Cyfarfodydd

Deddf Cyllid y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2014

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 03/12/2013 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 10.)

Cynnig Cyfnod 4 o dan Reol Sefydlog 26.47 i gymeradwyo’r Bil Cyllid y GIG (Cymru)

Ar ddiwedd Cyfnod 3, caiff y Gweinidog gynnig bod y Bil yn cael ei basio yn unol â Rheol Sefydlog 26.47.

Cynnig Cyfnod 4 o dan Reol Sefydlog 26.47 i gymeradwyo’r Bil Cyllid y GIG (Cymru)

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 18.13

Ar ddiwedd Cyfnod 3, caiff y Gweinidog gynnig bod y Bil yn cael ei basio yn unol â Rheol Sefydlog 26.47:

Cynnig Cyfnod 4 o dan Reol Sefydlog 26.47 i gymeradwyo’r Bil Cyllid y GIG (Cymru)

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cyfarfod: 03/12/2013 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 9.)

Dadl Cyfnod 3 o dan Reol Sefydlog 26.44 ar y Bil Cyllid y GIG (Cymru)

Yn unol â Rheol Sefydlog 26.36, mae’r gwelliannau i gael eu gwaredu yn y drefn y mae’r adrannau a’r atodlenni y maent yn cyfeirio atynt yn codi yn y Bil.

Mae’r gwelliannau wedi cael eu grwpio at ddibenion y ddadl a byddant yn cael eu trafod fel a ganlyn:

1. Trosolwg

1

2. Dyletswyddau ariannol Bryddau Iechyd Lleol

2

3. Dyletswyddau Cyllunio Byrddau Iechyd Lleol a Gweinidogion Cymru

3

4. Cyflwyno Adroddiadau

4, 4A, 5, 7, 8

Bydd y gwelliannau hyn cael eu gwaredu yn y drefn - 4A, 4, 5, 7

5. Pŵer i fenthyca

6

Dogfennau Ategol

Bil Cyllid y GIG (Cymru)

Memorandwm Esboniadol

Rhestr o Welliannau wedi’u Didoli
Grwpio Gwelliannau

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 17.29

Yn unol â Rheol Sefydlog 26.36, mae’r gwelliannau i gael eu gwaredu yn y drefn y mae’r adrannau a’r atodlenni y maent yn cyfeirio atynt yn codi yn y Bil.

Mae’r gwelliannau wedi cael eu grwpio at ddibenion y ddadl a byddant yn cael eu trafod fel a ganlyn:

1. Trosolwg

1

2. Dyletswyddau ariannol Bryddau Iechyd Lleol

2

3. Dyletswyddau Cyllunio Byrddau Iechyd Lleol a Gweinidogion Cymru

3

4. Cyflwyno Adroddiadau

4, 4A, 5, 7, 8

Bydd y gwelliannau hyn cael eu gwaredu yn y drefn - 4A, 4, 5, 7

5. Pŵer i fenthyca

6

Cynhaliwyd y bleidlais yn y drefn a nodir yn y Rhestr o Welliannau wedi’u Didoli.

Derbyniwyd gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd gwelliant 2 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd gwelliant 3 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4A:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

18

0

38

56

Gwrthodwyd gwelliant 4A.

Derbyniwyd gwelliant 4 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

28

0

29

57

Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

18

9

28

55

Gwrthodwyd gwelliant 6.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 7:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

27

0

28

55

Gwrthodwyd gwelliant 7.

Gan fod gwelliant 7 wedi’i wrthod, methodd gwelliant 8.

Barnwyd bod holl adrannau ac atodlenni’r Bil wedi’u derbyn, gan ddod â thrafodion Cyfnod 3 i ben.

Cyfarfod: 07/11/2013 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 Bil Cyllid y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru): Llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (29 Hydref 2013)

FIN(4)-19-13 (PTN1)

Dogfennau ategol:

Cyfarfod: 07/11/2013 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Bil Cyllid y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru): Cyfnod 2 - Trafod y gwelliannau

Yn unol â Rheol Sefydlog 26.21, bydd y Pwyllgor yn gwaredu gwelliannau i’r Bil yn y drefn a ganlyn:

Adrannau 1 – 3

Rhestr o welliannau wedi’u didoli:  7 Tachwedd 2013

Grwpio Gwelliannau: 7 Tachwedd 2013

Mark Drakeford AC, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Sally Hughes, Cyfreithiwr i Lywodraeth Cymru

Mark Osland, Dirprwy Gyfarwyddwr, Cyllid, yr Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Yn unol â Rheol Sefydlog 26.21, aeth y Pwyllgor ati i drafod a gwaredu’r gwelliannau i’r Bil yn y drefn a ganlyn:

Adrannau 1 – 3

Adran 1:

Ni chafodd gwelliannau eu cyflwyno i’r adran hon, felly bernir ei bod wedi’i derbyn.

Adran 2:

Tynnwyd gwelliant 8 (Mark Drakeford) yn ôl.

Gwelliant 3 (Paul Davies)

O blaid

Yn erbyn

Ymatal

Simon Thomas

Peter Black

Paul Davies

Jocelyn Davies

Christine Chapman

Julie Morgan

Mike Hedges

Ann Jones

4

4

0

Gan fod y bleidlais yn gyfartal, defnyddiodd y Cadeirydd ei phleidlais fwrw yn negyddol (yn unol â Rheol Sefydlog 6.20 (ii)), ac ni dderbyniwyd gwelliant 3.

Tynnwyd gwelliant 1 (Simon Thomas) yn ôl.

Gwelliant 2 (Simon Thomas)

O blaid

Yn erbyn

Ymatal

Simon Thomas

Peter Black

Paul Davies

Jocelyn Davies

Christine Chapman

Julie Morgan

Mike Hedges

Ann Jones

4

4

0

Gan fod y bleidlais yn gyfartal, defnyddiodd y Cadeirydd ei phleidlais fwrw yn negyddol (yn unol â Rheol Sefydlog 6.20 (ii)), ac ni dderbyniwyd gwelliant 2.

Tynnwyd gwelliant 10 (Simon Thomas) yn ôl.

Derbyniwyd gwelliant 9 (Mark Drakeford) yn unol â Rheol Sefydlog 17.34(i).

Adran 3:

Ni chafodd gwelliannau eu cyflwyno i’r adran hon, felly bernir ei bod wedi’i derbyn.

Adrannau newydd:

Gwelliant 4 (Paul Davies)

O blaid

Yn erbyn

Ymatal

Simon Thomas

Peter Black

Paul Davies

Jocelyn Davies

Christine Chapman

Julie Morgan

Mike Hedges

Ann Jones

4

4

0

Gan fod y bleidlais yn gyfartal, defnyddiodd y Cadeirydd ei phleidlais fwrw yn negyddol (yn unol â Rheol Sefydlog 6.20 (ii)), ac ni dderbyniwyd gwelliant 4.

Tynnwyd gwelliant 5 (Paul Davies) yn ôl.

Tynnwyd gwelliant 6 (Paul Davies) yn ôl.

Methodd gwelliant 7 (Paul Davies).

2.2 Cyhoeddodd y Cadeirydd fod y Pwyllgor wedi derbyn pob adran o’r Bil, a chan y gwaredwyd pob gwelliant, bydd Cyfnod 3 yn dechrau ar 8 Tachwedd 2013.

Cyfarfod: 23/10/2013 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Bil Cyllid y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru)

FIN(4)-18-13 Papur 1

FIN(4)-18-13 Papur 2

FIN(4)-18-13 Papur 3

Mark Drakeford AC, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Sally Hughes, Cyfriethiwr i Lywodraeth Cymru

Mark Osland, Dirprwy Gyfarwyddwr, Cyllid, yr Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 The Committee received a briefing from Mark Drakeford AM, Minister for Health and Social Services on the National Health Service Finance (Wales) Bill.

Cyfarfod: 23/10/2013 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 7)

Bil Cyllid y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru): Trefn Ystyried Cyfnod 2

Cofnodion:

7.1 Members agreed that the Committee considers the amendments as per the default order of consideration.

Cyfarfod: 08/10/2013 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 9.)

Cynnig i gymeradwyo'r Penderfyniad Ariannol ynghylch Bil Cyllid y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru)

NDM5319 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o Fil Cyllid y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o’r math y cyfeirwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69, sy’n codi o ganlyniad i’r Bil.

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 18.36

NDM5319 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o Fil Cyllid y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o’r math y cyfeirwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69, sy’n codi o ganlyniad i’r Bil.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cyfarfod: 08/10/2013 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 8.)

Dadl ar Egwyddorion Cyffredinol Bil Cyllid y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru)

NDM5318 Mark Drakeford (Gorllewin Caerdydd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:

Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol Bil Cyllid y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru).

Gosodwyd Bil Cyllid y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) a'r Memorandwm Esboniadol gerbron y Cynulliad ar 30 Medi 2013.

Dogfennau Ategol
Bil Cyllid y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru)
Memorandwm Esboniadol

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 17.53