Cyfarfodydd
P-04-448 Gwella gwasanaethau iechyd rhywiol yng ngorllewin y Fro
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 12/05/2015 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)
4 Gohebiaeth
Papur i’w Nodi:
Cadeirydd Pwyllgor Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i’r
Cadeirydd
Dogfennau ategol:
Cofnodion:
4.1 Nododd
y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a
chytunodd i weithio gyda Chydffederasiwn y GIG i helpu i hwyluso atebion gan
Fyrddau Iechyd Lleol.
4.2 Yn
dilyn cynnig gan y Cadeirydd, cytunodd y Pwyllgor o dan Reol Sefydlog 17.42 i
benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod er mwyn trafod mater sy’n ymwneud â
busnes mewnol y Pwyllgor.
Cyfarfod: 03/02/2015 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)
4 P-04-448 Gwella gwasanaethau iechyd rhywiol yng ngorllewin y Fro
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 4 PDF 27 KB Gweld fel HTML (4/1) 9 KB
- 20.01.2015 Gohebiaeth - Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro I’r Cadeirydd (Saesneg yn unig), Eitem 4 PDF 96 KB
- Papur ar ymatebion gan Fyrddau Iechyd , Gweld rhesymau dros gyfyngu (4/3)
Cofnodion:
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu
unwaith eto at y deisebydd yn gofyn am ei barn am y llythyr gan y Bwrdd Iechyd.
Ar bwynt ehangach cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at:
- y
Gweinidog yn amlinellu faint o amser y mae wedi ei gymryd (ac yn ei
gymryd) i gael atebion gan fyrddau iechyd a gofyn pa gamau y mae'n bwriadu
eu cymryd i wella'r sefyllfa; a'r
- Pwyllgor
Iechyd a Gofal Cymdeithasol i weld a oes ganddynt unrhyw bryderon.
Cyfarfod: 20/01/2015 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)
4 P-04-448 Gwella gwasanaethau iechyd rhywiol yng ngorllewin y Fro
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 4 PDF 27 KB Gweld fel HTML (4/1) 9 KB
- 08.12.2014 Gohebiaeth – y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol at y Cadeirydd, Eitem 4 PDF 1 MB
- 08.09.2014 Gohebiaeth – y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol at Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, Eitem 4 PDF 1 MB
Cofnodion:
Ystyriodd y
Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:
·
ysgrifennu
eto at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, yn mynegi pryder mawr yn
niffyg ymateb gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, gyda chopïau’n mynd
at Gadeirydd y Bwrdd Iechyd a Chadeirydd y Cyngor Iechyd Cymunedol; a
- llunio papur i ddwyn ynghyd y
wybodaeth am yr anawsterau o ran cael ymatebion gan Fyrddau Iechyd ar
nifer o ddeisebau.
Cyfarfod: 03/06/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)
3 P-04-448 Gwella gwasanaethau iechyd rhywiol yng ngorllewin y Fro
Dogfennau ategol:
Cofnodion:
Ystyriodd
y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at:
·
y Gweinidog yn mynegi pryder difrifol am y diffyg ymateb gan
Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro; a'r
·
Cyngor Gofal Iechyd Cymunedol yn mynegi pryderon y Pwyllgor
ynghylch y Bwrdd Iechyd ac yn gofyn a ydynt wedi ymgymryd ag unrhyw
ymchwiliadau ynghylch y materion a godwyd yn y ddeiseb.
Cyfarfod: 26/11/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)
4 P-04-448 Gwella gwasanaethau iechyd rhywiol yng ngorllewin y Fro
Dogfennau ategol:
Cofnodion:
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i
ysgrifennu at Brif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, yn
mynegi pryder ynghylch y diffyg ymateb, gan anfon copi at y Gweinidog Iechyd a
Gofal Cymdeithasol.
Cyfarfod: 16/04/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)
3 P-04-448 Gwella gwasanaethau iechyd rhywiol yng ngorllewin y Fro
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 3 PDF 92 KB Gweld fel HTML (3/1) 9 KB
- 14.02.2013 Gohebiaeth - oddi wrth y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol at y Cadeirydd, Eitem 3 PDF 272 KB
- 13.03.2013 Gohebiaeth - oddi wrth Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro at y Cadeirydd, Eitem 3 PDF 131 KB
Cofnodion:
Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i:
·
ysgrifennu at Fwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Caerdydd a'r
Fro i ofyn am ragor o fanylion ar amserlen yr adolygiad gwasanaethau iechyd
rhywiol; ac
·
ailedrych ar y ddeiseb ar ôl i’r adolygiad gael ei gwblhau
i ystyried y goblygiadau ar gyfer gwasanaethau iechyd rhywiol yng ngorllewin y
Fro.
Cyfarfod: 29/01/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)
2 P-04-448 Gwella gwasanaethau iechyd rhywiol yng ngorllewin y Fro
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 2 PDF 92 KB Gweld fel HTML (2/1) 9 KB
- 20.01.13 Additional Information from Petitioner, Eitem 2 PDF 9 KB Gweld fel HTML (2/2) 5 KB
Cofnodion:
Bu’r Pwyllgor yn ystyried y ddeiseb am y tro cyntaf, a chytunodd i ysgrifennu at:
· y Gweinidog Iechyd a Gwasanethau Cymdeithasol i gael ei barn ar y ddeiseb; a
· Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Caerdydd a’r Fro, yn gofyn a yw’n teimlo bod ganddo gyllideb ddigonol i weithredu gwasanaethau iechyd rhywiol yng ngorllewin y Fro ac a oes unrhyw gynlluniau i gael gwared ar y clinig presennol.