Cyfarfodydd

Papur Gwyn: Deddfwriaeth i roi terfyn ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 06/02/2013 - Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

Briff Ffeithiol ar y Papur Gwyn: Deddfwriaeth ar gyfer rhoi terfyn ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol

Ymgynghoriad ar ddeddfwriaeth ar gyfer rhoi terfyn ar drais yn erbyn menywod a cham-drin domestig (Cymru)

 

·         Karin Phillips, Dirprwy Gyfarwyddwr: Yr Is-adran Diogelwch Cymunedol

·         Sarah Rhodes, Rheolwr y Bil

·         Janine Roderick, Uwch-gynghorydd Polisi – Y Tîm Trais yn erbyn Menywod a Cham-drin Domestig

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cafwyd briff ffeithiol ar y Papur Gwyn ar ddeddfwriaeth ar gyfer rhoi terfyn ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol.