Cyfarfodydd
Cyllideb Comisiwn y Cynulliad 2014-15
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 20/04/2015 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 8)
Y wybodaeth ddiweddaraf am y gyllideb
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 2
Cofnodion:
ACARAC (27)
Papur 11 - Y wybodaeth ddiweddaraf am y Gyllideb
8.1
Rhoddodd Nicola y wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor am yr achos o dwyll a
byddai’n parhau i wneud hynny wrth i’r achos fynd rhagddo.
8.2
Roedd y gyllideb yn debygol o gyrraedd y targedau ariannol a bennwyd. Ar
gais y Pwyllgor, cytunodd Nicola i archwilio’r dadansoddiad Gwerth am Arian a’r
targedau.
Camau i’w
cymryd
-
Archwilio’r dadansoddiad Gwerth am Arian a’r targedau.
Cyfarfod: 25/02/2015 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 8)
8 Cyllideb Atodol Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2014-15
Dogfennau ategol:
- FIN(4)-03-15 Papur 5 – Llythyr gan Angela Burns at y Cadeirydd (Saesneg yn unig), Eitem 8 PDF 126 KB
- FIN(4)-03-15 Papur 6 – Memorandwm Esboniadol, Eitem 8 PDF 538 KB
- FIN(4)-03-15 Papur 7 – Llythyr gan y Cadeirydd at Angela Burns, Eitem 8 PDF 173 KB
- FIN(4)-03-15 Papur 8 – Llythyr gan Claire Clancy at y Cadeirydd, Eitem 8 PDF 179 KB
Cofnodion:
8.1 Ystyriodd y Pwyllgor Gyllideb Atodol
Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2014-15.
Cyfarfod: 09/02/2015 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 9)
Yr wybodaeth ddiweddaraf am gyllideb 2014-15
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 12
Cofnodion:
ACARAC (26) Papur 11 - Yr wybodaeth
ddiweddaraf am gyllideb 2014-15
9.1
Llongyfarchodd y Pwyllgor Nicola ar sefyllfa'r gyllideb
ac amlygodd yr arbedion Gwerth am Arian a chanlyniadau perfformiad talu
prydlon.
9.2
Dywedodd Nicola wrth yr aelodau i'r Gyllideb Atodol gael
ei gosod ar 2 Chwefror i wneud yn iawn am y diffyg yng nghronfa bensiwn
Aelodau'r Cynulliad. Roedd Cadeirydd y
Pwyllgor Cyllid wedi gofyn am wybodaeth bellach am yr elfen gyfalaf yn y
gyllideb ac roedd Nicola wrthi'n paratoi ymateb.
Cyfarfod: 16/07/2014 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)
Cyllideb Ddrafft Comisiwn y Cynulliad 2014-15
Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil
Peter Black AC - Comisiynydd y Cynulliad sy'n gyfrifol am TGCh, darlledu
ac e-ddemocratiaeth; ystâd y Cynulliad a chynaliadwyedd.
Dave Tosh - Cyfarwyddwr TGCh, Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Nicola Callow - Pennaeth Cyllid, Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Cofnodion:
4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Peter Black AC, Comisiynydd y
Cynulliad sy'n gyfrifol am TGCh, darlledu ac e-ddemocratiaeth, ystâd y
Cynulliad a chynaliadwyedd, Dave Tosh, Cyfarwyddwr TGCh, Cynulliad Cenedlaethol
Cymru a Nicola Callow, Pennaeth Cyllid, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ynghylch
cyllideb ddrafft Comisiwn y Cynulliad 2014-15.
Cyfarfod: 16/07/2014 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)
3 Cyllideb Ddrafft Comisiwn y Cynulliad 2014-15
FIN(4)-14-14 (papur 1)
Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil
Rhodri Glyn Thomas AC - Comisiynydd y Cynulliad sy'n gyfrifol am
swyddogaethau a pholisi’r Comisiwn mewn perthynas â’r ieithoedd swyddogol, y
gwasanaethau cyfreithiol a Rhyddid Gwybodaeth
Craig Stephenson - Cyfarwyddwr Gwasanaethau Comisiwn Dros Dro, Cynulliad
Cenedlaethol Cymru
Nicola Callow - Pennaeth Cyllid, Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Dogfennau ategol:
- FIN(4)-14-14 (p1), Eitem 3 PDF 4 MB
- Briff ymchwil , Gweld rhesymau dros gyfyngu (3/2)
Cofnodion:
3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Rhodri Glyn Thomas AC, Comisiynydd y
Cynulliad sy'n gyfrifol am swyddogaethau a pholisi ieithoedd swyddogol y
Comisiwn, gwasanaethau cyfreithiol a Rhyddid Gwybodaeth, Craig Stephenson,
Cyfarwyddwr Gwasanaethau Comisiwn dros dro, Cynulliad Cenedlaethol Cymru a
Nicola Callow, Pennaeth Cyllid, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ynghylch cyllideb
ddrafft Comisiwn y Cynulliad 2014-15.
Cyfarfod: 27/11/2013 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)
4 Cyllideb Ddrafft Comisiwn y Cynulliad 2014-15: Llythyr gan Angela Burns AC
FIN(4)-21-13(ptn1)
Dogfennau ategol:
Cyfarfod: 20/11/2013 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5.)
Cynnig i gymeradwyo Cyllideb Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2014/15
NDM5361 Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol
Sefydlog 20.16:
Yn cytuno
ar gyllideb Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2014-15, fel y pennir yn
Nhabl 1 “Cyllideb Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2014-15”, a osodwyd gerbron y Cynulliad ar 13 Tachwedd 2013 a’i bod yn cael ei
hymgorffori yn y Cynnig Cyllidebol Blynyddol o dan Reol Sefydlog 20.26(ii).
Dogfennau
Ategol:
Dogfen Cyllideb Comisiwn y Cynulliad
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am
14.56
NDM5361
Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro)
Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 20.16:
Yn
cytuno ar gyllideb Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2014-15, fel y pennir yn Nhabl
1 “Cyllideb Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2014-15”, a osodwyd gerbron y
Cynulliad ar 13 Tachwedd 2013 a’i bod yn cael ei hymgorffori yn y Cynnig
Cyllidebol Blynyddol o dan Reol Sefydlog 20.26(ii).
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Cyfarfod: 17/10/2013 - Comisiwn y Senedd (Eitem 4)
Cyllideb Ddrafft - Adroddiad y Pwyllgor Cyllid
papur 4 ac atodiadau
Cofnodion:
Gosodwyd
cyllideb y Comisiwn ar gyfer 2014 i’w hystyried gan y Cynulliad ar ddiwedd mis
Medi.
Roedd
y Comisiynwyr wedi cytuno y dylid seilio’r gyllideb ar y swm o £50.598 miliwn,
fel y nodwyd yn y dogfennau cyllideb a gafodd eu cymeradwyo ar gyfer y ddwy
flynedd flaenorol. Bu Pwyllgor Cyllid y Cynulliad yn craffu ar y dogfennau hyn
ym mis Hydref 2011 a 2012.
2014-15
fydd blwyddyn olaf cynllun buddsoddi tair blynedd y Comisiwn ar gyfer y
gyllideb. Roedd cynnig cyllideb 2014-15 yn cadw at yr hyn a nodwyd yng
nghyllidebau’r ddwy flynedd flaenorol.
Rhoddodd Angela
Burns AC, Claire Clancy a Nicola Callow dystiolaeth i Bwyllgor Cyllid y
Cynulliad ar 3 Hydref.
Paratowyd
adroddiad y Pwyllgor Cyllid mewn ymateb i’r gyllideb ddrafft a’r dystiolaeth a
ddaeth i law. Mae’r adroddiad:
-
yn cefnogi, yn gyffredinol, cynigion y Comisiwn
ar gyfer y gyllideb ddrafft; yn croesawu dull y Comisiwn o gyflwyno adroddiadau
ar berfformiad drwy Ddangosyddion Perfformiad Allweddol;
-
yn mynegi rhai pryderon ynghylch gallu’r
Comisiwn i gyflawni rhai o’i nodau mewn perthynas â’i dargedau o ran lleihau carbon, y strategaeth TGCh ac
Ieithoedd Swyddogol;
- yn argymell bod Aelodau unigol o’r Pwyllgor yn cael eu haseinio i gydweithio’n agos â’r Comisiwn a chraffu ar ei waith o ran TGCh ac Ieithoedd Swyddogol.
Trafododd
y Comisiynwyr yr adroddiad. Cytunodd y Comisiynwyr y caiff gwybodaeth
ychwanegol ynghylch y strategaeth TGCh ei chynnwys yn nogfen y gyllideb
ddrafft. Bydd y Comisiwn yn ymateb i’r Pwyllgor gan:
-
nodi’r ffaith y byddai’r Comisiwn yn targedu
adnoddau at ei feysydd blaenoriaeth ar gyfer arloesi a buddsoddi (ieithoedd
swyddogol, TGCh ac ymgysylltu â phobl ifanc);
-
pwysleisio cyfrifoldebau’r Comisiwn o dan Ddeddf
Llywodraeth Cymru 2006 a’r trefniadau llywodraethu cryf sydd ar waith i sicrhau
uniondeb, atebolrwydd a gwerth am arian, a dwyn y Comisiwn i gyfrif;
-
awgrymu y byddai cynnwys aelodau’r Pwyllgor
Cyllid yn y gwaith o fonitro elfennau unigol o waith yn amharu ar linellau
atebolrwydd priodol a chyfrifoldebau’r Comisiwn o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru
2006;
- cynnig y byddai Comisiynwyr yn barod i roi tystiolaeth i’r Pwyllgor yn ystod y flwyddyn ar unrhyw fater sydd o ddiddordeb penodol, a byddai hynny’n gyfle i graffu ymhellach ar weithgareddau a gwariant y Comisiwn.
Caiff
newidiadau eu gwneud i ddogfen y gyllideb ddrafft er mwyn adlewyrchu ymateb y
Comisiwn i argymhellion y Pwyllgor. Caiff yr ymateb ei anfon at Gadeirydd y
Pwyllgor yr wythnos ddilynol. Caiff y gyllideb ei gosod gerbron y Cynulliad ym
mis Tachwedd. Disgwylir i’r ddadl a’r bleidlais arni gael eu cynnal yn hwyrach
ym mis Tachwedd.
Bydd y cyfarfod nesaf yn cael ei gynnal ar 11 Tachwedd a bydd y Comisiwn yn ystyried y gefnogaeth sydd ar gael i bwyllgorau’r Cynulliad.
Cyfarfod: 09/10/2013 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)
Trafod yr adroddiad drafft ar gyllideb ddrafft Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2014-15
FIN(4)-16-13 Papur 1
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 30 , Gweld rhesymau dros gyfyngu (3/1)
Cofnodion:
3.1 Roedd Peter Black AC yn absennol ar gyfer yr eitem
hon gan ei fod yn aelod o Gomisiwn y Cynulliad.
3.2 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft a chytunodd
arno.
Cyfarfod: 03/10/2013 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)
2 Craffu ar Gyllideb Ddrafft Comisiwn y Cynulliad 2014-15
FIN(4)-15-3 (Papur1)
FIN(4)-15-3 (Papur 2)
Angela Burns AC, Comisiynydd
Claire Clancy, Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad
Nicola Callow, Pennaeth Cyllid
Dogfennau ategol:
Cofnodion:
2.1 Roedd Peter Black AC yn
absennol ar gyfer yr eitem hon gan ei fod yn aelod o Gomisiwn y Cynulliad.
2.2 Holodd yr Aelodau y
tystion a ganlyn am Gyllideb Ddrafft Comisiwn y Cynulliad: Angela Burns AC,
Comisiynydd; Claire Clancy, Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad; a Nicola
Callow, Pennaeth Cyllid.
2.3 Gofynnodd y Pwyllgor i
Angela Burns AC ddarparu gwybodaeth bellach ar y ffigurau ar gyfer buddsoddi
mewn TGCh a'r meysydd y byddai'r arian hwn yn cael ei fuddsoddi ynddynt.
2.4 Gofynnodd y Pwyllgor i
Angela Burns AC ddarparu nodyn ar nifer y ceisiadau gan ysgolion sydd am ymweld
â'r Cynulliad sy'n cael eu gwrthod, gan gynnwys dadansoddiad daearyddol o'r
wybodaeth hon.
Cyfarfod: 03/10/2013 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6)
Trafod y dystiolaeth a gafwyd
Cofnodion:
6.1 Trafododd y Pwyllgor y
dystiolaeth a gafwyd ar Gyllideb Ddrafft Comisiwn y Cynulliad 2014-2015.
6.2 Trafododd y Pwyllgor y
dystiolaeth a gafwyd ar amcangyfrif drafft yr Ombwdsman Gwasanaethau Cyhoeddus.
6.3 Bydd y Pwyllgor yn trafod
adroddiadau drafft ar y ddwy gyllideb yn ystod y cyfarfodydd dilynol.
Cyfarfod: 18/07/2013 - Comisiwn y Senedd (Eitem 2)
Cyllideb Ddrafft 2014-15
papur 2 ac atodiadau
Cofnodion:
Bydd cyllideb y Comisiwn ar
gyfer 2014-15 yn cael ei gosod i’w hystyried gan y Cynulliad erbyn 1 Hydref fan
bellaf. Yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 16 Mai, cytunodd y Comisiynwyr y dylai'r
gyllideb fod yn seiliedig ar y swm £50.598 miliwn, a bennwyd yn y dogfennau
cyllideb a gafodd eu cymeradwyo ar gyfer y ddwy flynedd gynt ac y bu Pwyllgor
Cyllid y Cynulliad yn craffu arnynt ym mis Hydref 2011 a 2012.
2014-15 fydd blwyddyn olaf
cynllun buddsoddi tair blynedd y Comisiwn ar gyfer y gyllideb. Roedd y
Comisiynwyr yn falch gyda'r cynnydd a wnaed ar ddogfen y gyllideb ac yn hapus
gyda'r cyflwyniad. Gwnaed rhai awgrymiadau am yr wybodaeth gyllideb fanwl yn
Atodiad 1. Gofynnodd Mair Barnes am fwy o eglurder ynghylch lefel costau TGCh
yn 2014-15 a thu hwnt.
Roedd nodyn briffio wedi'i
baratoi i hysbysu trafodaethau'r Comisiynwyr gyda grwpiau plaid. Byddai Angela Burns a Nicola Callow ar gael i
drafod y gyllideb gyda grwpiau ac Aelodau unigol.
Penderfynir ar y gyllideb
derfynol yng nghyfarfod nesaf y Comisiwn ym mis Medi, cyn ei gosod. Cytunodd y Comisiynwyr na fyddai'r papurau yn
cael eu cyhoeddi.
Cam i’w gymryd: Swyddogion i baratoi’r gyllideb
derfynol i adlewyrchu barn y Comisiynwyr yn unol â thrafodaethau i’w hystyried
yng nghyfarfod y Comisiwn ym mis Medi.
Cyfarfod: 16/05/2013 - Comisiwn y Senedd (Eitem 2)
Strategaeth Cyllideb y Comisiwn 2014-15
papur 2
Cofnodion:
Bydd
cyllideb y Comisiwn ar gyfer 2014-15 yn cael ei chyhoeddi ym mis Medi i’w
hystyried gan y Cynulliad. Cytunodd y Comisiynwyr i’r gyllideb gael ei pharatoi
yn unol â’r egwyddorion a nodwyd yn y dogfennau cyllideb a gymeradwywyd yn y
ddwy flynedd ddiwethaf. Craffodd Pwyllgor Cyllid y Cynulliad ar y rhain ym mis
Hydref 2011 a 2012. Bydd y gyllideb yn seiliedig ar y swm o £50.598 miliwn a
nodwyd yn flaenorol.
Cam i’w gymryd: Swyddogion i baratoi’r gyllideb yn unol â thrafodaethau i’w hystyried yng nghyfarfod y Comisiwn ar 18 Gorffennaf.