Cyfarfodydd
Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Gofal Iechyd Parhaus y GIG
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 15/09/2015 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)
2 Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Gofal Iechyd Parhaus y GIG: Llythyr gan Lywodraeth Cymru (21 Gorffennaf 2015)
Dogfennau ategol:
Cyfarfod: 09/06/2015 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)
5 Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Gofal Iechyd Parhaus y GIG: Trafod ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor
PAC(4)-16-15 Papur 3
PAC(4)-16-15 Papur 4
Dogfennau ategol:
- PAC(4)-16-15 p3 - Ymateb Llywodraeth Cymru ar ddiweddariad Gofal Iechyd Parhaus 2015, Eitem 5 PDF 291 KB
- PAC(4)-16-15 p4 - Sylwadau Archwilydd Cyffredinol Cymru ar ymateb Llywodraeth Cymru, Eitem 5 PDF 290 KB
Cofnodion:
5.1 Nododd
yr Aelodau ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor, a'r sylwadau a
wnaed gan yr Archwilydd Cyffredinol.
5.2
Cytunodd yr Aelodau y byddai'r Cadeirydd yn ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i
ofyn am eglurder ynghylch argymhellion 1, 3, 7 ac 8.
Cyfarfod: 21/04/2015 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)
2 Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Gofal Iechyd Parhaus y GIG: Llythyr gan Brif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (16 Mawrth 2015)
Dogfennau ategol:
Cyfarfod: 10/03/2015 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)
5 Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Gofal Iechyd Parhaus y GIG: Ystyried yr Adroddiad Drafft
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 16 , Gweld rhesymau dros gyfyngu (5/1)
Cofnodion:
5.1 Ystyriodd y Pwyllgor yr adroddiad drafft ar Ofal
Iechyd Parhaus y GIG, a chytunodd ar nifer fach o newidiadau.
Cyfarfod: 03/03/2015 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)
2 Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Gofal Iechyd: Llythyr gan y Dr Andrew Goodal, Llywodraeth Cymru (13 Chwefror 2015)
Dogfennau ategol:
Cyfarfod: 03/02/2015 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)
5 Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Gofal Iechyd Parhaus y GIG: Sesiwn dystiolaeth 1
Dr Andrew Goodall - Cyfarwyddwr Cyffredinol, Iechyd a Gwasanaethau
Cymdeithasol, Llywodraeth Cymru a Phrif Weithredwr GIG Cymru
Albert Heaney - Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol ac Integreiddio,
Llywodraeth Cymru
Lisa Dunsford - Dirprwy Gyfarwyddwr, Is-adran Integreiddio, Polisi a
Chyflawni, Llywodraeth Cymru
PAC (4)-04-15 Papur 3 – Llythyr gan Dr Goodall ar Ofal Iechyd Parhaus
Dogfennau ategol:
- PAC(4)-04-15 Papur 3 – Llythyr gan Dr Goodall ar Ofal Iechyd Parhaus (Saesneg yn Unig), Eitem 5 PDF 270 KB Gweld fel HTML (5/1) 28 KB
Cofnodion:
5.1 Clywodd
y Pwyllgor dystiolaeth gan Dr Andrew Goodall, Cyfarwyddwr Cyffredinol
Llywodraeth Cymru ar gyfer Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Phrif
Weithredwr GIG Cymru, Albert Heaney, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol ac
Integreiddio, a Lisa Dunsford, Dirprwy Gyfarwyddwr yr Is-adran Integreiddio,
Polisi a Chyflawni.
5.2
Cytunodd swyddogion Llywodraeth Cymru i ddarparu’r wybodaeth a ganlyn:
·
egluro pa
gyfran o'r 20 o achosion gan ddau fwrdd iechyd yn sampl yr archwiliad oedd yn
ymwneud ag anabledd dysgu neu ddementia a rhannu canlyniadau'r adolygiad o'r
achosion hynny;
·
cadarnhau
pa fwrdd iechyd dynnodd yn ôl o'r gwaith o brofi'r Offeryn Gwneud
Penderfyniadau;
·
darparu
nodyn ar yr anawsterau y mae Betsi Cadwaladr wedi'u hwynebu yn recriwtio i
rolau proffesiynol a chadarnhau a ydynt bellach yn gweithredu'n llawn; a
·
darparu
nodyn am faint y tendr o fewn pob bwrdd iechyd mewn perthynas â'r gwasanaethau
eiriolaeth ar gyfer gofal iechyd parhaus.
Cyfarfod: 03/02/2015 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)
4 Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Gofal Iechyd Parhaus y GIG: Sesiwn friffio gan Swyddfa Archwilio Cymru
PAC(4)-04-15 Papur 1 – Gofal Iechyd Parhaus y GIG – Adroddiad Dilynol
PAC (2)-04-15 Papur 2 – Sesiwn Briffio Swyddfa Archwilio Cymru
Dogfennau ategol:
- PAC(4)-04-15 Papur 1 – Gofal Iechyd Parhaus y GIG – Adroddiad Dilynol, Eitem 4 PDF 1 MB
- PAC(4)-04-15 Papur 2 – Sesiwn Briffio Swyddfa Archwilio Cymru , Gweld rhesymau dros gyfyngu (4/2)
Cofnodion:
4.1
Rhoddodd Swyddfa Archwilio Cymru wybod i'r Pwyllgor am ei hadroddiad diweddar ar
Ofal Iechyd Parhaus y GIG - Adroddiad Dilynol.
Cyfarfod: 29/04/2014 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)
3 Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Gofal Iechyd Parhaus y GIG: Trafod rhagor o wybodaeth gan Lywodraeth Cymru
PAC(4)-11-14 (papur 1)
Dogfennau ategol:
Cofnodion:
3.1 Trafododd Aelodau'r ymateb gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau
Cymdeithasol a chytunwyd i ystyried y wybodaeth a geir ganddo ym mis Mehefin a
mis Medi. Bydd y Pwyllgor yn dychwelyd
at y mater hwn yn dilyn memorandwm Archwilydd Cyffredinol Cymru a gynlluniwyd
ar y cynnydd a wnaed o ran lleihau'r diffyg ariannol ar hawliadau ac ar lansiad
y fframwaith diwygiedig.
Cyfarfod: 06/03/2014 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)
3 Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Gofal Iechyd Parhaus y GIG: Trafod yr ymateb gan Lywodraeth Cymru
PAC(4)-07-14
(papur 1)
PAC(4)-07-14
(papur 2)
Dogfennau ategol:
Cofnodion:
3.1 Trafododd y Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor
ar Weithredu’r Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Gofal Iechyd Parhaus y GIG a'i
nodi.
3.2 Cytunodd y Pwyllgor y dylai'r Cadeirydd ysgrifennu at y Gweinidog
Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ofyn am eglurhad ar nifer o faterion.
3.3 Nododd y Pwyllgor fod Swyddfa Archwilio Cymru wedi cynnig paratoi
memorandwm ar y cynnydd a wnaed o ran lleihau'r diffyg ariannol ar gyfer
hawliadau ac ar lansiad y fframwaith diwygiedig yn yr hydref. Wedyn, bydd yn
ystyried cynnal diweddariad i'r ymchwiliad ai peidio.
Cyfarfod: 16/01/2014 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)
5 Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Gofal Iechyd Parhaus y GIG: Llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (13 Rhagfyr 2013)
Dogfennau ategol:
Cyfarfod: 19/11/2013 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 7)
Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Gofal Iechyd Parhaus y GIG: Cytuno ar yr adroddiad terfynol
PAC(4)-30-13 (p3)
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 45 , Gweld rhesymau dros gyfyngu (7/1)
Cofnodion:
7.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad. Awgrymwyd nifer o fân welliannau a chytunwyd y byddai drafft arall yn cael ei anfon ar gyfer cytuno arno y tu allan i'r pwyllgor.
Cyfarfod: 12/11/2013 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 8)
Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Gofal Iechyd Parhaus y GIG: Trafod yr adroddiad drafft
PAC(4)-29-13
papur 3
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 48 , Gweld rhesymau dros gyfyngu (8/1)
Cyfarfod: 05/11/2013 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)
4 Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Gofal Iechyd Parhaus y GIG: Llythyr gan David Sissling (22 Hydref 2013)
Dogfennau ategol:
Cyfarfod: 08/10/2013 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)
Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Gofal Iechyd Parhaus y GIG: Trafod y dystiolaeth
Cofnodion:
4.1
Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd ar y Fframwaith Cenedlaethol ar
gyfer Gofal Iechyd Parhaus y GIG a chytunodd i ystyried y wybodaeth ychwanegol
gan Lywodraeth Cymru pan fyddai'n dod i law ac i ysgrifennu adroddiad. Cytunwyd
hefyd i wahodd David Sissling yn ôl i'r Pwyllgor yn ystod tymor yr haf 2014 i
gael y wybodaeth ddiweddaraf am y fframwaith.
Cyfarfod: 08/10/2013 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)
2 Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Gofal Iechyd Parhaus y GIG: Tystiolaeth gan Lywodraeth Cymru
PAC(4)-26-13
(papur 1)
David Sissling - Cyfarwyddwr Cyffredinol, Iechyd a Gwasanaethau
Cymdeithasol/Prif Weithredwr, GIG Cymru
Albert Heaney - Cyfarwyddwr
Gwasanaethau Cymdeithasol
Alistair Davey -
Dirprwy Gyfarwyddwr Polisi a Strategaeth Gwasanaethau Cymdeithasol
Dogfennau ategol:
Cofnodion:
2.1 Holodd
y Pwyllgor David Sissling, Cyfarwyddwr Cyffredinol ar gyfer Iechyd a
Gwasanaethau Cymdeithasol/Prif Weithredwr GIG Cymru, Albert Heaney, Cyfarwyddwr
Gwasanaethau Cymdeithasol, ac Alistair Davey, Dirprwy Gyfarwyddwr Polisi a
Strategaeth Gwasanaethau Cymdeithasol ar y Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer
Gofal Iechyd Parhaus y GIG.
Camau i'w
cymryd
Cytunodd
Llywodraeth Cymru i ddarparu data cronnol yn nodi nifer y ceisiadau sy'n cael
eu prosesu, lefelau clirio a nifer yr heriau a wneir i ganlyniadau.
Cytunodd
Llywodraeth Cymru i ddarparu dadansoddiad manwl o'r achosion a gofnodwyd cyn
2010 ac ers hynny.
Cyfarfod: 25/06/2013 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6)
Ystyried yr opsiynau ar gyfer ymdrin ag adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru ar y Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Gofal Iechyd Parhaus y GIG
Cofnodion:
Cyfarfod: 25/06/2013 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)
3 Sesiwn Friffio gydag Archwilydd Cyffredinol Cymru am Adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru ‘Gweithredu’r Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Gofal Iechyd Parhaus y GIG’
Linc i ‘Gweithredu’r Fframwaith Cenedlaethol ar
gyfer Gofal Iechyd Parhaus y GIG’
Dogfennau ategol:
- Linc y Gweithredu’r Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Gofal Iechyd Parhaus y GIG, Eitem 3 PDF 25 KB Gweld fel HTML (3/1) 14 KB
Cofnodion:
3.1 Croesawodd y Cadeirydd Huw Vaughan Thomas, Archwilydd Cyffredinol Cymru; Paul Dimblebee, Cyfarwyddwr y Grŵp, Swyddfa Archwilio Cymru; a Steve Ashcroft, Rheolwr Archwilio Perfformiad, Swyddfa Archwilio Cymru.
3.2 Gwahoddodd y Cadeirydd Archwilydd Cyffredinol Cymru i roi briff i’r Pwyllgor ar ganfyddiadau ei adroddiad am weithredu fframwaith cenedlaethol ar gyfer gofal iechyd parhaus y GIG.