Cyfarfodydd

Cyllido Addysg Uwch

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 24/09/2014 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Cyllid addysg uwch: Llythyr gan Darren Millar AC (30 Gorffennaf 2014)

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 16/09/2014 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Cyllid addysg uwch: Llythyr gan Swyddfa Archwilio Cymru at Mike Hedges AC (15 Awst 2014)

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 15/07/2014 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 Cyllid addysg uwch

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 30/04/2014 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

Cyllido Addysg Uwch: Trafod yr adroddiad drafft

FIN(4)-07-14(papur 1)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft a chymeradwyodd yr adroddiad yn amodol ar rai mân newidiadau.

 


Cyfarfod: 20/03/2014 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 7)

Cyllido Addysg Uwch: ystyried y prif faterion

FIN(4)-05-14 (papur 4)

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor y prif faterion. Bydd y clercod yn paratoi adroddiad drafft i’w drafod ar ôl toriad y Pasg.

 


Cyfarfod: 05/02/2014 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 Cyllido Addysg Uwch: Llythyr gan yr Athro Julie Williams

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 28/01/2014 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

Cyllido Addysg Uwch: Sesiwn friffio gan Swyddfa Archwilio Cymru

Cofnodion:

4.1 Cynhaliwyd sesiwn friffio gan Swyddfa Archwilio Cymru ar yr adroddiad ar Gyllid Addysg Uwch a gyhoeddwyd ar 21 Tachwedd 2013.

 

4.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn ceisio ymateb i adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru.  Cytunodd hefyd i ddychwelyd at y mater hwn unwaith y bydd rhagor o waith wedi cael ei gwblhau yn ddiweddarach eleni.

 


Cyfarfod: 22/01/2014 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Cyllido Addysg Uwch: Gwybodaeth ychwanegol (2) gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 22/01/2014 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Cyllido Addysg Uwch: Gwybodaeth ychwanegol gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 22/01/2014 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Cyllido Addysg Uwch: 2.1 Gwybodaeth ychwanegol gan Addysg Uwch Cymru:

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 11/12/2013 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 Cyllido Addysg Uwch: Gwybodaeth ychwanegol gan Brifysgol Agored Cymru

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 11/12/2013 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

Ymchwiliad i Gyllido Addysg Uwch: Trafod y dystiolaeth a gafwyd

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd ynghylch yr ymchwiliad a gofynnwyd i'r clercod gael rhagor o wybodaeth am y canlynol:

·       Llyfr benthyciad i fyfyrwyr

·       Nifer y myfyrwyr AAB/ABB sy'n cofrestru gyda phrifysgolion Cymru

·       Ysgrifennu at y Prif Gynghorwr Gwyddonol ynghylch cyllid ar gyfer gwaith ymchwil

 


Cyfarfod: 11/12/2013 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Ymchwiliad i Gyllido Addysg Uwch: Tystiolaeth gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau

Huw Lewis AC, y Gweinidog Addysg a Sgiliau

Neil Surman, Dirprwy Cyfarwyddwr, Addysg Uwch

Chris Jones, Pennaeath Cyllid Addysg Uwch a Gwella Perfformiad

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau ar gyllido addysg uwch.

 


Cyfarfod: 27/11/2013 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 Ymchwiliad i Gyllido Addysg Uwch: Tystiolaeth gan Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr

FIN(4)-21-13 (papur 3)

 

Stephanie Lloyd, Llywydd Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr, Cymru

Keiron Rees, Swyddog Polisi a Materion Cyhoeddus, Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr, Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Stephanie Lloyd, Llywydd Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr Cymru a Keiron Rees, Swyddog Polisi a Materion Cyhoeddus, Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr Cymru, ynghylch cyllido addysg uwch.

 

Camau gweithredu:

 

2.1 Cytunodd Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr Cymru i anfon gwybodaeth ychwanegol ynghylch dadansoddi gwaith ymchwil sydd i ddod ar gymorth i fyfyrwyr, pan fo hynny ar gael yn y flwyddyn newydd

 

 


Cyfarfod: 27/11/2013 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Ymchwiliad i Gyllido Addysg Uwch: Tystiolaeth gan Addysg Uwch Cymru a Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru

FIN(4)-21-13 (papur 1)

FIN(4)-21-13 (papur 2)

 

Yr Athro John Hughes, Is-Ganghellor, Prifysgol Bangor

Amanda Wilkinson, Cyfarwyddwr Addysg Uwch Cymru

Ben Arnold, Cynghorwr Polisi, Addysg Uwch Cymru

Dr David Blaney, Prif Weithredwr, Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC)

Bethan Owen, Cyfarwyddwr Ymgysylltu Sefydliadol, Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC)

Celia Hunt, Cyfarwyddwr Sgiliau, Addysg a Chyllido, Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC)

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan yr Athro John Hughes, Is-ganghellor Prifysgol Bangor, Amanda Wilkinson, Cyfarwyddwr Addysg Uwch Cymru, Ben Arnold, Cynghorwr Polisi i Addysg Uwch Cymru, 

Dr David Blaney, Prif Weithredwr Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, Bethan Owen, Cyfarwyddwr Ymgysylltu Sefydliadol Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, a Celia Hunt, Cyfarwyddwr Sgiliau, Addysg a Chyllid, Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, ynghylch cyllido addysg uwch.

 

Camau gweithredu:

 

2.1 Cytunodd Addysg Uwch Cymru i anfon gwybodaeth ychwanegol ynghylch:

·       Data ar gymhariaethau rhanbarthol

·       Nifer y myfyrwyr AAB neu well sy’n astudio ym Mhrifysgol Bangor

·       Faint yn llai o fyfyrwyr sy’n astudio drwy gyfrwng y Gymraeg

·       Data ar werth am arian o ran myfyrwyr sy’n astudio yng Nghymru

 

 

2.2 Cytunodd Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru i anfon gwybodaeth ychwanegol ynghylch:

·       Y tueddiadau o ran myfyrwyr o Gymru sy’n astudio yn Lloegr (pan fo’r wybodaeth ar gael)

·       Nifer y myfyrwyr sy’n astudio drwy gyfrwng y Gymraeg

 

 

 

 


Cyfarfod: 27/11/2013 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6)

Ymchwiliad i Gyllido Addysg Uwch: Trafod y dystiolaeth a gafwyd

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd ar gyfer yr ymchwiliad i gyllido addysg uwch.

 


Cyfarfod: 13/11/2013 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

5 Ymchwiliad i Gyllido Addysg Uwch: Tystiolaeth gan y Brifysgol Agored

FIN(4)-20-13 (papur 6)

 

Rob Humphreys, Cyfarwyddwr, y Brifysgol Agored yng Nghymru

Michelle Matheron, Rheolwr Polisi a Materion Cyhoeddus, y Brifysgol Agored yng Nghymru

 

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Rob Humphreys, Cyfarwyddwr, y Brifysgol Agored yng Nghymru a Michelle Matheron, Rheolwr Polisi a Materion Cyhoeddus, y Brifysgol Agored yng Nghymru, o ran cyllido addysg uwch.

 

5.2 Cytunodd Rob Humphreys i anfon nodyn i’r Pwyllgor â manylion am bobl ifanc rhwng 18 a 25 oed sy’n dilyn cyrsiau’r Brifysgol Agored ar hyn o bryd.

 

 


Cyfarfod: 13/11/2013 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 8)

Ymchwiliad i Gyllido Addysg Uwch: Trafod y dystiolaeth a gafwyd

Cofnodion:

8.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd ar gyfer yr ymchwiliad i gyllido addysg uwch.

 


Cyfarfod: 13/11/2013 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 Ymchwiliad i Gyllido Addysg Uwch: Tystiolaeth gan Brifysgol Caerdydd a Phrifysgol Glyndŵr

FIN(4)-20-13 (papur 4)

FIN(4)-20-13 (papur 5)

 

Yr Athro Patricia Price, Dirprwy Is-ganghellor, Profiad Myfyrwyr a Safonau Academaidd, Prifysgol Caerdydd

Mike Davies, Cyfarwyddwr Cyllid, Prifysgol Caerdydd

Yr Athro Michael Scott, Is-ganghellor a Phrif Weitrhedwr, Prifysgol Glyndŵr

Paul Whiting – Cyfarwyddwr Cyllid, Prifysgol Glyndŵr

Andrew Parry – Pennaeth yr Adran Cyfathrebu Corfforaethol, Prifysgol Glyndŵr

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan yr Athro Patricia Price, y Dirprwy Is-Ganghellor, Profiad y Myfyrwyr a Safonau Academaidd, Prifysgol Caerdydd, Mike Davies, Cyfarwyddwr Cyllid, Prifysgol Caerdydd, yr Athro Michael Scott,  Is-Ganghellor a Phrif Weithredwr, Prifysgol Glyndŵr, Paul Whiting, Cyfarwyddwr Cyllid, Prifysgol Glyndŵr ac Andrew Parry, Pennaeth Cyfathrebu Corfforaethol, Prifysgol Glyndŵr, o ran cyllido addysg uwch.

 

 


Cyfarfod: 09/10/2013 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

Ymchwiliad i Gyllido Addysg Uwch: ystyried tystion llafar

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Bu'r Pwyllgor yn trafod y papur a chytunodd ar y rhestr arfaethedig o dystion, gan ychwanegu'r Prif Gynghorwr Gwyddonol at y rhestr.

 


Cyfarfod: 25/09/2013 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Ymchwiliad i Gyllido Addysg Uwch - y Wybodaeth Ddiweddaraf am Gynnydd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Nododd y Pwyllgor y papur.

 


Cyfarfod: 10/07/2013 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

Ymchwiliad i Gyllido Addysg Uwch - Sesiwn friffio gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC)

Dr David Blaney, Prif Weithredwr, CCAUC

Celia Hunt, Pennaeth Sgiliau, Addysg a Chyllido, CCAUC

Bethan Owen, Pennaeth Ymgysylltu Sefydliadol, CCAUC

Cofnodion:

5.1 Rhoddodd cynrychiolwyr o Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) drosolwg i’r Pwyllgor o sut y caiff Sefydliadau Addysg Uwch yng Nghymru eu hariannu.

5.2 Cytunodd HEFCW i ddarparu’r wybodaeth ganlynol:

Nodyn ar gyllid yr UE ar gyfer ymchwil ac arloesedd sy’n mynd drwy Sefydliadau Addysg Uwch yng Nghymru.


Cyfarfod: 12/06/2013 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 Goblygiadau ariannol y Bil Addysg Bellach ac Uwch - Tystiolaeth gan y Gweinidog dros Addysg a Sgiliau

FIN(4)-10-13 Papur 3

Leighton Andrews AM, Gweinidog dros Addysg a Sgiliau

Carla Lyne, Dirprwy Gyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Croesawodd y Cadeirydd Leighton Andrews AC, y Gweinidog Addysg a Sgiliau, a Carla Lyne, Dirprwy Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol Cyllid.

 

3.2 Ymatebodd y Gweinidog a’r swyddog i gwestiynau gan Aelodau’r Pwyllgor.

 

3.3 Cytunodd y Gweinidog i ddarparu’r wybodaeth ganlynol i’r Pwyllgor:

 

·         Nodyn ar y newidiadau y gallai’r Gweinidog eu gwneud i amodau ariannu sefydliadau addysg uwch.

·         Canran yr arian i sefydliadau addysg uwch sy’n dod gan Lywodraeth Cymru.

3.4 Cytunodd y tîm clercio i roi trawsgrifiad o’r sesiwn Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc ar y Bil Addysg Bellach ac Uwch (Llywodraethu a Gwybodaeth) (Cymru) ar 15 Mai i’r Aelodau.

 

3.5 Cytunodd y Clerc i ddrafftio llythyr i’r Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc yn nodi amheuon y Pwyllgor ynghylch ‘rheolaethau anneddfwriaethol’.

 

   


Cyfarfod: 24/04/2013 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 7)

Cyllido Addysg Uwch – Ystyried cylch gorchwyl drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Ystyriodd y Pwyllgor Gylch Gorchwyl drafft ei ymchwiliad sydd ar ddod ynghylch Cyllido Addysg Uwch a thrafododd ddulliau o ymdrin â’r ymchwiliad.


Cyfarfod: 06/03/2013 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

Cyllido Addysg Uwch

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Trafododd y Pwyllgor gwmpas ymchwiliad posibl i Addysg Uwch yng Nghymru a chytunodd i ystyried papur opsiynau mewn cyfarfod yn y dyfodol.