Cyfarfodydd

P-04-519 Diddymu Taliadau Comisiwn wrth werthu Cartrefi mewn Parciau

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 03/07/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-04-519 Diddymu Taliadau Comisiwn wrth werthu Cartrefi mewn Parciau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn trafod yr ohebiaeth gan y deisebwyr ac, oherwydd yr ystyriaeth fanwl a roddwyd i'r materion a nodwyd gan Lywodraeth Cymru a'r disgwyliad i gyflwyno rheoliadau a fydd yn lleihau'r lefel comisiwn gwerthu uchaf i 5 y cant, cytunwyd i gau'r ddeiseb ar y pwynt hwn.

 

 


Cyfarfod: 19/06/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-04-519 Diddymu Taliadau Comisiwn wrth werthu Cartrefi mewn Parciau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ddatganiad diweddar y Gweinidog Tai ac Adfywio a chytunodd i ysgrifennu at y deisebwyr yn gofyn am eu barn am benderfyniad y Gweinidog Tai ac Adfywio, gan egluro'r un pryd bod y Pwyllgor o'r farn nad oes llawer yn rhagor y gall y Pwyllgor ei wneud yng ngoleuni'r ystyriaeth fanwl a roddwyd i'r mater gan Lywodraeth Cymru.

 

 


Cyfarfod: 17/04/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-04-519 Diddymu Taliadau Comisiwn wrth werthu Cartrefi mewn Parciau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ddiweddariad gan y Gweinidog Tai ac Adfywio a chytunodd i aros am gyhoeddiad yn dilyn adroddiad gan ddadansoddwyr annibynnol ar y wybodaeth ariannol a rannwyd gan berchnogion safleoedd cyn trafod p'un a ddylid cymryd unrhyw gamau pellach ar y ddeiseb.

 


Cyfarfod: 13/06/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-04-519 Diddymu Taliadau Comisiwn wrth werthu Cartrefi mewn Parciau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn trafod gohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i aros am ganlyniad yr ymgynghoriad cyhoeddus ar y mater hwn, a phenderfyniad Llywodraeth Cymru, cyn ystyried a oes angen cymryd camau ychwanegol ynghylch y ddeiseb.

 

 


Cyfarfod: 14/02/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-04-519 Diddymu taliadau comisiwn wrth werthu cartrefi mewn parciau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant a’r deisebydd a chytunodd i:

 

  • aros i Ysgrifennydd y Cabinet gyhoeddi penderfyniadau’n dilyn ymchwiliad i’r diwydiant dan sylw, cyn penderfynu a ddylid cymryd camau pellach; ac
  • archwilio a fyddai'n bosibl cwrdd â'r deisebwyr yn anffurfiol i drafod eu deiseb.

 

 


Cyfarfod: 29/11/2016 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-04-519 Diddymu Taliadau Comisiwn wrth werthu Cartrefi mewn Parciau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet i ofyn a fyddai ef neu ei swyddogion yn fodlon cyfarfod â’r deisebwyr i drafod eu pryderon a’r camau eraill posibl y mae’r gwaith ymchwil yn ei awgrymu.

 


Cyfarfod: 11/10/2016 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-04-519 Diddymu Taliadau Comisiwn wrth werthu Cartrefi mewn Parciau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a, gan fod ymchwil i economeg y diwydiant cartrefi mewn parciau bellach wedi'i gyhoeddi gan Lywodraeth Cymru, cytunwyd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant i ofyn am sylwadau'r Llywodraeth ar yr argymhellion mewn perthynas â gallu perchnogion safleoedd i godi tâl comisiwn ar werthu cartrefi mewn parciau.

 


Cyfarfod: 24/11/2015 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-519 Diddymu Taliadau Comisiwn wrth werthu Cartrefi mewn Parciau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd yr Aelodau ohebiaeth gan y deisebydd ac, o ystyried na fydd y cynnig ymchwil sy’n cael ei ddatblygu i edrych ar economeg y diwydiant cartrefi mewn parciau yn cael ei gwblhau tan ar ôl etholiadau’r Cynulliad, cytunwyd i gadw’r ddeiseb ar agor er mwyn caniatáu i Bwyllgor y 5ed Cynulliad ei ystyried pe byddai’n dewis gwneud hynny.

 


Cyfarfod: 02/06/2015 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-519 Diddymu Taliadau Comisiwn wrth werthu Cartrefi mewn Parciau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i aros am sylwadau'r deisebydd ar ohebiaeth y Gweinidog.


Cyfarfod: 10/03/2015 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 P-04-519 Diddymu Taliadau Comisiwn wrth werthu Cartrefi mewn Parciau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i ofyn i'r Gweinidog sicrhau y bydd y deisebwyr yn cael eu cynnwys mewn unrhyw ymgynghoriad ar yr adolygiad sydd i ddechrau yn y gwanwyn. 

 


Cyfarfod: 21/10/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 P-04-519 Diddymu Taliadau Comisiwn wrth werthu Cartrefi mewn Parciau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

The Committee considered correspondence on the petition and agreed to ask the Minister for Communities and Tackling Poverty if her officials, whose diary commitments may not be so extensive, would be prepared to meet the petitioners as requested.


Cyfarfod: 01/07/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-519 Diddymu Taliadau Comisiwn wrth werthu Cartrefi mewn Parciau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ofyn i'r Gweinidog a yw'n fodlon cyfarfod â'r deisebydd, yn unol â chais y deisebydd.

 


Cyfarfod: 29/04/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-519 Diddymu Taliadau Comisiwn wrth werthu Cartrefi mewn Parciau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog Tai ac Adfywio a chytunodd i ofyn i’r Gweinidog roi gwybod i’r Pwyllgor am ddatblygiadau’n ymwneud â’r ymgynghoriadau ar Reoliadau sy’n codi o Ddeddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013 ac i rannu pryderon y deisebydd gydag ef. 

 


Cyfarfod: 21/01/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-519 Diddymu Taliadau Comisiwn wrth werthu Cartrefi mewn Parciau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i ofyn i'r Gweinidog am ei farn ar sylwadau pellach y deisebydd, yn benodol, y pwynt fod y trefniadau presennol yn rhoi cymhelliad gwrthnysig i berchnogion orfodi pobl sy'n defnyddio'r cartrefi i werthu.

 


Cyfarfod: 10/12/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 P-04-519 Diddymu Taliadau Comisiwn wrth werthu Cartrefi mewn Parciau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at:

 

·         y Gweinidog Tai ac Adfywio i ofyn am ei farn am y ddeiseb; a

·         Peter Black AC i ofyn am ei farn am y ddeiseb, o gofio ei brofiad penodol gyda Deddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013.