Cyfarfodydd
Cydsyniad Deddfwriaethol: y Bil Archwilio ac Atebolrwydd Lleol
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 12/11/2013 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 10.)
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol mewn perthynas â'r Bil Archwilio ac Atebolrwydd Lleol
NDM5259 Alun Davies (Blaenau Gwent)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol
Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Archwilio ac Atebolrwydd Lleol sy’n ymwneud â’r
trefniadau archwilio ar gyfer y Byrddau
Draenio Mewnol y mae eu hardaloedd yn
rhannol oddi fewn i Gymru,
i’r graddau y maent yn dod
o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Dogfennau
Ategol
Mae Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol wedi’i osod yn y Swyddfa
Gyflwyno ar 30 Mai 2013 yn unol â Rheol
Sefydlog 29.2(i).
I
weld copi o’r Bil, ewch i:
Bill documents — Local Audit and Accountability Bill [HL]
2013-14 — UK Parliament
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 17.23
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan
yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
NDM5259
Alun Davies (Blaenau Gwent)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog
29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Archwilio ac Atebolrwydd Lleol sy’n ymwneud â’r
trefniadau archwilio ar gyfer y Byrddau
Draenio Mewnol y mae eu hardaloedd yn
rhannol oddi fewn i Gymru, i’r
graddau y maent yn dod o fewn
cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
28 |
0 |
29 |
57 |
Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog
6.20, defnyddiodd y Dirprwy
Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y cynnig
wedi’i ddiwygio. Felly,
gwrthodwyd y cynnig.
Cyfarfod: 16/07/2013 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5.)
Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Archwilio ac Atebolrwydd Lleol - gohiriwyd
NDM5259 Alun Davies (Blaenau Gwent)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol
Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil
Archwilio ac Atebolrwydd Lleol sy’n ymwneud â’r trefniadau archwilio ar gyfer y
Byrddau Draenio Mewnol y mae eu hardaloedd yn rhannol oddi fewn i Gymru, i’r
graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol
Cymru.
Mae Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol wedi’i osod yn y
Swyddfa Gyflwyno ar 30 Mai 2013 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(i).
I weld copi o’r Bil ewch i:
Bill
documents — Local Audit and Accountability Bill [HL] 2013-14 — UK Parliament
Dogfennau
Ategol
Memorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol
Y
Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus: Adroddiad ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol
ar gyfer y Bil Archwilio ac Atebolrwydd Lleol
Cyfarfod: 09/07/2013 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 7)
Bil Archwilio ac Atebolrwydd Lleol: Ystyried y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 6 , Gweld rhesymau dros gyfyngu (7/1)
Cofnodion:
7.1 Ystyriodd y Pwyllgor ei
adroddiad drafft ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Archwilio ac
Atebolrwydd Lleol.
Cyfarfod: 18/06/2013 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 7)
Ystyried y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Archwilio ac Atebolrwydd Lleol
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 9 , Gweld rhesymau dros gyfyngu (7/1)
- Cyfyngedig 10
- Cyfyngedig 11
Cofnodion:
7.1 Ystyriodd y Pwyllgor y
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Archwilio ac Atebolrwydd Lleol.