Cyfarfodydd

P-04-474 Cefnogaeth i wasanaethau caplaniaeth y GIG

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 11/10/2016 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-04-474 Cefnogaeth i Wasanaethau Caplaniaeth y GIG

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb hon ynghyd â P-04-457 Yr Ymgyrch Caplaniaeth Elusennol, a chytunwyd i gau'r ddwy ddeiseb o gofio ystyriaeth fanwl y Pwyllgor blaenorol o'r materion a'r datganiad clir o farn Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon.

 

 


Cyfarfod: 26/11/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 P-04-474 Cefnogaeth i wasanaethau caplaniaeth y GIG

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y deisebau a chytunodd i:

 

·         Lunio llythyr drafft ar gyfer y Gweinidog yn dwyn ynghyd yr amryfal faterion sydd wedi codi wrth drafod y ddeiseb, gan awgrymu materion i'r Gweinidog eu trafod ymhellach; a

·         thrafod cau'r ddeiseb pan fydd hyn wedi'i wneud.

 

 


Cyfarfod: 18/06/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

5 P-04-474 Cefnogaeth i wasanaethau caplaniaeth y GIG

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd yr Aelodau'r sesiwn dystiolaeth ar 2 Mehefin a chytunodd i ysgrifennu at:

 

·         fyrddau iechyd lleol yn unigol a gofyn iddynt a ydynt yn cofnodi unrhyw ddata ynghylch y defnydd o wasanaethau caplaniaeth; a gofyn sut mae cyllid yn cael ei ddyrannu ar draws y gwasanaethau mewn ardal bwrdd iechyd lleol; a'r

·         Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn rhoi gwybod iddo am y gwaith y mae'r Pwyllgor wedi ei wneud ar y deisebau, gan amlygu pryderon deisebwr y Gaplaniaeth Elusennol am y diffiniadau o ofal ysbrydol a chrefyddol a holi a yw Llywodraeth Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i fyrddau iechyd lleol ddarparu gwasanaethau caplaniaeth.  

 

Gan ddibynnu ar yr ymatebion gan fyrddau iechyd lleol a'r Gweinidog, efallai y bydd y Pwyllgor yn gwrando ar sesiwn dystiolaeth lafar arall ar y ddeiseb.

 


Cyfarfod: 04/06/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 7)

7 P-04-474 Cefnogaeth i wasanaethau caplaniaeth y GIG : Sesiwn Dystiolaeth

Jim Stewart, Deisebydd

 

Wynne Roberts, Caplan Gofal Bugeiliol a Chadeirydd Rhwydwaith Rhyng-ffydd Gogledd Orllewin Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Atebodd Jim Stewart ac Wynne Roberts gwestiynau gan aelodau'r Pwyllgor.

 

Cytunodd Wynne Roberts i roi rhagor o wybodaeth i'r Pwyllgor am y gwaith a wneir gan wasanaethau caplaniaeth ym Mwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr.

 


Cyfarfod: 16/04/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 P-04-474 Cefnogaeth i wasanaethau caplaniaeth y GIG

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i:

 

·         grwpio’r ddeiseb gyda P-04-457, gan nodi bod y ddwy ddeiseb yn dadlau i’r gwrthwyneb i’w gilydd;

·         ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn ei hysbysu am y ddeiseb ac i ofyn am ei farn ar y posibilrwydd o ymestyn gwasanaethau caplaniaeth i ganolfannau gofal eraill; a

·         chymryd tystiolaeth lafar.