirydd (Saesneg yn unig), Eitem 2 PDF 28 KB Gweld fel HTML (2/4) 8 KB
- 16.10.2014 Gohebiaeth – gan y deisebydd i'r Pwyllgor (Saesneg yn unig), Eitem 2 PDF 53 KB
- 17.10.2014 Gohebiaeth - Y Pwyllgor Asbestos Cyd-Undebol I’r Tim Clercio (Saesneg yn unig), Eitem 2 PDF 28 KB
Cofnodion:
Trafododd y
Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y
Gweinidog Addysg a Sgiliau:
·
Yn gofyn am
ei sylwadau ar yr ohebiaeth bellach a dderbyniwyd a gofyn ei fod yn rhoi gwybod
i’r Pwyllgor am ei ystyriaeth o’r ymgynghoriad yn Lloegr;
·
Yn gofyn
iddo amlinellu’r rhesymau dros beidio â chynnal ymgynghoriad ar hyn o bryd; a
·
Chyfleu
barn y Pwyllgor bod hwn yn faes lle dylai Cymru fod yn rhagweithiol ac y
byddai’n anffodus pe byddai Cymru yn llusgo y tu ôl i Loegr o ran hygyrchedd
gwybodaeth am bresenoldeb a rheoli asbestos mewn adeiladau ysgol.
Cyfarfod: 17/06/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)
3 P-04-522 Asbestos mewn Ysgolion
Dogfennau ategol:
- Tudalen Flaen, Eitem 3 PDF 24 KB Gweld fel HTML (3/1) 9 KB
- 23.05.2014 Gohebiaeth - Prif Weithredwr Dros Dro am Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch I’r Cadeirydd (Saesneg yn unig), Eitem 3 PDF 409 KB
- 10.06.2014 Gohebiaeth - Deisebydd I’r tim clercio (Saesneg yn unig), Eitem 3 PDF 5 MB
Cofnodion:
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at:
·
y Gweinidog, gan anfon copi o ohebiaeth ddiweddar y deisebydd;
·
Cadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg gan dynnu sylw at y
ddeiseb; a'r
·
rhanddeiliaid canlynol i ofyn eu barn am y ddeiseb:
o
Cyngres Undebau Llafur Cymru;
o
Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru; a
o
Llywodraethwyr Cymru.
Cyfarfod: 25/03/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)
2 P-04-522 Asbestos mewn Ysgolion
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 2 PDF 24 KB Gweld fel HTML (2/1) 9 KB
- 03.03.2014 Gohebiaeth - y Gweinidog Addysg a Sgiliau at y Cadeirydd (Saesneg yn unig), Eitem 2 PDF 144 KB
- 19.03.2014 Gohebiaeth - Deisebydd at y tîm clercio (Saesneg yn unig), Eitem 2 PDF 62 KB
- 25.10.2013 Llythyr gan Annette Brooke AS at David Laws AS (darparwyd gan y deisebydd), Eitem 2 PDF 90 KB
- 15.11.2013 Llythyr gan David Laws AS at Annette Brooke AS (darparwyd gan y deisebydd), Eitem 2 PDF 4 MB
- Adolygiad Polisi - Rheoli Asbestos mewn Ysgolion, Eitem 2 PDF 213 KB
Cofnodion:
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i:
·
ysgrifennu at yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch i ofyn eu barn am
y gwaith sy'n cael ei wneud mewn ysgolion yn Lloegr ac i ofyn pam nad oes
gofyniad statudol i hysbysu myfyrwyr a rhieni o drefniadau rheoli asbestos mewn
ysgolion; a
·
gofyn am farn y deisebydd ynghylch y cyngor cyfreithiol a roddwyd yn y
cyfarfod.
Cyfarfod: 21/01/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)
3 P-04-522 Asbestos mewn Ysgolion
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 3 PDF 100 KB Gweld fel HTML (3/1) 9 KB
- 02.01.2014 Gohebiaeth - Y Gweinidog i'r Cadeirydd (Saesneg yn unig), Eitem 3 PDF 150 KB
Cofnodion:
Trafododd
y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i:
·
ysgrifennu at y Gweinidog Addysg a Sgiliau, i rannu gohebiaeth
y deisebydd ac i ofyn a yw ei farn ef wedi
newid
yng ngoleuni’r ohebiaeth hon; a
·
gofyn am friff cyfreithiol i roi eglurhad ynghylch o fewn
cylch gwaith pwy y daw'r mater hwn.
Cyfarfod: 10/12/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)
2 P-04-522 Asbestos mewn Ysgolion
Dogfennau ategol:
Cofnodion:
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at
y Gweinidog Addysg a Sgiliau i ofyn am ei farn am y ddeiseb.