Cyfarfodydd

P-04-455 Achub adran achosion brys yn Ysbyty'r Tywysog Philip

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 04/04/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-04-455 Achub adran achosion brys yn Ysbyty'r Tywysog Philip

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb oherwydd yr amser sydd wedi mynd heibio ers i'r deisebydd gysylltu ddiwethaf â'r Pwyllgor.

 

 


Cyfarfod: 04/02/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-455 Achub adran achosion brys yn Ysbyty'r Tywysog Philip

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y deisebau a chytunodd i:

 

  • gau deiseb Uned Mân Anafiadau Dinbych-y-pysgod, ond i ysgrifennu at Fwrdd Iechyd Hywel Dda yn gofyn am eglurhad ynghylch y gwasanaeth newydd sydd i'w ddarparu mewn perthynas â'r angen i fod wedi cofrestru gyda meddyg teulu;
  • ceisio barn y deisebydd yn dilyn datganiad y Gweinidog ynghylch yr uned newyddenedigol yn Ysbyty Glangwili, ac
  • ar awgrym y deisebydd, gohirio trafodaeth bellach ar y ddeiseb Achub ein Gwasanaethau hyd nes y bydd canlyniad yr adolygiad barnwrol yn hysbys.

 

 

 


Cyfarfod: 11/11/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-394 Achub ein Gwasanaethau - Ysbyty Tywysog Philip

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:

 

·         ysgrifennu at y Gweinidog yn holi am ragor o fanylion am bwrpas y panel craffu arbenigol; 

·         tynnu sylw'r Gweinidog at yr ohebiaeth bellach gan y deisebwyr a gofyn i’r panel ei hystyried;

·         aros am benderfyniad y Gweinidog yn sgîl y cyngor mae'n ei gael gan y panel; a

·         cheisio ymateb gan fwrdd iechyd Hywel Dda, gan roi copi o'r cais i'r Gweinidog a mynegi pryder am yr amser a gymerwyd i ymateb i ohebiaeth y Pwyllgor.

 

 


Cyfarfod: 14/05/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-455 Achub adran achosion brys yn Ysbyty'r Tywysog Philip

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth am y deisebau a chytunodd i:

·         grwpio deiseb P-04-455 gyda'r deisebau eraill sy'n gysylltiedig â Hywel Dda;

·         ysgrifennu at Fwrdd Iechyd Lleol Hywel Dda ynghylch Uned Mân Anafiadau Dinbych-y-pysgod yn gofyn a fyddent yn gallu bodloni'r amodau a bennir gan y cyngor iechyd cymuned wrth ddarparu gwasanaeth mân anafiadau yn Ninbych-y-pysgod; ac

·         ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn gofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am wasanaethau yn Ysbyty'r Tywysog Philip ac Ysbyty Llwynhelyg a gofyn iddo roi gwybod i'r Pwyllgor pan fydd penderfyniad terfynol wedi'i wneud.

 

 


Cyfarfod: 29/01/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 P-04-455 Achub adran achosion brys yn Ysbyty'r Tywysog Philip

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn ystyried y ddeiseb hon am y tro cyntaf, a chytunodd i aros am ymateb gan Fwrdd Iechyd Lleol Hywel Dda i’r cais am ragor o wybodaeth am sut y mae’r broses ymgynghori wedi llywio’r broses o wneud penderfyniad.