Cyfarfodydd

Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Gofal Iechyd Parhaus y GIG

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 15/09/2015 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Gofal Iechyd Parhaus y GIG: Llythyr gan Lywodraeth Cymru (21 Gorffennaf 2015)

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 09/06/2015 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

5 Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Gofal Iechyd Parhaus y GIG: Trafod ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor

PAC(4)-16-15 Papur 3

PAC(4)-16-15 Papur 4

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Nododd yr Aelodau ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor, a'r sylwadau a wnaed gan yr Archwilydd Cyffredinol.

5.2 Cytunodd yr Aelodau y byddai'r Cadeirydd yn ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i ofyn am eglurder ynghylch argymhellion 1, 3, 7 ac 8.

 

 


Cyfarfod: 21/04/2015 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Gofal Iechyd Parhaus y GIG: Llythyr gan Brif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (16 Mawrth 2015)

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 10/03/2015 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

5 Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Gofal Iechyd Parhaus y GIG: Ystyried yr Adroddiad Drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Ystyriodd y Pwyllgor yr adroddiad drafft ar Ofal Iechyd Parhaus y GIG, a chytunodd ar nifer fach o newidiadau.

 


Cyfarfod: 03/03/2015 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Gofal Iechyd: Llythyr gan y Dr Andrew Goodal, Llywodraeth Cymru (13 Chwefror 2015)

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 03/02/2015 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

5 Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Gofal Iechyd Parhaus y GIG: Sesiwn dystiolaeth 1

Dr Andrew Goodall - Cyfarwyddwr Cyffredinol, Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Llywodraeth Cymru a Phrif Weithredwr GIG Cymru

Albert Heaney - Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol ac Integreiddio, Llywodraeth Cymru

Lisa Dunsford - Dirprwy Gyfarwyddwr, Is-adran Integreiddio, Polisi a Chyflawni, Llywodraeth Cymru

 

PAC (4)-04-15 Papur 3 – Llythyr gan Dr Goodall ar Ofal Iechyd Parhaus

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Dr Andrew Goodall, Cyfarwyddwr Cyffredinol Llywodraeth Cymru ar gyfer Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Phrif Weithredwr GIG Cymru, Albert Heaney, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol ac Integreiddio, a Lisa Dunsford, Dirprwy Gyfarwyddwr yr Is-adran Integreiddio, Polisi a Chyflawni.

 

5.2 Cytunodd swyddogion Llywodraeth Cymru i ddarparu’r wybodaeth a ganlyn:

·         egluro pa gyfran o'r 20 o achosion gan ddau fwrdd iechyd yn sampl yr archwiliad oedd yn ymwneud ag anabledd dysgu neu ddementia a rhannu canlyniadau'r adolygiad o'r achosion hynny;

·         cadarnhau pa fwrdd iechyd dynnodd yn ôl o'r gwaith o brofi'r Offeryn Gwneud Penderfyniadau;

·         darparu nodyn ar yr anawsterau y mae Betsi Cadwaladr wedi'u hwynebu yn recriwtio i rolau proffesiynol a chadarnhau a ydynt bellach yn gweithredu'n llawn; a

·         darparu nodyn am faint y tendr o fewn pob bwrdd iechyd mewn perthynas â'r gwasanaethau eiriolaeth ar gyfer gofal iechyd parhaus.

 


Cyfarfod: 03/02/2015 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Gofal Iechyd Parhaus y GIG: Sesiwn friffio gan Swyddfa Archwilio Cymru

PAC(4)-04-15 Papur 1 – Gofal Iechyd Parhaus y GIG – Adroddiad Dilynol

PAC (2)-04-15 Papur 2 – Sesiwn Briffio Swyddfa Archwilio Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Rhoddodd Swyddfa Archwilio Cymru wybod i'r Pwyllgor am ei hadroddiad diweddar ar Ofal Iechyd Parhaus y GIG - Adroddiad Dilynol.

 


Cyfarfod: 29/04/2014 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Gofal Iechyd Parhaus y GIG: Trafod rhagor o wybodaeth gan Lywodraeth Cymru

PAC(4)-11-14 (papur 1)

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Trafododd Aelodau'r ymateb gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a chytunwyd i ystyried y wybodaeth a geir ganddo ym mis Mehefin a mis Medi.  Bydd y Pwyllgor yn dychwelyd at y mater hwn yn dilyn memorandwm Archwilydd Cyffredinol Cymru a gynlluniwyd ar y cynnydd a wnaed o ran lleihau'r diffyg ariannol ar hawliadau ac ar lansiad y fframwaith diwygiedig.

 


Cyfarfod: 06/03/2014 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Gofal Iechyd Parhaus y GIG: Trafod yr ymateb gan Lywodraeth Cymru

PAC(4)-07-14 (papur 1)

PAC(4)-07-14 (papur 2)

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Trafododd y Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor ar Weithredu’r Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Gofal Iechyd Parhaus y GIG a'i nodi.

 

3.2 Cytunodd y Pwyllgor y dylai'r Cadeirydd ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ofyn am eglurhad ar nifer o faterion.

 

3.3 Nododd y Pwyllgor fod Swyddfa Archwilio Cymru wedi cynnig paratoi memorandwm ar y cynnydd a wnaed o ran lleihau'r diffyg ariannol ar gyfer hawliadau ac ar lansiad y fframwaith diwygiedig yn yr hydref. Wedyn, bydd yn ystyried cynnal diweddariad i'r ymchwiliad ai peidio.

 

 


Cyfarfod: 16/01/2014 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

5 Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Gofal Iechyd Parhaus y GIG: Llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (13 Rhagfyr 2013)

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 19/11/2013 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 7)

Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Gofal Iechyd Parhaus y GIG: Cytuno ar yr adroddiad terfynol

PAC(4)-30-13 (p3)

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad. Awgrymwyd nifer o fân welliannau a chytunwyd y byddai drafft arall yn cael ei anfon ar gyfer cytuno arno y tu allan i'r pwyllgor.


Cyfarfod: 12/11/2013 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 8)

Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Gofal Iechyd Parhaus y GIG: Trafod yr adroddiad drafft

PAC(4)-29-13 papur 3

 

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 05/11/2013 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Gofal Iechyd Parhaus y GIG: Llythyr gan David Sissling (22 Hydref 2013)

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 08/10/2013 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Gofal Iechyd Parhaus y GIG: Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

4.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd ar y Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Gofal Iechyd Parhaus y GIG a chytunodd i ystyried y wybodaeth ychwanegol gan Lywodraeth Cymru pan fyddai'n dod i law ac i ysgrifennu adroddiad. Cytunwyd hefyd i wahodd David Sissling yn ôl i'r Pwyllgor yn ystod tymor yr haf 2014 i gael y wybodaeth ddiweddaraf am y fframwaith.

 


Cyfarfod: 08/10/2013 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Gofal Iechyd Parhaus y GIG: Tystiolaeth gan Lywodraeth Cymru

PAC(4)-26-13 (papur 1)

 

David Sissling - Cyfarwyddwr Cyffredinol, Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol/Prif Weithredwr, GIG Cymru

Albert Heaney - Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol   

Alistair Davey - Dirprwy Gyfarwyddwr Polisi a Strategaeth Gwasanaethau Cymdeithasol  

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Holodd y Pwyllgor David Sissling, Cyfarwyddwr Cyffredinol ar gyfer Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol/Prif Weithredwr GIG Cymru, Albert Heaney, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol, ac Alistair Davey, Dirprwy Gyfarwyddwr Polisi a Strategaeth Gwasanaethau Cymdeithasol ar y Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Gofal Iechyd Parhaus y GIG.

 

Camau i'w cymryd

 

Cytunodd Llywodraeth Cymru i ddarparu data cronnol yn nodi nifer y ceisiadau sy'n cael eu prosesu, lefelau clirio a nifer yr heriau a wneir i ganlyniadau.

 

Cytunodd Llywodraeth Cymru i ddarparu dadansoddiad manwl o'r achosion a gofnodwyd cyn 2010 ac ers hynny.

 


Cyfarfod: 25/06/2013 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6)

Ystyried yr opsiynau ar gyfer ymdrin ag adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru ar y Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Gofal Iechyd Parhaus y GIG

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor sut yr hoffai ymdrin â chanfyddiadau adroddiad yr archwilydd cyffredinol.

 

6.2 Cytunodd y Pwyllgor i gael tystiolaeth gan Lywodraeth Cymru mewn cyfarfod yn y dyfodol.


Cyfarfod: 25/06/2013 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 Sesiwn Friffio gydag Archwilydd Cyffredinol Cymru am Adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru ‘Gweithredu’r Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Gofal Iechyd Parhaus y GIG’

 

 

Linc i ‘Gweithredu’r Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Gofal Iechyd Parhaus y GIG’

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Croesawodd y Cadeirydd Huw Vaughan Thomas, Archwilydd Cyffredinol Cymru; Paul Dimblebee, Cyfarwyddwr y Grŵp, Swyddfa Archwilio Cymru; a Steve Ashcroft, Rheolwr Archwilio Perfformiad, Swyddfa Archwilio Cymru.

 

3.2 Gwahoddodd y Cadeirydd Archwilydd Cyffredinol Cymru i roi briff i’r Pwyllgor ar ganfyddiadau ei adroddiad am weithredu fframwaith cenedlaethol ar gyfer gofal iechyd parhaus y GIG.

 

3.3 Holodd y Pwyllgor Archwilydd Cyffredinol Cymru.