Cyfarfodydd
Highlight report to the Commission
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 22/01/2018 - Comisiwn y Senedd (Eitem 5)
Adroddiad Cryno i’r Comisiwn
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 2
- Cyfyngedig 3
Cyfarfod: 17/07/2017 - Comisiwn y Senedd (Eitem 9)
Adroddiad ar y Prif Bwyntiau (Ionawr - Gorffennaf 2017)
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 6
Cofnodion:
Nodwyd yr
adroddiad, a bydd yn barod i'w gyhoeddi.
Cyfarfod: 05/12/2016 - Comisiwn y Senedd (Eitem 7)
7 Adroddiad Cryno i’r Comisiwn (Mai-Rhagfyr 2016)
Papur 5
Dogfennau ategol:
Cofnodion:
Rhoddodd
yr adroddiad cryno gofnod o waith a llwyddiannau'r Comisiwn yn ystod y cyfnod
ers dechrau'r Pumed Cynulliad.
Croesawodd
y Comisiynwyr yr adroddiad, gan gytuno y byddai'n adnodd defnyddiol, o un tymor
i'r nesaf, fel rhan o'u gwaith goruchwylio a'r gwaith o ddwyn y rheolwyr i
gyfrif. Roeddent yn cytuno ei fod yn gofnod gwerthfawr iawn.
Rhoddodd
y Comisiynwyr sylwadau manwl ar y potensial ar gyfer gwerthuso cynlluniau
ymgysylltu y bydd angen buddsoddi ynddynt yn barhaus, fel y gwaith ar y Senedd
Ieuenctid, er mwyn darganfod yr effeithiau hirdymor ar y rhai sy'n cymryd
rhan. Gwnaethant sylwadau hefyd ar rôl
Cymru ar y llwyfan rhyngwladol a chyfleoedd sy'n newid yng nghyd-destun gadael
yr UE.
Cyfarfod: 21/05/2015 - Comisiwn y Senedd (Eitem 3)
3 Adroddiad ar y Prif Bwyntiau (Ionawr – Mawrth)
Dogfennau ategol:
Cofnodion:
Mae'r adroddiad hwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Comisiwn am
weithgareddau a phrosiectau allweddol ers mis Ionawr 2015.
Canolbwyntiodd trafodaeth y Comisiwn ar y canlynol:
·
Y gwaith a wnaed gan y Gwasanaeth Ymchwil i wneud gwybodaeth yn fwy hygyrch
a difyr.
·
Diweddariad ar y cyhoeddiad sydd i ddod gan y Bwrdd Taliadau ynghylch ei
Benderfyniad ar gyfer y Pumed Cynulliad – a fydd yn digwydd am 10:00 ar 22 Mai.
·
Parhad y gweithgarwch mewn perthynas â Newid Cyfansoddiadol, cyn Araith y
Frenhines ac yn dilyn yr arweiniad a gymerwyd gan y Llywydd. Cytunodd y
Comisiynwyr y byddai'n bwysig rhoi digon o sylw i'r mater a chydnabuwyd y
byddai gwaith y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol yn rhan
bwysig o hyn.
·
Y gwaith paratoi sy'n mynd rhagddo i gwblhau'r cyfrifon a'r adroddiad
blynyddol. Trafododd y Comisiynwyr hefyd lythyr a gafwyd gan Gadeirydd y
Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus.
·
Y trefniadau a wnaed i groesawu'r ddau Aelod Cynulliad newydd, a'r
cynlluniau cynefino ar eu cyfer.
·
Gweithio'n ddwyieithog, gan gynnwys cyflawniadau arloesol y system adnoddau
dynol.
·
Cynlluniau Datblygiad Proffesiynol Parhaus ar gyfer yr Aelodau yn y Pumed
Cynulliad.
·
Gweithgarwch i gefnogi sefydliadau allanol wrth ddatblygu eu gallu i roi
tystiolaeth i bwyllgorau.
Cyfarfod: 29/01/2015 - Comisiwn y Senedd (Eitem 5)
5 Adroddiad ar y Prif Bwyntiau (Gorffennaf - Rhagfyr 2014)
Dogfennau ategol:
- AC(4)2015(2) Papur 4 - Adroddiad ar y Prif Bwyntiau - Mehefin-Rhagfyr 2014, Eitem 5 PDF 383 KB Gweld fel HTML (5/1) 236 KB
- AC(4)2015(2) Papur 4 - Atodiad A - Materion Ewrop 31, Eitem 5 PDF 323 KB
Cofnodion:
Adolygodd y
Comisiynwyr yr adroddiad diweddaraf ar y prif bwyntiau a oedd yn rhoi’r
wybodaeth ddiweddaraf am y prif weithgareddau a phrosiectau ers mis Mehefin
2014. Cytunwyd i gyhoeddi’r adroddiad a sicrhau ei fod ar gael i Aelodau.
Cyfarfod: 07/07/2014 - Comisiwn y Senedd (Eitem 4)
4 Adroddiad ar y Prif Bwyntiau
papur 4
Dogfennau ategol:
Cofnodion:
Roedd yr
adroddiad yn crynhoi'r gwaith a wnaed i gyflawni Nodau Strategol y Comisiwn
rhwng mis Ebrill a mis Gorffennaf 2014.
Byddai gwaith
y Cynulliad ar ymgysylltu â phobl ifanc yn cael ei lansio ar 16 Gorffennaf i
arddangos y gwaith ardderchog roedd y Cynulliad wedi'i wneud eisoes yn y maes
hwn ac i gyflwyno gweledigaeth y Comisiwn ar gyfer gwella gwasanaethau ymgysylltu â phobl ifanc. Mae nifer o
weithgareddau'n cael eu trefnu, gan gynnwys digwyddiad Hawl i Holi gyda phanel
o Aelodau'r Cynulliad, llofnodi Siarter Pobl Ifanc gan Arweinwyr y Pleidiau a
datganiad gan y Llywydd yn y Cyfarfod Llawn.
Trafododd y
Comisiynwyr y materion a ganlyn hefyd:
·
ceisiadau rhyddid gwybodaeth;
·
dirwyn y contract ag Atos i ben
erbyn diwedd mis Gorffennaf;
·
cyhoeddi a thrafod Adroddiad
Blynyddol ar y Cynllun Ieithoedd Swyddogol;
·
y streic arfaethedig ar 10
Gorffennaf; a
·
dod â phrotest unigolyn sydd ar
streic newyn ar Ystâd y Cynulliad i ben.
Mae'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus wedi bod yn
anfon negeseuon trydar yn ddiweddar yn ystod ei drafodion. Trafododd y
Comisiynwyr werth y math hwn o weithgaredd o safbwynt ymgysylltu â'r cyhoedd.
Cytunwyd y dylid rhoi'r gorau i drydar yn ystod trafodion byw'r pwyllgor nes
bod effaith a gwerth ychwanegol y gweithgaredd wedi'i fesur. Dywedodd y Comisiynwyr fod angen paratoi
polisi cyfryngau cymdeithasol iddynt ei drafod.
Cyfarfod: 08/05/2014 - Comisiwn y Senedd (Eitem 4)
4 Adroddiad ar y Prif Bwyntiau Ionawr - Mawrth 2014
papur 4
Dogfennau ategol:
Cofnodion:
Trafodwyd yr Adroddiad ar y Prif Bwyntiau, rhwng mis
Ionawr a mis Mawrth 2014, sy’n rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am weithgareddau a
phrosiectau allweddol sydd ar waith ers mis Rhagfyr 2013, ar gyfer gwneud
cynnydd tuag at gyflawni nodau strategol y Comisiwn.
Roedd yr eitemau a ganlyn o ddiddordeb arbennig:
- Roed gwaith aruthrol wedi’i wneud, ac yn
parhau i gael ei wneud gan yr Aelodau, gan Bwyllgorau’r Cynulliad a thrwy waith
swyddfa’r Cynulliad ym Mrwsel, i ddylanwadu, ac i godi proffil y Cynulliad ar
lefel yr UE.
- Bydd Cynhadledd
Cymdeithas Seneddol y Gymanwlad, a gaiff ei chynnal yn y Cynulliad ym mis Mai,
yn gyfle i gynulleidfa ryngwladol weld yr hyn y mae’r Cynulliad yn ei wneud i
hybu ymgysylltiad democrataidd;
- Roedd gwaith diweddar a wnaed ar ystâd y
Cynulliad wedi gwella’r amgylchedd ar gyfer ymwelwyr a phobl sy’n gweithio ar
yr ystad, ynghyd â gwaith i wella’r trefniadau diogelwch.
Tynnodd y
Comisiynwyr sylw hefyd at yr angen i barhau i gydweithio â’r Aelodau ym maes
rheoli gwybodaeth, i sicrhau bod arweiniad a chyngor ar gael i bawb. Croesawyd
y trefniadau a wnaed i ymweld â swyddfeydd yr Aelodau, gan fod gwerth mawr wedi
bod yn sgîl ymweliadau tebyg yn y gorffennol.
Cadarnhaodd y Comisiynwyr fod yr Adroddiad ar y Prif
Bwyntiau o werth iddynt, ac yn ehangach i Aelodau’r Cynulliad, y cyhoedd a
staff, fel ffynhonnell gwybodaeth ddefnyddiol am y gwaith a wneir i gyflawni
nodau strategol y Comisiwn.
Caiff yr adroddiad ei gyhoeddi ar wefan y Comisiwn.
Cyfarfod: 05/12/2013 - Comisiwn y Senedd (Eitem 4)
4 Adroddiad ar y Prif Bwyntiau (am y cyfnod rhwng mis Mai a mis Tachwedd)
papur 4
Dogfennau ategol:
Cofnodion:
Mae’r adroddiad ar y prif bwyntiau yn crynhoi’r
gweithgareddau sydd wedi’u cyflawni neu sy’n digwydd ar hyn o bryd i wneud
cynnydd tuag at gyflawni nodau strategol y Comisiwn. Y pwyntiau i’w nodi’n
benodol yw:
- Ail-strwythuro’r Gyfarwyddiaeth Busnes;
- Yr ymweliadau niferus â’r Cynulliad ac o’r Cynulliad.
- Canlyniadau’r arolwg staff a’r gwaith sy’n cael ei gyflawni gan y Bwrdd
Rheoli mewn ymateb iddo;
- Gwaith y Llywydd yn y dyfodol agos ar y cynllun mentora Cymru gyfan, fel
rhan o’i gwaith ar y prosiect Menywod mewn Bywyd Cyhoeddus;
- Y sylw a gafodd gweithgareddau’r Cynulliad yn y cyfryngau;
-
Cyrraedd safon Aur Buddsoddwyr mewn
Pobl.
Cyfarfod: 16/05/2013 - Comisiwn y Senedd (Eitem 4)
Adroddiad ar y prif bwyntiau i’r Comisiwn
papur 4
Cofnodion:
Mae’r
adroddiad ar y prif bwyntiau yn crynhoi’r gweithgareddau sydd wedi’u gwneud neu
sy’n mynd rhagddynt i wneud cynnydd tuag at nodau strategol y Comisiwn. Nodwyd
bod y Gyfarwyddiaeth Fusnes yn cael ei had-drefnu ar hyn o bryd a dylid
adlewyrchu hyn yng nghanfyddiadau’r adolygiad o gymorth i Bwyllgorau. Darparwyd
amrywiaeth eang o weithgareddau allgymorth ac ymgysylltu, yn unol â’r nod o
ymgysylltu â phobl Cymru a hyrwyddo Cymru. Bydd ail arolwg boddhad defnyddwyr
ar gyfer Aelodau’r Cynulliad a’u staff cymorth yn cael ei lansio ym mis
Mehefin.
Byddwn yn
adrodd ar y Dangosyddion Perfformiad Allweddol mewn cyfarfodydd yn y dyfodol,
yn unol ag argymhellion y Pwyllgor Cyllid. Derbyniodd y Comisiynwyr y
dangosyddion a nododd eu bod yn debygol o gael eu datblygu.
Cam i’w gymryd: Angela Burns AC i ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid yn cadarnhau y byddai’r dangosyddion perfformiad allweddol yn cael eu defnyddio.
Cyfarfod: 24/01/2013 - Comisiwn y Senedd (Eitem 5)
Adroddiad ar y prif bwyntiau i’r Comisiwn Ionawr 2013