Cyfarfodydd

P-04-511 Cefnogi’r safonau cyfranogaeth plant a phobl Ifanc

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 19/01/2016 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-511 Cefnogi’r safonau cyfranogaeth plant a phobl ifanc

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb gan y Gweinidog Cymunedau a Threchu Glodi a gan Blant yng Nghymru a chytunwyd i:

·         Gau'r ddeiseb; ac

·         Wrth wneud hynny, gofyn i Plant yng Nghymru ymateb i sylwadau diweddaraf y deisebwyr.

 


Cyfarfod: 20/10/2015 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-511 Cefnogi’r safonau cyfranogaeth plant a phobl ifanc

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:

  • anfon yr ymatebion a gafwyd gan Plant yng Nghymru a Fforwm Ieuenctid Powys i'r Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi yn gofyn am ei barn ac yn gofyn a yw'n fodlon ar y cynnydd sy'n cael ei wneud; a
  • gofyn i Plant yng Nghymru ymateb i sylwadau'r deisebwyr.

 

 


Cyfarfod: 30/06/2015 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-511 Cefnogi’r safonau cyfranogaeth plant a phobl ifanc

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at Plant yng Nghymru i ofyn iddynt ymateb i bryderon penodol y deisebwyr, yn enwedig o ran lleoliad cyfarfodydd.

 

 


Cyfarfod: 28/04/2015 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-511 Cefnogi’r safonau cyfranogaeth plant a phobl ifanc

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i ysgrifennu at y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi ac at Blant yng Nghymru yn gofyn am eu barn ar y pwyntiau a godwyd gan y deisebwyr.

 


Cyfarfod: 09/12/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-511 Cefnogi’r safonau cyfranogaeth plant a phobl Ifanc

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ofyn am sylwadau pellach gan y deisebydd.

 

 


Cyfarfod: 07/10/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-511 Cefnogi’r safonau cyfranogaeth plant a phobl ifanc

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i: 

 

·         ofyn am farn Plant yng Nghymru ar beth maent yn bwriadu ei wneud i ddatblygu’r gwaith yn y maes hwn o dan y Grant Cyflawni Plant a Theuluoedd; a

·         gofyn i’r Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi pa gamau gweithredu sydd wedi’u cymryd o ran argymhellion o Adroddiad Terfynol yr Uned Gyfranogi.

 


Cyfarfod: 17/06/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-511 Cefnogi'r safonau cyfranogaeth plant a phobl ifanc

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i:

 

·         ofyn i'r Gweinidog am ei ymateb i'r ddau argymhelliad a wnaed gan y deisebwyr ynghylch cefnogi'r 'nod barcud'; a

·         gofyn i Achub y Plant ymateb i lythyr gwreiddiol y Pwyllgor.

 


Cyfarfod: 21/01/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-511 Cefnogi’r safonau cyfranogaeth plant a phobl Ifanc

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at:

 

·         y Gweinidog i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf, ac am ei farn am sylwadau pellach y deisebydd; ac

·         Achub y Plant i ofyn am eu barn ar y ddeiseb.

 


Cyfarfod: 11/11/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 P-04-511 Cefnogi’r safonau cyfranogaeth plant a phobl ifanc

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Addysg a Sgiliau i ofyn am ei farn am y ddeiseb.