Cyfarfodydd
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Mordwyo Morol
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 19/02/2013 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 8.)
Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol - y Bil Mordwyo Morol (Rhif 2)
NDM5126 Alun Davies (Blaenau Gwent)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol
Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried darpariaethau'r Bil
Mordwyo Morol (Rhif 2), sy’n ymwneud â diwygiadau i Ddeddf Peilota 1987, Deddf
Harbyrau 1964 a Deddf Llongau Masnach 1995, i’r graddau y maent yn dod o fewn
cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Mae Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol wedi’i osod yn y
Swyddfa Gyflwyno ar 21 Rhagfyr 2012 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(iii).
Dogfennau Ategol
I weld copi o’r Bil ewch i:
http://services.parliament.uk/bills/2012-13/marinenavigationno2.html
Memorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol
Adroddiad
Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 17.22
NDM5126 Alun Davies (Blaenau Gwent)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog
29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried darpariaethau'r Bil Mordwyo Morol
(Rhif 2), sy’n ymwneud â diwygiadau i Ddeddf Peilota 1987, Deddf Harbyrau 1964
a Deddf Llongau Masnach 1995, i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd
deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Mae Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol wedi’i osod yn y
Swyddfa Gyflwyno ar 21 Rhagfyr 2012 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(iii).
Derbyniwyd y cynnig yn unol
â Rheol Sefydlog 12.36.
Cyfarfod: 17/01/2013 - Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 8)
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol y Bil Mordwyo Morol
E&S(4)-02-13 papur 5
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 4
Cofnodion:
8.1 Ystyriodd y Pwyllgor y
papur.