Cyfarfodydd

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol - Y Bil Dŵr

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 10/12/2013 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5.)

Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol mewn perthynas â’r Bil Dŵr

NDM5303 Alun Davies (Blaenau Gwent)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno mai Senedd y DU ddylai ystyried darpariaethau'r Bil Dŵr fel y'i cyflwynwyd yn Nhŷ'r Cyffredin ar 27 Mehefin 2013, i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Mae Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol wedi’i osod yn y Swyddfa Gyflwyno ar 18 Medi 2013 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(i).

I weld copi o’r Bil ewch i:

Bill documents – Water Bill [HC] 2013-14 – UK Parliament

 

Dogfen Ategol

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol

Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd: Adroddiad ar y Bil Dŵr

 

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 16.01

NDM5303 Alun Davies (Blaenau Gwent)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno mai Senedd y DU ddylai ystyried darpariaethau'r Bil Dŵr fel y'i cyflwynwyd yn Nhŷ'r Cyffredin ar 27 Mehefin 2013, i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Mae Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol wedi’i osod yn y Swyddfa Gyflwyno ar 18 Medi 2013 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(i).

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.


Cyfarfod: 04/12/2013 - Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6)

6 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol - Y Bil Dŵr

Dogfennau ategol:

  • Adroddiad drafft (Saesneg yn uing)

Cofnodion:

6.1 Cytunodd y Pwyllgor ar yr adroddiad drafft.

 


Cyfarfod: 20/11/2013 - Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

5 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol - Y Bil Dŵr

Dogfennau ategol:

  • Papur gan y Gwasanaethau Cyfreithiol a'r Gwasanaeth Ymchwil (Saesneg yn unig)

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ynghylch y Bil Dŵr.