Cyfarfodydd
Trefniadau Cyflenwi ar gyfer Absenoldeb Athrawon
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 07/07/2015 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)
3 Trefniadau Cyflenwi ar gyfer Absenoldeb Athrawon: Llythyr gan Owen Evans, Cyfarwyddwr Cyffredinol yr Adran Addysg a Sgiliau (29 Mehefin 2015)
Dogfennau ategol:
- PAC(4)-20-15 PTN1 - Llythyr gan Owen Evans Trefniadau Cyflenwi ar gyfer Absenoldeb (29 Mehefin 2015)(Saesneg yn unig), Eitem 3 PDF 173 KB Gweld fel HTML (3/1) 14 KB
Cyfarfod: 23/06/2015 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)
2 Trefniadau cyflenwi ar gyfer absenoldeb athrawon: Llythyr gan Ann Jones AC, Cadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg (4 Mehefin 2015)
Dogfennau ategol:
- PAC(4)-18-15 PTN1 - Llythyr gan Ann Jones AC, (4 Mehefin 2015) (Saesneg yn unig), Eitem 2 PDF 213 KB
Cyfarfod: 19/05/2015 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 7)
7 Trefniadau Cyflenwi ar gyfer Absenoldeb Athrawon:
Nodyn Cyngor Cyfreithiol
PAC(4)-14-15 papur 4
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 11 , Gweld rhesymau dros gyfyngu (7/1)
- Cyfyngedig 12 , Gweld rhesymau dros gyfyngu (7/2)
Cofnodion:
7.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y llythyr drafft yn amodol ar newid ar ddiwedd
paragraff 2.
Cyfarfod: 12/05/2015 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)
2 Trefniadau cyflenwi ar gyfer absenoldeb athrawon: Llythyr gan Archwilydd Cyffredinol Cymru ynglŷn â threfniadau cyflenwi ar gyfer absenoldeb athrawon (30 Ebrill 2015)
Dogfennau ategol:
Cyfarfod: 05/05/2015 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)
3 Trefniadau cyflenwi ar gyfer absenoldeb athrawon: Trafod y wybodaeth ddiweddaraf gan Lywodraeth Cymru
PAC(4)-12-15 Papur 1
Dogfennau ategol:
Cofnodion:
3.1 Bu’r
Aelodau yn trafod y wybodaeth ddiweddaraf gan Lywodraeth Cymru, ac yn benodol, Argymhelliad
3, lle’r oedd y Pwyllgor yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn diwygio’r
Rheoliadau i’w gwneud yn ofynnol bod o leiaf un aelod o bob corff llywodraethu
yn cael ei ddynodi i arwain ar faterion adnoddau dynol, a bod pob aelod o’r
fath wedi’i hyfforddi’n briodol i gyflawni’r rôl hon.
3.2
Cytunodd Cynghorydd Cyfreithiol y Pwyllgor i baratoi Nodyn Cyngor Cyfreithiol
ar y Rheoliadau ar gyfer ei drafod ymhellach gan y Pwyllgor.
3.3 Ar ôl
cael y Nodyn Cyngor Cyfreithiol, cytunodd y Cadeirydd y byddai’n ysgrifennu at
Lywodraeth Cymru yn nodi’n glir beth yr oedd y Pwyllgor yn gobeithio y byddai
Argymhelliad 3 yn ei gyflawni, ac yn gofyn am roi rhagor o ystyriaeth i’r
mater.
3.4
Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor Addysg Plant, Pobl Ifanc
i godi materion sydd o ddiddordeb fel rhan o’i ymchwiliad i drefniadau cyflenwi
ar gyfer absenoldeb athrawon.
Cyfarfod: 21/04/2015 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)
2 Trefniadau cyflenwi ar gyfer absenoldeb athrawon: Llythyr gan y Cyfarwyddwr Addysg a Sgiliau (13 Ebrill 2015)
Dogfennau ategol:
Cyfarfod: 10/03/2015 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)
2 Trefniadau Cyflenwi ar gyfer Absenoldeb: Llythyr gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau (25 Chwefror 2015)
Dogfennau ategol:
Cyfarfod: 16/09/2014 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)
2 Trefniadau cyflenwi ar gyfer absenoldeb athrawon: Llythyr gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau (20 Awst 2014)
Dogfennau ategol:
Cyfarfod: 15/07/2014 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)
4 Trefniadau cyflenwi ar gyfer absenoldeb athrawon: Trafod yr ymateb gan Lywodraeth Cymru
PAC(4)-21-14 (papur 1)
PAC(4)-21-14 (papur 2)
Dogfennau ategol:
Cofnodion:
4.1 Nododd y Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru. Cytunwyd y bydd y
Cadeirydd yn ateb y Gweinidog ar Argymhellion
1, 3 a 13. Bydd y Pwyllgor yn trafod y mater eto yn 2015 ar ôl cael y wybodaeth
ddiweddaraf gan Lywodraeth Cymru.
Cyfarfod: 06/05/2014 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 7)
Trefniadau cyflenwi ar gyfer absenoldeb athrawon: Trafod yr adroddiad drafft
PAC(4)-12-14 (papur 3)
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 40 , Gweld rhesymau dros gyfyngu (7/1)
Cofnodion:
7.1 Yn amodol ar un newid bach, cytunodd yr Aelodau yr adroddiad drafft.
Cyfarfod: 29/04/2014 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 8)
Trefniadau cyflenwi ar gyfer absenoldeb athrawon: Trafod yr adroddiad drafft
PAC(4)-11-14 (papur 5)
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 43 , Gweld rhesymau dros gyfyngu (8/1)
Cofnodion:
8.1 Oherwydd cyfyngiadau amser, trafododd yr Aelodau ran o'r adroddiad
drafft a byddant yn dychwelyd at yr eitem hon mewn cyfarfod yn y dyfodol.
Cyfarfod: 03/04/2014 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 10)
Trefniadau cyflenwi ar gyfer absenoldeb athrawon: Trafod yr adroddiad drafft
PAC(4)-10-14(papur 10)
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 46 , Gweld rhesymau dros gyfyngu (10/1)
Cofnodion:
10.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft ac awgrymodd nifer o
argymhellion. Bydd yr Aelodau'n ail-drafod drafft pellach yn y cyfarfod nesaf.
Cyfarfod: 25/03/2014 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)
2 Trefniadau cyflenwi ar gyfer absenoldeb athrawon: Llythyr gan Archwilydd Cyffredinol Cymru at Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
Dogfennau ategol:
Cyfarfod: 25/03/2014 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)
2 Trefniadau cyflenwi ar gyfer absenoldeb athrawon: Llythyr gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru at Archwilydd Cyffredinol Cymru (10 Mawrth 2014)
Dogfennau ategol:
Cyfarfod: 18/03/2014 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)
2 Trefniadau Cyflenwi ar gyfer Absenoldeb Athrawon: Llythyr gan Owen Evans (28 Chwefror 2014)
Dogfennau ategol:
Cyfarfod: 18/02/2014 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)
5 Trefniadau Cyflenwi ar gyfer Absenoldeb Athrawon: Trafod tystiolaeth ychwanegol
PAC(4)-06-14 (papur 2)
PAC(4)-06-14 (papur 3)
Dogfennau ategol:
Cofnodion:
5.1 Nododd yr
Aelodau y dystiolaeth ychwanegol. Cytunwyd y byddai'r Cadeirydd yn ysgrifennu
at Lywodraeth Cymru i ofyn am eglurder ynghylch nifer o faterion a bydd y
clercod yn llunio adroddiad drafft.
Cyfarfod: 21/01/2014 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)
Trefniadau Cyflenwi yn Absenoldeb Athrawon: Trafod y dystiolaeth a gafwyd
Cofnodion:
4.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd a chytunodd i ystyried y
dystiolaeth bellach y gofynnwyd amdani gan Lywodraeth Cymru a phenderfynu wedyn
ynghylch a oes angen gwneud gwaith pellach cyn bod modd paratoi'r adroddiad.
Cyfarfod: 21/01/2014 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)
2 Trefniadau Cyflenwi yn Absenoldeb Athrawon: Tystiolaeth gan Lywodraeth Cymru
PAC(4)-02-14 (papur 1)
PAC(4)-02-14 (papur 2)
PAC(4)-02-14 (papur 3)
Owen Evans – Cyfarwyddwr
Cyffredinol, yr Adran Addysg a Sgiliau, Llywodraeth Cymru
Dr Bret Pugh - Cyfarwyddwr y
Grŵp Safonau a Gweithlu Ysgolion
Phil Jones - Dirprwy
Cyfarwyddwr yr Is-adran Safonau Ymarferwyr a Datblygu Proffesiynol
Dogfennau ategol:
- PAC(4)-02-14 (paper 1), Eitem 2 PDF 380 KB Gweld fel HTML (2/1) 84 KB
- PAC(4)-02-14 (paper 2), Eitem 2 PDF 345 KB
- PAC(4)-02-14 (paper 3) (Saesneg yn unig), Eitem 2 PDF 69 KB
Cofnodion:
2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan: Owen Evans,
Cyfarwyddwr Cyffredinol, Addysg a Sgiliau, Llywodraeth Cymru; Dr Bret Pugh,
Cyfarwyddwr Grŵp, y Grŵp Safonau Ysgolion a'r Gweithlu a Phil Jones,
Dirprwy Gyfarwyddwr, Safonau Ymarferwyr a Datblygiad Proffesiynol o ran
Cyflenwi yn Absenoldeb Athrawon.
2.2 Cytunodd Owen Evans i ddarparu nodyn i'r Pwyllgor ar nifer o faterion
a godwyd yn ystod y sesiwn.
Cyfarfod: 15/10/2013 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)
Trefniadau cyflenwi ar gyfer absenoldeb athrawon: Aelodau i drafod y materion a godwyd gan adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru
Cofnodion:
5.1
Cytunodd y Pwyllgor i gynnal ymchwiliad byr i'r ‘Trefniadau Cyflenwi ar gyfer
Absenoldeb Athrawon’.
Cyfarfod: 15/10/2013 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)
Trefniadau cyflenwi ar gyfer absenoldeb athrawon: sesiwn friffio gan Swyddfa Archwilio Cymru
Huw Vaughan Thomas – Archwilydd Cyffredinol Cymru
Stephen Martin - Rheolwr Archwilio Perfformiad, Swyddfa Archwilio
Cymru
Meilyr Rowlands
- Cyfarwyddwr
Strategol, Estyn
Cofnodion:
2.1 Cafodd
y Pwyllgor sesiwn friffio gyda Huw Vaughan Thomas, Archwilydd Cyffredinol
Cymru, ar adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru, ‘Trefniadau Cyflenwi ar gyfer
Absenoldeb Athrawon’. Roedd Stephen Martin o Swyddfa Archwilio Cymru a Meilyr
Rowlands o Estyn yno gyda'r Archwilydd Cyffredinol. Yn ystod y sesiwn friffio,
cafodd aelodau'r Pwyllgor gyfle i ofyn cwestiynau.