Cyfarfodydd

P-04-473 Cymorth Ariannol ar gyfer yr Ymchwiliad Cyhoeddus i Ffermydd Gwynt

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 26/11/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 P-04-473 Cymorth Ariannol ar gyfer yr Ymchwiliad Cyhoeddus i Ffermydd Gwynt

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i gau'r ddeiseb yn sgîl ymateb yr Adran Ynni a Newid Hinsawdd a Llywodraeth Cymru, a nododd eu barn yn glir.

 


Cyfarfod: 02/07/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 P-04-473 Cymorth Ariannol ar gyfer yr Ymchwiliad Cyhoeddus i Ffermydd Gwynt

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Datganodd William Powell a Russell George fuddiant fel aelodau o Gyngor Sir Powys.

 

Bu’r Pwyllgor yn trafod gohebiaeth ar y ddeiseb, a chytunodd yr Aelodau i ysgrifennu at Lywodraeth y DU ynghylch pryderon y deisebydd am gyllido’r ymchwiliad.


Cyfarfod: 16/04/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 P-04-473 Cymorth Ariannol ar gyfer yr Ymchwiliad Cyhoeddus i Ffermydd Gwynt

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at:

 

·         y Gweinidog Tai ac Adfywio; a

·         Chyngor Sir Powys i ofyn am eu barn ar y ddeiseb.

Gwnaeth y Cadeirydd a Russell George ddatganiad o fuddiant fel Aelodau o Gyngor Sir Powys.