Cyfarfodydd

Blaenraglen Waith - Y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 16/10/2015 - Y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

Trafod y Dystiolaeth o’r Sesiwn Flaenorol

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd yn ystod y sesiwn graffu flaenorol a chytunwyd i ysgrifennu at y Prif Weinidog yn nodi nifer o sylwadau ac argymhellion.

 


Cyfarfod: 21/03/2013 - Y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

Trafod papur drafft - Gweithgaredd y Pwyllgor ar gyfer y dyfodol - opsiynau ar gyfer tymor yr haf 2013

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd yr Aelod i gynnal y cyfarfod nesaf yng Ngogledd Cymru. Cynhelir y cyfarfod yn ystod tymor yr haf. 

 

Cytunwyd y byddai'r tîm clercio yn cysylltu â'r Prif Weinidog i bennu dyddiad a lleoliad addas ar gyfer y cyfarfod.

 

Cytunodd yr Aelodau mai darpariaeth prosiectau seilwaith mawr, gan gynnwys ynni, ddylai fod pwnc y cyfarfod nesaf. Cytunwyd y dylid canolbwyntio'n arbennig ar enghreifftiau yng Ngogledd Cymru, gan gynnwys trydaneiddio'r rheilffyrdd, gwelliannau i'r A55, ynni niwclear ac adnewyddadwy, gwella'r grid a dinas-ranbarthau.

 

Awgrymodd yr Aelodau y gallai'r ymweliad â Gogledd Cymru hefyd gynnwys digwyddiad y noson cyn y cyfarfod.

 

Awgrymodd yr Aelodau hefyd y dylid cynnal digwyddiad ymgysylltu fel sesiwn meic agored.  Efallai y gellid gwahodd y Prif Weinidog i gymryd rhan yn y gweithgaredd hwn.

 

Dywedodd yr Aelodau eu bod yn hoffi arddull y papur briffio a ddarparwyd yn ystod y cyfarfod blaenorol, a byddent yn hoffi gweld rhywbeth tebyg ar gyfer cyfarfodydd yn y dyfodol.


Cyfarfod: 24/09/2012 - Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4.)

4. Y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog - y dull o weithio a phynciau i'w craffu arnynt

Papurau:

CLA(4)-19-12(p1) – Pynciau posibl i’w craffu arnynt

Dogfennau ategol: