Cyfarfodydd

P-04-471 Deddfwriaeth Orfodol i Sicrahau Bod Diffibrilwyr ar Gael Ym Mhob Man Cyhoeddus

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 07/10/2015 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3.)

Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Deisebau – Deddfwriaeth orfodol i sicrhau bod diffibrilwyr ar gael ym mhob man cyhoeddus

NDM5838 William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Deisebau ar y ddeiseb, 'Deddfwriaeth orfodol i sicrhau bod diffibrilwyr ar gael ym mhob man cyhoeddus' a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 9 Gorffennaf 2015.

 

Cyflwynwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 30 Medi 2015.

 

Dogfennau Ategol

 

Adroddiad y Pwyllgor Deisebau

Ymateb Llywodraeth Cymru

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 15.03

NDM5838 William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Deisebau ar y ddeiseb, 'Deddfwriaeth orfodol i sicrhau bod diffibrilwyr ar gael ym mhob man cyhoeddus' a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 9 Gorffennaf 2015.


Derbyniwyd y Cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.


Cyfarfod: 13/05/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-471 Deddfwriaeth Orfodol i sicrhau bod Diffibrilwyr ar gael ym mhob man cyhoeddus

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn trafod y sesiwn dystiolaeth a gynhaliwyd ar 29 Ebrill a chytunwyd i baratoi adroddiad ar y ddeiseb fel y gall y Cynulliad drafod y materion a godwyd yn llawnach yn y Cyfarfod Llawn.

 


Cyfarfod: 29/04/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 P-04-471 Deddfwriaeth Orfodol i sicrhau bod Diffibrilwyr ar gael ym mhob man cyhoeddus

Phil Hill, Deisebydd

 

Mr Richard Lee, Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru

 

June Thomas, Ymgyrchwr Diffibrilwyr Leol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r tystion yn ateb cwestiynau’r Aelodau a dangoswyd i’r Pwyllgor sut i ddefnyddio diffibrilwyr.

 


Cyfarfod: 10/12/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-471 Deddfwriaeth Orfodol i sicrhau bod Diffibrilwyr ar gael ym mhob man cyhoeddus

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i:

 

·         ofyn i'r deisebydd gyflwyno ei gynigion mewn cyfarfod Pwyllgor yn y dyfodol; a

·         gofyn am sylwadau pellach gan y Gweinidog yn sgîl yr ymatebion a ddaeth i law.

 

 


Cyfarfod: 02/07/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 P-04-471 Deddfwriaeth Orfodol i Sicrhau Bod Diffibrilwyr ar Gael Ym Mhob Man Cyhoeddus

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn trafod gohebiaeth ar y ddeiseb, a chytunodd yr Aelodau:

 

·         i ysgrifennu at Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, Sefydliad Prydeinig y Galon a phob bwrdd iechyd lleol, gan ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd a wnaed o ran adolygu’r ddarpariaeth o ddiffibrilwyr mewn mannau cyhoeddus; ac

·         i aros am yr ymatebion sydd eto i ddod i law.


Cyfarfod: 16/04/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 P-04-471 Deddfwriaeth Orfodol i Sicrhau Bod Diffibrilwyr ar Gael ym Mhob Man Cyhoeddus

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.3 Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at:

 

·         Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol;

·         Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru;

·         Gwasanaethau Tân ac Achub Cymru;

·         Heddluoedd Cymru;

·         Un Llais Cymru; a

·         Chonsortiwm Manwerthu Prydain i ofyn am eu barn ar y ddeiseb.