Cyfarfodydd
P-04-470 Yn erbyn gwladoli Maes Awyr Caerdydd
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 10/12/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)
3 P-04-470 Yn erbyn gwladoli Maes Awyr Caerdydd
Dogfennau ategol:
Cofnodion:
Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i'w chau gan na chafwyd ymateb gan y deisebydd
yn ystod y pedair wythnos flaenorol.
Cyfarfod: 04/06/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)
5 P-04-470 Yn erbyn gwladoli Maes Awyr Caerdydd
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 5 PDF 104 KB Gweld fel HTML (5/1) 8 KB
- 16.05.2013 Gohebiaeth - Y Prif Weinidog at y Cadeirydd (Saesneg yn unig), Eitem 5 PDF 82 KB
Cofnodion:
Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at:
· y deisebwr yn holi am ei farn am lythyr y Prif Weinidog a'r dogfennau ategol, gan holi a yw hyn yn cyflawni amcanion y ddeiseb; a
·
Chadeirydd
y Pwyllgor Menter a Busnes yn tynnu sylw at y ddeiseb yng nghyd-destun gwaith
diweddar ei Bwyllgor ar y pwnc.
Cyfarfod: 16/04/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)
2 P-04-470 Yn erbyn gwladoli Maes Awyr Caerdydd
Dogfennau ategol:
Cofnodion:
Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at
y Prif Weinidog i ofyn am ei farn ar y ddeiseb ac i ofyn pryd bydd yr achos
busnes a’r gwaith diwydrwydd dyladwy ar gael.