Cyfarfodydd

P-04-480 Mynd i’r afael â Safon Tai Myfyrwyr yn y Sector Preifat

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 15/07/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-480 Mynd i'r afael â Safon Tai Myfyrwyr yn y Sector Preifat

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ystyried trefnu sesiwn dystiolaeth lafar gyda'r deisebydd, yn dibynnu ar yr ymateb gan y Gweinidog ynghylch P-04-529 Ombwdsmon Asiantaethau Gosod Tai ar gyfer Cymru.

 


Cyfarfod: 16/07/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 P-04-480 Mynd i'r afael â Safon Tai Myfyrwyr yn y Sector Preifat

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i;

·         Ysgrifennu at y rhanddeiliaid a ganlyn i gael eu barn am y mater:

o   Accreditation Network UK

o   Addysg Uwch Cymru

o   Association of Letting and Management Agents

o   Cartrefi Cymunedol Cymru

o   CLlLC / Cymdeithas y Cyfarwyddwyr Addysg

o   Cymdeithas Asiantaethau Gosod Preswyl

o   Cymdeithas Genedlaethol Landlordiaid

o   Cyngor ar Bopeth

o   Cyngor Ceredigion

o   Cynllun Achredu Landlordiaid

o   Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig

o   Sefydliad Siartredig Iechyd yr Amgylchedd

o   Shelter Cymru

o   Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr

o   Y Sefydliad Tai Siartredig; ac

o   ymgynghoriad ysgrifenedig llawn ar agor i’r cyhoedd, yn canolbwyntio ar ymgysylltu â myfyrwyr

·         ysgrifennu at y Gweinidog Tai ac Adfywio yn tynnu sylw at bryderon y deisebwyr, yn arbennig o ran yr amser a roddwyd i’r Bil Tai; a

·         threfnu sesiwn dystiolaeth lafar unwaith y bydd yr ymatebion wedi dod i law.

 


Cyfarfod: 14/05/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 P-04-480 Mynd i’r afael â Safon Tai Myfyrwyr yn y Sector Preifat

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Tai ac Adfywio i ofyn am ei farn ar y ddeiseb.

 

Nododd y Pwyllgor y posibilrwydd ei fod am edrych ar y mater yn fanylach ar ôl cael ymateb gan y Gweinidog.

 

Nododd y Cadeirydd a Russell George AC eu bod ill dau wedi cwrdd â'r deisebwyr am y mater.