Cyfarfodydd

Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Ynni

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 24/10/2022 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol (Eitem 2)

2 Gohebiaeth gan Lesley Griffiths i’r Llywydd ynghylch Bil Prisiau Ynni’r DU

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 19/02/2013 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 7.)

Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol - y Bil Ynni

NDM5120 John Griffiths (Dwyrain Casnewydd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried darpariaethau'r Bil Ynni sy’n ymwneud â sefydlu safonau perfformiad ynghylch allyriadau i osod terfynau ar faint o garbon deuocsid y gall gorsaf bŵer tanwydd ffosil newydd (h.y. un sy’n cael ei phweru gan lo, olew neu nwy “naturiol”) ei ollwng yn ystod unrhyw flwyddyn benodol, i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Mae Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol wedi’i osod yn y Swyddfa Gyflwyno ar 5 Rhagfyr 2012 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(i).

Dogfennau Ategol
I weld copi o’r Bil ewch i:
http://services.parliament.uk/bills/2012-13/energy.html
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol
Adroddiad Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 17.15

NDM5120 John Griffiths (Dwyrain Casnewydd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried darpariaethau'r Bil Ynni sy’n ymwneud â sefydlu safonau perfformiad ynghylch allyriadau i osod terfynau ar faint o garbon deuocsid y gall gorsaf bŵer tanwydd ffosil newydd (h.y. un sy’n cael ei phweru gan lo, olew neu nwy “naturiol”) ei ollwng yn ystod unrhyw flwyddyn benodol, i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Mae Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol wedi’i osod yn y Swyddfa Gyflwyno ar 5 Rhagfyr 2012 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(i).

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 


Cyfarfod: 09/01/2013 - Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 8)

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol: y Bil Ynni - trafod y dull o'i ystyried

E&S(4)-01-13 papur 6

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 8

Cofnodion:

8.1 Trafododd y Pwyllgor y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol a chytunodd i gyflwyno adroddiad byr ar ei gasgliadau.


Cyfarfod: 21/06/2011 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 7.)

7. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol: Bil Senedd y DU ynghylch Ynni

 

NDM4727 John Griffiths (Dwyrain Casnewydd)

Bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried, yn ychwanegol at y darpariaethau y cyfeirir atynt yng nghynnig NNDM4634, ddarpariaethau pellach a gyflwynwyd yn y Bil Ynni ynghylch Dal a Storio Carbon, i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Mae Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol wedi’i osod yn y Swyddfa Gyflwyno ar 3 Mehefin 2011 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(iii).

Gellir cael mynediad i NNDM4634 drwy’r linc a ganlyn:

http://www.cynulliadcymru.org/bus-home/bus-third-assembly/bus-chamber/bus-chamber-third-assembly-motions.htm?act=dis&id=207234&ds=1/2011

I weld copi o’r Bil Ynni:

http://services.parliament.uk/bills/2010-11/energyhl.html

 

Dogfennau ategol:

Penderfyniad:

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.