Cyfarfodydd
Ardrethi Busnes
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 09/03/2016 - Y Pwyllgor Menter a Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)
4 Datganoli Ardrethi Busnes i Gymru
Dogfennau ategol:
Cofnodion:
4.2.1 Nodwyd y papur gan y Pwyllgor.
Cyfarfod: 14/01/2016 - Y Pwyllgor Menter a Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)
5 Ardrethi Busnes
Dogfennau ategol:
Cofnodion:
5.4.1 Nododd y Pwyllgor y papur.
Cyfarfod: 09/12/2015 - Y Pwyllgor Menter a Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)
2 Datganoli Ardrethi Busnes i Gymru – Sefydliad Ardrethu a Phrisio Refeniw
David Magor, Prif Weithredwr, y Sefydliad Ardrethu a Phrisio Refeniw
Janet Alexander, Rheolwr Gwasanaethau Proffesiynol, y Sefydliad Ardrethu a
Phrisio Refeniw
Dogfennau ategol:
- Y Briff Ymchwil
- EBC(4)-30-15 (p.1) Tystiolaeth gan y Sefydliad Ardrethu a Phrisio Refeniw (Saesneg yn unig), Eitem 2 PDF 83 KB Gweld fel HTML (2/2) 16 KB
Cofnodion:
2.1 Atebodd Janet Alexander a David Magor gwestiynau gan
aelodau’r Pwyllgor.
2.2 Cytunodd David Magor i roi copi i'r Pwyllgor o'r
adroddiad a gynhyrchwyd gan y Sefydliad Ardrethu a Phrisio Refeniw ar strydoedd
mawr rhithwir.
Cyfarfod: 09/12/2015 - Y Pwyllgor Menter a Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)
3 Datganoli Ardrethi Busnes i Gymru – Ffederasiwn y Busnesau Bach
Dr Rachel Bowen, Rheolwr Polisi, Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru
Rhodri Evans, Uwch-ymgynghorydd Cyfathrebu, Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru
Rhian Murphy, Rheolwr Gyfarwyddwr, SlideFold UK Ltd.
Dogfennau ategol:
- EBC(4)-30-15 (p.2) Tystiolaeth gan Ffederasiwn y Busnesau Bach (Saesneg yn unig), Eitem 3 PDF 329 KB
Cofnodion:
3.1 Atebodd Rachel Bowen, Rhodri Evans and Rhian Murphy
gwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor.
Cyfarfod: 09/12/2015 - Y Pwyllgor Menter a Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)
4 Datganoli Ardrethi Busnes i Gymru – Llywodraeth Cymru a CBI Cymru
Edwina Hart AC, Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth
Chris Sutton, Cadeirydd, Cydffederasiwn Diwydiant Prydain
Dogfennau ategol:
- EBC(4)-30-15 (p.3) Tystiolaeth gan Lywodraeth Cymru, Eitem 4 PDF 63 KB Gweld fel HTML (4/1) 37 KB
- EBC(4)-30-15 (p.3a) Nodyn cywiro gan Lywodraeth Cymru (Saesneg yn unig), Eitem 4 PDF 168 KB
Cofnodion:
4.1 Atebodd Edwina Hart AC, Gweinidog yr Economi,
Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth, a Chris Sutton gwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor.
4.2 Cytunodd y Gweinidog i adrodd yn ôl i'r Pwyllgor wedi
iddi gyfarfod ag awdurdodau lleol i drafod y modd y maent yn dosbarthu
cronfeydd rhyddhad caledi.
4.3 Cytunodd y Gweinidog i rannu'r data sy'n cael eu
casglu ar hyn o bryd ynghylch asesu a chasglu ardrethi busnes, ac i ddarparu
gwybodaeth ynghylch a oes unrhyw gynlluniau i gasglu rhagor o wybodaeth, sy'n
fwy cywir, yn y dyfodol.
Cyfarfod: 01/07/2015 - Y Pwyllgor Menter a Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6)
6 Polisi Ardrethi Busnes - Gwybodath a ddarparwyd gan yr Association of Town and City Management
Dogfennau ategol:
Cofnodion:
6.2.1 Nodwyd y papur gan y Pwyllgor.
Cyfarfod: 23/04/2015 - Y Pwyllgor Menter a Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)
3 Gwybodaeth ychwanegol gan Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth ynghylch ardrethi busnes yn dilyn cyfarfod 11 Mawrth 2015
Dogfennau ategol:
Cofnodion:
3.2.1 Nodwyd y papur gan y Pwyllgor.
Cyfarfod: 19/03/2015 - Y Pwyllgor Menter a Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)
3 Cyflwyniad gan Gerry Holtham ar ardrethi annomestig wedi'i ddarparu gan y Ffederasiwn Busnesau Bach
Dogfennau ategol:
Cofnodion:
3.3.1 Nodwyd y papur gan y Pwyllgor.
Cyfarfod: 11/03/2015 - Y Pwyllgor Menter a Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)
2 Polisi Ardrethi Busnes - Ffederasiwn y Busnesau Bach
Iestyn
Davies, Pennaeth Materion Allanol (Gwledydd Datganoledig), Ffederasiwn y
Busnesau Bach
Josh Miles,
Cynghorydd Polisi, Ffederasiwn y Busnesau Bach
Dogfennau ategol:
- Y Briff Ymchwil
Cofnodion:
2.1 Cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Iestyn Davies a
Josh Miles.
Cyfarfod: 11/03/2015 - Y Pwyllgor Menter a Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)
3 Polisi Ardrethi Busnes - Craffu ar y Gweinidog
Edwina
Hart, Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth.
Tracey Burke, Cyfarwyddwr Strategaeth, Adran yr Economi,
Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth.
Chris Sutton, Cadeirydd y Panel Trethi Busnes
Dogfennau ategol:
- EBC(4)-07-15 (p.1) Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth, Eitem 3 PDF 69 KB Gweld fel HTML (3/1) 13 KB
Cofnodion:
3.1 Craffodd y Pwyllgor ar waith Gweinidog yr Economi,
Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth.
3.2
Cytunodd y Gweinidog i ddarparu gwybodaeth am Fusnesau
Bach a Chanolig sydd wedi elwa o’r Cynllun Ardrethi Busnes, ac sy’n gymwys
amdano, ar gyfer pob Ardal Fenter.
3.3
Cytunodd y Gweinidog i ddarparu enghreifftiau o arferion
da o ran rhyddhad ardrethi busnesau bach yng Ngogledd Iwerddon ac unrhyw ddata
defnyddiol a ddeilliodd o hyn.
3.4
Cytunodd y Gweinidog i ddarparu gwybodaeth am unrhyw
asesiadau economaidd y mae Llywodraeth Cymru wedi’u gwneud a’r manteision a
ddaeth yn sgil cynlluniau dros dro, gan gynnwys yr Ardal Fenter a chynlluniau
ardrethi busnes Murco.
3.5
Cytunodd y Gweinidog i ddarparu manylion am ddatblygiadau
o ran ardrethi busnes ar gyfer llety hunanddarpar a chrynodeb gweithredol o’r
astudiaeth y cyfeiriodd y Gweinidog ati.
Cyfarfod: 11/03/2015 - Y Pwyllgor Menter a Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 7)
7 Papur ysgrifenedig gan Gonsortiwm Manwerthu Cymru
Dogfennau ategol:
Cofnodion:
7.2.1 Nodwyd y papur gan y Pwyllgor.
Cyfarfod: 11/03/2015 - Y Pwyllgor Menter a Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 7)
7 Llythyr oddi wrth Jane Hutt i William Graham ynghylch y Polisi Ardrethi Busnes
Dogfennau ategol:
Cofnodion:
7.1.1 Nodwyd y papur gan y Pwyllgor.
Cyfarfod: 11/03/2015 - Y Pwyllgor Menter a Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 7)
7 Ymateb Consortiwm Manwerthu Prydain i weinyddu ardrethi busnes yn Lloegr (canfyddiadau interim)
Dogfennau ategol:
Cofnodion:
7.3.1 Nodwyd y papur gan y Pwyllgor.
Cyfarfod: 05/03/2013 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3.)
Datganiad gan y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth: Ardrethi Busnes
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 14.30