Cyfarfodydd

P-04-516 I wneud gwyddor gwleidyddiaeth yn rhan orfodol o addysg

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 13/09/2016 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-04-516 Gwneud Gwyddor Gwleidyddiaeth yn rhan orfodol o Addysg

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ac, yn unol â phenderfyniad y Pwyllgor blaenorol, cytunodd i gau’r ddeiseb.

 


Cyfarfod: 24/11/2015 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-516 Gwneud Gwyddor Gwleidyddiaeth yn rhan orfodol o Addysg

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i ysgrifennu at y Gweinidog i ofyn a oes yna faes o waith yr Athro Donaldson sy’n ymwneud â Gwyddor Gwleidyddiaeth y gallai’r deisebydd naill ai fod yn ymwneud ag ef, neu’n gallu cael yr wybodaeth ddiweddaraf yn ei gylch. Cytunodd yr Aelodau hefyd i symud i gau’r ddeiseb unwaith y byddai ymateb wedi ei dderbyn gan y Gweinidog.

 

 


Cyfarfod: 24/03/2015 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 P-04-516 I wneud gwyddor gwleidyddiaeth yn rhan orfodol o addysg

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y deisebydd yn gofyn a oes ganddo unrhyw sylwadau ar adroddiad yr Athro Donaldson neu ar ddatganiad y Gweinidog. 

 


Cyfarfod: 20/01/2015 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 P-04-516 Gwneud gwyddor gwleidyddiaeth yn rhan orfodol o addysg

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:

 

·         anfon sylwadau'r deisebydd at yr Athro Donaldson yn gofyn iddynt gael eu hystyried yn ei adolygiad; ac

·         ystyried y ddeiseb drachefn pan gyhoeddir adroddiad yr Athro Donaldson.

 


Cyfarfod: 11/11/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-516 Gwneud gwyddor gwleidyddiaeth yn rhan orfodol o addysg

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ofyn am sylwadau pellach gan y deisebydd ar yr ohebiaeth a ddaeth i law.

 


Cyfarfod: 01/07/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-516 Gwneud gwyddor gwleidyddiaeth yn rhan orfodol o addysg

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:

 

·         rannu'r papur ymchwil gyda'r deisebydd; ac

·         ysgrifennu at yr Athro Graham Donaldson gan rannu'r papur ymchwil a gofyn a fyddai'n barod i gyfarfod â'r deisebydd er mwyn cael trafodaeth fanylach ynglŷn â phwnc y ddeiseb.

 


Cyfarfod: 25/03/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 P-04-516 Gwneud gwyddor gwleidyddiaeth yn rhan orfodol o addysg

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i:

·         ofyn am farn y deisebydd ar ymateb y Gweinidog; a 

·         gofyn am ragor o wybodaeth gan y grŵp llywio a sefydlwyd i oruchwylio'r diwygiadau i Fagloriaeth Cymru ynghylch unrhyw ystyriaethau sydd ganddynt i gynnwys gwyddor gwleidyddiaeth yn y cwricwlwm;

·         aros am ganlyniadau'r holiadur sy'n cael ei ddosbarthu gan dîm addysg y Cynulliad; a

·         gofyn i Glerc y Pwyllgor gadw mewn cysylltiad â'r Gwasanaeth Ymchwil ynghylch y gwaith o geisio â chael gwybodaeth mwy cynhwysfawr gan ysgolion ynghylch a ddylid cynnwys gwyddor gwleidyddiaeth yn eu cwricwlwm ABCh, a sut i wneud hynny.

 


Cyfarfod: 21/01/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-516 I wneud gwyddor gwleidyddiaeth yn rhan orfodol o addysg

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i:

 

·         anfon sylwadau'r deisebydd ymlaen at y Gweinidog, a gofyn a oes ganddo ragor o sylwadau ar y pwyntiau a wnaed; a

·         thynnu sylw Tîm Addysg y Cynulliad at y ddeiseb.

 

 


Cyfarfod: 26/11/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-516 Gwneud gwyddor gwleidyddiaeth yn rhan orfodol o addysg

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Addysg a Sgiliau i ofyn ei farn am y ddeiseb.