Cyfarfodydd
Adolygiad o effeithiolrwydd Comisiwn y Senedd
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 29/01/2015 - Comisiwn y Senedd (Eitem 6)
Adolygiad o Effeithiolrwydd Comisiwn y Cynulliad - y diweddaraf ar y camau gweithredu
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 2
Cofnodion:
Gwnaeth y
Comisiwn adolygu a diweddaru ei Gynllun Gweithredu mewn ymateb i’r argymhellion
yn yr adroddiad ar adolygiad o effeithiolrwydd y Comisiwn.
Cyfarfod: 18/06/2014 - Comisiwn y Senedd (Eitem 2)
Adolygiad o Effeithiolrwydd Comisiwn y Cynulliad
papur 2
Cofnodion:
Yn unol ag arfer gorau llywodraethu corfforaethol ac
egwyddorion llywodraethu Comisiwn y Cynulliad, cafodd adolygiad o
effeithiolrwydd y Comisiwn ei gwblhau rhwng mis Ionawr a mis Ebrill 2014. Roedd
yn asesu'r cynnydd yn ôl yr argymhellion a wnaed yn yr adolygiad cyntaf, a
gyflwynwyd ym mis Ionawr 2013, ac yn nodi rhai o'r camau gweithredu ar gyfer y
dyfodol. Cynhaliwyd yr ymarfer gan Gareth Watts, Pennaeth Archwilio Mewnol y
Comisiwn.
Canfu'r adolygiad fod y Comisiwn wedi parhau i wneud cynnydd.
Roedd y Comisiynwyr wedi dangos trosolwg effeithiol o brosiectau arwyddocaol
fel Dyfodol TGCh a'r prosiect Cyfieithu Peirianyddol. Roedd datblygu adnoddau
fel dangosyddion perfformiad allweddol wedi arwain at ffocws strategol gwell, a
mwy o atebolrwydd a thryloywder.
Roedd Comisiynwyr unigol wedi dangos meistrolaeth gref ar eu
portffolios perthnasol, gan arwain y drafodaeth ar eu meysydd cyfrifoldeb a
meithrin cydberthnasau effeithiol gyda'r staff sy'n gweithio yn y meysydd hynny.
Fel aelodau o fwrdd llywodraethu, teimla'r Comisiynwyr y gallant edrych ar
faterion mewn ffordd gorfforaethol a rhoi eglurhad i'w grwpiau gwleidyddol a'r
cyhoedd o'r penderfyniadau a wnaed.
Derbyniodd y Comisiynwyr y cynigion yn y papur, gan gynnwys datblygu
cynllun gweithredu ar gyfer rhoi argymhellion yr adroddiad ar waith. Teimlwyd
fod yr adolygiad wedi bod yn ymarfer gwerthfawr o ran nodi'r meysydd lle roedd
y Comisiwn wedi gweithio'n dda a nodi'r cyfleoedd ar gyfer y 12 mis sydd i
ddod. Cynhelir adolygiad pellach y flwyddyn nesaf. Diolchwyd i Gareth Watts am
gynnal yr adolygiad.
Cyfarfod: 24/01/2013 - Comisiwn y Senedd (Eitem 2)
Adolygiad o Effeithiolrwydd y Comisiwn