Cyfarfodydd
Gofal heb ei drefnu - bod yn barod ar gyfer gaeaf 2013/14
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 03/04/2014 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)
Ystyriaeth o’r dystiolaeth a roddwyd yn y sesiwn ar ofal heb ei drefnu
Cyfarfod: 03/04/2014 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)
2 Gofal heb ei drefnu - bod yn barod ar gyfer gaeaf 2013/14: Craffu ar waith y Gweinidog - sesiwn ddilynol
Mark Drakeford AC, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau
Cymdeithasol
Gwenda Thomas AC, Y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau
Cymdeithasol
Albert Heaney, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol a
Integreiddiad
Dr Ruth Hussey, Prif Swyddog Meddygol
Dr Grant Robinson, Arweinydd Clinigol Gofal heb ei Drefnu
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 5 , Gweld rhesymau dros gyfyngu (2/1)
- HSC(4)-11-14 Papur 1 (Saesneg yn unig), Eitem 2 PDF 290 KB
- HSC(4)-11-14 Papur 2 (Saesneg yn unig), Eitem 2 PDF 275 KB
- HSC(4)-11-14 Papur 2a, Eitem 2 PDF 175 KB
Cofnodion:
2.1 Bu’r Pwyllgor yn craffu ar
waith y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Dirprwy Weinidog
Gwasanaethau Cymdeithasol ar ofal heb ei drefnu - bod yn barod ar gyfer gaeaf
2013/14.
2.2 Yn ystod y cyfarfod cytunwyd
ar y pwyntiau canlynol:
- Cytunodd y
Prif Swyddog Meddygol i ddarparu rhagor o fanylion ynghylch nifer y
wardiau a gaewyd yn ystod gaeaf 2013/14 yn sgil achosion o’r norofeirws.
- Cytunodd y
Gweinidog i ddarparu’r wybodaeth ddiweddaraf am wasanaethau parafeddygol
yng Nghymru, gan gynnwys: canran y parafeddygon sydd wedi dod yn
uwch-barafeddygon yn ystod y blynyddoedd diweddar, cadarnhad ynglŷn â
faint o uwch-barafeddygon sy’n ymarfer yng Nghymru; a rhagor o fanylion am
eu cynlluniau hyfforddi presennol ac yn y dyfodol.
- Cadarnhaodd y
Dirprwy Weinidog y caiff manylion am gyllid a ddyrannwyd o dan y Gronfa
Gofal Canolraddol - a phob cynllun perthnasol - eu cyhoeddi ar lefel
ranbarthol a’u rhannu â’r Pwyllgor. Ar ben hynny, nododd y Dirprwy
Weinidog y caiff gwersi a ddysgwyd ar draws y sectorau perthnasol yn sgil
y broses hon eu cyhoeddi.
- Cytunodd y
Dirprwy Weinidog i rannu’r datganiadau o fwriad a gyhoeddwyd gan Fyrddau
Iechyd Lleol, Awdurdodau Lleol a phartneriaid perthnasol eraill yn unol â
fframwaith Llywodraeth Cymru ar ddarparu iechyd a gofal cymdeithasol
integredig unwaith y byddant yn barod.
Cyfarfod: 11/12/2013 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)
Gofal heb ei drefnu: bod yn barod ar gyfer gaeaf 2013/14 - Trafod y llythyr drafft at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 11
Cofnodion:
5.1 Trafododd
y Pwyllgor y llythyr drafft at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
a'r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol ar yr ymchwiliad i ofal heb ei
drefnu - bod yn barod ar gyfer gaeaf 2013/14, a derbyniwyd y llythyr hwnnw.
Cyfarfod: 21/11/2013 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)
3 Llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol - cynlluniau gofal heb ei drefnu a chynlluniau gaeaf ffurfiol
Dogfennau ategol:
Cofnodion:
3c.1 Nododd y Pwyllgor y
llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol mewn perthynas â
chynlluniau gofal heb ei drefnu a chynlluniau gaeaf ffurfiol.
Cyfarfod: 21/11/2013 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 7)
Trafod y materion allweddol sy’n codi yn sgîl sesiwn graffu’r Pwyllgor ar ofal heb ei drefnu - bod yn barod ar gyfer gaeaf 2013/14
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 18
Cofnodion:
7.1 Trafododd y Pwyllgor y
materion allweddol sy’n codi o’r sesiwn graffu ar ofal heb ei drefnu - bod yn
barod ar gyfer gaeaf 2013/14, a chytunodd i ysgrifennu’n fuan at y Gweinidog
Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol gan amlinellu ei gasgliadau.
Cyfarfod: 07/11/2013 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)
5 Llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: gwybodaeth ddilynol yn dilyn y cyfarfod ar 9 Hydref ynghylch gofal heb ei drefnu - bod yn barod ar gyfer gaeaf 2013/14
Dogfennau ategol:
Cofnodion:
10.2 Nododd
y Pwyllgor y llythyr.
Cyfarfod: 09/10/2013 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)
5 Gofal heb ei drefnu - bod yn barod ar gyfer gaeaf 2013/14
Sesiwn i
graffu ar waith y Gweinidog
· Mark Drakeford AC, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
· Gwenda Thomas AC, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol
· Albert Heaney, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol
· Kevin Flynn, Cyfarwyddwr Cyflenwi a Brif Weithredwr GIG Cymru
· Dr Grant Robinson, Arweinydd Clinigol ar gyfer Gofal heb ei Drefnu
Dogfennau ategol:
- RS132170 HSC Unscheduled care briefing
- HSC(4)-28-13 Papur 2, Eitem 5 PDF 832 KB
Cofnodion:
5.1 Atebodd y Gweinidog Iechyd
a Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, a'u
swyddogion, gwestiynau'r Pwyllgor.
5.2 Cytunodd y Gweinidog i:
- ddarparu eglurhad o'r trefniadau i ddarparu
brechiadau ffliw i blant drwy feddygon teulu neu'r ysgol, a'r oedrannau
perthnasol pan roddir brechiadau o'r fath;
- darparu linc i'r adroddiad blynyddol ynghylch
perfformiad meddygon teulu yn erbyn y Fframwaith Canlyniadau Ansawdd
perthnasol;
- darparu rhagor o wybodaeth am y polisi o gynnig
triniaeth ddewisol y tu allan i GIG Cymru os nad oes gan y gwasanaeth y
gallu i ddarparu oherwydd pwysau yn gysylltiedig â'r gaeaf; ac
- ystyried gwneud darn o waith i asesu'r effaith a
gaiff achosion o oedi yng nghyswllt gofal dewisol ar ofal yng Nghymru heb
ei drefnu.
5.3 Nododd y Dirprwy Weinidog
y byddai'n darparu manylion i'r Pwyllgor ynghylch y prosiectau gofal integredig
sy'n mynd rhagddynt yng Nghymru.
5.4 Cytunodd y Pwyllgor i
ysgrifennu at y Gweinidog i:
·
nodi y bydd yn dychwelyd
at y pwnc hwn yn ystod gwanwyn/haf 2014 er mwyn:
(i)
adolygu'r cynnydd yn
ystod gaeaf 2013/14;
(ii)
ystyried canfyddiadau’r
ymchwiliad y bydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn ymgymryd ag ef yn fuan
ynghylch gofal heb ei drefnu a rôl gofal sylfaenol lleol; ac
(iii)
ystyried a oes angen
cynnal ymchwiliad ehangach ynghylch gofal heb ei drefnu yn sgîl pwyntiau (i) a
(ii).
·
gofyn am ragor o
wybodaeth ynghylch y modd yr ystyrir sicrhau bod capasiti yn y system iechyd a
gofal cymdeithasol, ac nid ysbytai yn unig, mewn cyfnodau o alw mawr dros
gyfnod y gaeaf; a
·
gofyn am ragor o
wybodaeth am y sail resymegol a fydd yn cael ei mabwysiadu i ddosbarthu'r £150
miliwn ychwanegol a ddyrannwyd i'r portffolio iechyd a gwasanaethau
cymdeithasol ar gyfer blwyddyn ariannol 2013-14.
Cyfarfod: 09/10/2013 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)
Gofal heb ei drefnu - sesiwn friffio ar waith y grwp cynghori gweinidogol
Y Farwnes Finlay o Landaf
Veronica Snow
Cofnodion:
4.1 Bu'r Pwyllgor yn trafod
gwaith y grŵp cynghori gweinidogol ar ofal heb ei drefnu â'r Farwnes Finlay o
Landaf a Veronica Snow o Fwrdd Iechyd Addysgu Powys.