Cyfarfodydd

P-04-451 Achub Gwasanaethau Ysbyty Brenhinol Morgannwg

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 04/06/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

5 P-04-451 Achub Gwasanaethau Ysbyty Brenhinol Morgannwg

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:

 

·         ysgrifennu at y deisebwr yn gofyn iddo gymryd rhan yn yr ymgynghoriad cyhoeddus; ac 

·         aros am ganlyniadau'r ymgynghoriad.

 

Yn ogystal, gwnaeth yr Aelodau gais am nodyn ar ymdrin â deisebau ynghylch ad-drefnu ysbytai. 

 


Cyfarfod: 19/03/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-451 Achub Gwasanaethau Ysbyty Brenhinol Morgannwg

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at Fwrdd Iechyd Lleol Cwm Taf i holi a fyddai modd iddo ystyried y ddeiseb fel rhan o’r ymgynghoriad ar ad-drefnu gwasanaethau.


Cyfarfod: 29/01/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 P-04-451 Achub Gwasanaethau Ysbyty Brenhinol Morgannwg

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn ystyried y ddeiseb hon am y tro cyntaf, a chytunodd i ysgrifennu at Fwrdd Iechyd Lleol Cwm Taf, gan anfon copi at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, i ofyn pa ymgynghoriad sydd wedi’i gynnal, sut y bydd yr ymgynghoriad hwn yn helpu i ddatblygu cynlluniau a phryd y bydd penderfyniad terfynol yn cael ei wneud ynghylch gwasanaethau yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg.