Cyfarfodydd

Craffu ar waith y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 18/11/2015 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 Llythyr gan y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi yn dilyn y cyfarfod ar 22 Hydref

CYPE(4)-28-15 – Papur i'w nodi 4

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 14/10/2015 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

Craffu ar waith y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi mewn perthynas â'r adroddiad ar gydymffurfiaeth â'r ddyletswydd o dan adran 1 o Fesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011.

Llywodraeth Cymru

Lesley Griffiths AC, y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi;
Kate Cassidy, Cyfarwyddwr – Cymunedau a Threchu Tlodi;
Elin Gwynedd, Pennaeth Grymuso Plant a Phobl Ifanc

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn craffu ar waith y Gweinidog mewn perthynas â'r adroddiad cydymffurfio.


Cyfarfod: 14/10/2015 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Craffu ar waith y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi mewn perthynas â rôl Comisiynydd Plant Cymru

Papur briffio gan randdeiliad - Papur preifat 1

Papur briffio gan randdeiliad – Papur preifat 2

Llywodraeth Cymru

CYPE(4)-24-15 – Papur 3


Lesley Griffiths AC, y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi;
Kate Cassidy, Cyfarwyddwr – Cymunedau a Threchu Tlodi;
Elin Gwynedd, Pennaeth Grymuso Plant a Phobl Ifanc

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn craffu ar waith y Gweinidog mewn perthynas ag ymateb y llywodraeth i'r adolygiad.

 

Cytunodd y Pwyllgor i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor am drafodaethau â'r Comisiynydd Plant ar y cyfleoedd i'r Comisiynydd gyfrannu'n gynnar at y gwaith o ddatblygu polisi.


Cyfarfod: 02/07/2015 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

5 Llythyr gan y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi yn dilyn y cyfarfod ar 4 Mehefin

CYPE(4)-19-15 – Papur i'w nodi 5

 

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 04/06/2015 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Craffu ar waith y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi

CYPE(4)-16-15 – Papur 1

 

Lesley Griffiths AC, y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi

Kate Cassidy, Cyfarwyddwr – Cymunedau a Threchu Tlodi

Martin Swain, Dirprwy Gyfarwyddwr – Yr Is-adran Plant, Pobl Ifanc a Theuluoedd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn craffu ar waith y Gweinidog ynghylch materion sy'n ymwneud â phlant a phobl ifanc yn ei phortffolio.  Cytunodd y Gweinidog i ddarparu'r canlynol i'r Pwyllgor:

 

Rhagor o fanylion ar p'un a yw'r elfen sy'n ymwneud â phlant anabl yng nghyllideb Teuluoedd yn Gyntaf yn cael ei defnyddio i ddarparu cyfleusterau chwarae i blant ag anableddau; ac

 

I rannu gyda'r Pwyllgor y cynlluniau cychwynnol ar gyfer prosiect cyfranogiad Plant yng Nghymru ac unrhyw dargedau penodol a osodwyd.


Cyfarfod: 19/06/2014 - Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 11)

Sesiwn graffu gyffredinol: Y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi - trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

11.1. Bu’r Pwyllgor yn trafod y dystiolaeth a gafwyd a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi ar y pwyntiau a godwyd.

 

 


Cyfarfod: 19/06/2014 - Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 7)

7 Sesiwn graffu gyffredinol: Y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi

Jeff Cuthbert AC, Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi

Kate Cassidy, Cyfarwyddwr Cymunedau a Threchi Tlodi

Eleanor Marks, Dirprwy Cyfarwyddwr Yr Is-Adran Cymunedau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Jeff Cuthbert AC, y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi, a’i swyddogion.

 

7.2 Yn ystod y sesiwn, cytunodd y Gweinidog i ddarparu’r wybodaeth a ganlyn i’r Pwyllgor:

  • manylion am y canllawiau a roddir i awdurdodau lleol fel rhan o’u gwaith craffu ar y sawl sy’n cael grantiau Cymunedau’n Gyntaf;
  • manylion am unrhyw gynnydd yn ffigurau aelodaeth Undebau Credyd ar ôl ymgyrch farchnata Llywodraeth Cymru.

 

 


Cyfarfod: 19/06/2013 - Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 10)

10 Llythyr gan y Gweinidog Cymunedau a Threchi Tlodi – y wybodaeth ddiweddaraf am y camau gweithredu yn dilyn y cyfarfod ar 23 Mai

CELG(4)-19-13 – Papur 8

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 23/05/2013 - Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Sesiwn graffu ar waith y Gweinidog – Y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi

CELG(4)-16-13 – Papur 1

 

Huw Lewis, y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi

Kate Cassidy, Cyfarwyddwr yr Adran Cymunedau a Threchu Tlodi

Owain Lloyd, Dirprwy Gyfarwyddwr Gweithrediadau, Llywodraeth Leol a Chymunedau

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi. Cytunodd y Gweinidog i ddarparu nodiadau ar y canlynol:

 

Y wybodaeth ddiweddaraf am sefyllfa’r grŵp cynghori ar dlodi tanwydd;

 

Rôl Llywodraeth Cymru o ran darparu’r rhaglen waith yng Nghymru;

 

Canlyniad y trafodaethau ynghylch gweithredu Dechrau’n Deg o fewn ysgol yn Abertawe;

 

Gwybodaeth ynghylch darparu gwasanaethau dwyieithog ar gyfer Dechrau’n Deg.