Cyfarfodydd

P-04-442 : Sicrhau cymorth da i blant anabl a'u teuluoedd sy’n agos i’w cartrefi

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 13/06/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-04-442 Sicrhau cymorth da i blant anabl a'u teuluoedd sy'n agos i'w cartrefi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn trafod gohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i gau'r ddeiseb oherwydd yr amser sydd wedi mynd heibio ers iddi gael ei chyflwyno ac oherwydd nid yw'n bosibl nodi sut i ddwyn y ddeiseb ymlaen yn absenoldeb cyswllt gan y deisebydd.

 

 


Cyfarfod: 04/04/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 -04-442 Sicrhau cymorth da i blant anabl a'u teuluoedd sy’n agos i’w cartrefi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i ofyn am ymateb gan y deisebwr ac ystyried y ddeiseb eto yn y cyfarfod ar 9 Mai.

 

 

 


Cyfarfod: 04/06/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-442 Sicrhau cymorth da i blant anabl a'u teuluoedd sy’n agos i’w cartrefi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd yr Aelodau'r sesiwn dystiolaeth ar 14 Mai a chytunodd i:

 

·         ysgrifennu at y Gweinidog Addysg a Sgiliau gan amlygu pryderon y deisebwyr;

·         aros am ymateb i ymgynghoriad Anghenion Addysgol Arbennig gael ei gyhoeddi;

·         ysgrifennu at SOLACE yn holi am enghreifftiau o arfer da;

·         amlygu pryderon ynghylch diffiniad 'lleol' i'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol; ac i

·         ysgrifennu at y cyrff sy'n cynrychioli iechyd, addysg a gwasanaethau cymdeithasol ynghylch yr angen i gydweithio.

 

 

 

 


Cyfarfod: 14/05/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 P-04-442 Sicrhau cymorth da i blant anabl a'u teuluoedd sy’n agos i’w cartrefi: Sesiwn Dystiolaeth

Ian Thomas, Cyfarwyddwr Cymru, Scope

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Atebodd y deisebwr gwestiynau gan aelodau'r Pwyllgor.

 

 


Cyfarfod: 29/01/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-442 Sicrhau cymorth da i blant anabl a'u teuluoedd sy’n agos i’w cartrefi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn ystyried gohebiaeth Weinidogol am y ddeiseb, a chytunodd i:

·         geisio eglurhad gan Lywodraeth Cymru ynghylch pryd y bydd yr ymatebion i’r ymgynghoriad yn cael eu cyhoeddi;

·         ystyried yr ymatebion i’r ymgynghoriad a nodi tystion posibl i roi tystiolaeth i’r Pwyllgor;

·         ysgrifennu at y deisebwyr a’r Gweinidog Addysg a Sgiliau yn gofyn iddynt gyflwyno tystiolaeth;

·         gwahodd Cymdeithas Prif Weithredwyr ac Uwch-reolwyr Awdurdodau Lleol Cymru i roi tystiolaeth lafar; a

·         nodi awdurdodau lleol sy’n dangos arfer da yn y maes hwn, a’u gwahodd i roi tystiolaeth lafar.


Cyfarfod: 04/12/2012 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-442 : Sicrhau cymorth da i blant anabl a'u teuluoedd sy’n agos i’w cartrefi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Addysg a Sgiliau i ofyn am ei farn ar y ddeiseb a gofyn a allai’r Bil drafft gynnwys egwyddor ‘darparu’n lleol’.

Cytunodd y Pwyllgor hefyd i hysbysu’r Gweinidog y gall ei wahodd i roi tystiolaeth lafar mewn cyfarfod yn y dyfodol. Nodwyd os mai dyma’r achos, byddai Scope Cymru yn cael ei wahodd i roi tystiolaeth hefyd.